Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru

Adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd, cartref y busnes archebu post rhyngwladol modern cyntaf. Ond beth am y dyfodol i ganolbarth Cymru wedi Brexit? Dyma’r her a osodwyd gan Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru

Adeilad Pryce Jones yn y Drenewydd, cartref y busnes archebu post rhyngwladol modern cyntaf. Ond beth am y dyfodol i ganolbarth Cymru wedi Brexit? Dyma’r her a osodwyd gan Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru

02 Tachwedd 2017

Wrth i’r dadlau barhau am gysylltiadau masnach y DU gyda'r Undeb Ewropeaidd wedi Brexit, mae yna wahoddiad i bobl gyflwyno eu gweledigaethau ar gyfer canolbarth Cymru.

Ddydd Iau, 9 Tachwedd 2017 mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnal digwyddiad un-dydd, Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru.

Yn ystod y dydd bydd myfyrwyr chweched dosbarth o ysgolion a cholegau ar draws y Canolbarth yn cyfarfod i drafod yr heriau sy’n wynebu’r rhanbarth, a dyfeisio atebion posib.

Ymhlith y cwestiynau y byddant yn mynd i'r afael â hwy fydd sut i hyrwyddo lles, twf economaidd a chynaliadwyedd amgylcheddol.

Ac yna gyda’r hwyr cynhelir dadl gyhoeddus gyda'r Farwnes Eluned Morgan, AC; Dr Marc Welsh, Prifysgol Aberystwyth; Mr Barry Rees, Cyfarwyddwr Strategol: Dysgu a Phartneriaethau Cyngor Sir Ceredigion a Ben Lake AS.

Trefnir y ddau ddigwyddiad gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD y Brifysgol.

Dywedodd y trefnydd, yr Athro Rhys Jones o'r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear: “Mae'r heriau sy'n wynebu canolbarth Cymru yn niferus ac i’w gweld mewn llawer o ardaloedd gwledig eraill ledled y byd. Mae technoleg newydd, globaleiddio a’r modd y mae corfforaethau rhyngwladol mawr yn dominyddu masnach a’r holl adnoddau sydd ganddynt yn newid y ffordd yr ydym yn byw ein bywydau o ddydd i ddydd. Ac ar ben hynny, mae’r ansicrwydd ynghylch Brexit a beth fydd hynny’n ei olygu i ardal wledig sydd yn ddibynol i raddau helaeth ar ddiwydiannau megis amaethyddiaeth a thwristiaeth.

“Y cwestiwn allweddol yw sut y gallwn ymateb i'r heriau hyn yn adeiladol ac yn ymarferol.”

“Nod y digwyddiad yw meithrin y sgiliau fydd eu hangen ar y myfyrwyr  i ddeall yr heriau a wynebir gan y rhanbarth a'u galluogi i ddyfeisio atebion amgen iddynt. Bydd yn ddiddorol clywed yr hyn sydd gan bobl ifanc i’w ddweud gan mai nhw sy’n cynrychioli dyfodol y rhanbarth.”

Cynhelir y drafodaeth gyhoeddus Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru am 6.30 yr hwyr ddydd Iau 9 Tachwedd 2017 ym Medrus Mawr, Penbryn, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth.

Mae'r digwyddiad yn gysylltiedig â dwy astudiaeth sy'n cael eu cynnal gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth; IMAJINE a GLOBAL-RURAL.

Mae IMAJINE yn astudiaeth Horizon 2020 o anghydraddoldebau daearyddol a chyfiawnder gofodol mewn cyfres o ranbarthau ledled Ewrop.

Mae GLOBAL-RURAL yn brosiect mawr gan Cyngor Ymchwil Ewrop sy'n edrych ar effeithiau globaleiddio ar ranbarthau gwledig.

Trefnir Dychmygu dyfodol amgen i ganolbarth Cymru fel rhan o Ŵyl y Gwyddorau Cymdeithasol, Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol (ESRC) sy'n digwydd o 4 hyd 11 Tachwedd 2017.

Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru a GLOBAL -RURAL yn gysylltiedig â WISERD, Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru.