Cyfnod cyfieithu ym Mhrifysgol Aberystwyth i fardd o India

Mohini Gupta yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol gyda chriw o blant Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

Mohini Gupta yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol gyda chriw o blant Ysgol Gymraeg Aberystwyth.

02 Tachwedd 2017

Mae bardd o India yn treulio tri mis ym Mhrifysgol Aberystwyth yn cyfieithu gwaith Vikram Seth i’r Hindi ac yn cyfansoddi cerddi i ddarllenwyr ifanc.

Mae Mohini Gupta yma fel Cymrawd Cyfieithu ac Ysgrifennu Creadigol Ymddiriedolaeth Charles Wallace India, gwobr sy’n cael ei ddyfarnu i ysgrifennwyr creadigol ar ddechrau eu gyrfa gan Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau sy’n rhan o Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Aberystwyth yw'r unig Brifysgol yng Nghymru ac yn un o lond llaw o sefydliadau yn y DU i gael ei dewis ar gyfer Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Charles Wallace India.

Yn ogystal â chyfieithu gwaith Vikram Seth, mae Mohini Gupta hefyd wedi cymryd rhan mewn ystod o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn ystod ei chyfnod preswyl o dri mis.

Mae rhain yn cynnwys darlleniadau yn Saesneg a Hindi yng Ngŵyl INC, Galeri Caernarfon, mynychu digwyddiadau Diwrnod Cyfieithu Rhyngwladol - Y Llyfrgell Brydeinig, Llundain, cyfrannu at Ddiwrnod Rhyngwladol Ysgol Gymraeg Aberystwyth, a darllen gwaith yn Saesneg a Hindi yng ngwyl lenyddol Words & Generations yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.

Bu Mohini hefyd yn gweithio gyda myfyrwyr MA Astudiaethau Cyfieithu Proffesiynol ym Mhrifysgol Aberystwyth a bydd yn dychwelyd i’r Brifysgol ar 14 Tachwedd i weithio gyda myfyrwyr ysgrifennu creadigol gyda chyn fardd Plant Cymru, Eurig Salisbury.

Daw ei thaith lenyddol i ben ar 20 Tachwedd pan fydd yn mynychu digwyddiad llenyddol ym Medlinog.

Yn Delhi Newydd y mae Mohini yn gweithio fel arfer a hynny fel arweinydd rhaglen lenyddol newydd i fenywod Vedica Scholars for Women ac mae’n dweud bod harddwch a dwyieithrwydd Aberystwyth wedi gwneud argraff fawr arni.

"Mae Aberystwyth wedi teimlo fel cartref ers i mi gyrraedd yma,” meddai Mohini. “Mae rhyw egni afieithus yn perthyn i’r dref, er gwaethaf absenoldeb bwrlwm dinas fawr, ac mae'r lleoliad yn benthyg ei hun yn berffaith i’r canolbwyntio a'r ysbrydoliaeth hynny sydd mor bwysig i unrhyw fardd.

"Mae fy mhrofiad hyd yn oed yn gyfoethocach ers i mi ddechrau dysgu'r Gymraeg sy’n broses hynod ddiddorol i mi. Rwyf eisoes yn poeni am yr hiraeth am y machlud a ddaw i’m rhan ar ôl gadael, felly bydd yn rhaid i mi ganfod esgus i ddod yn ôl!"

Tra yn Aberystwyth, mae Mohini hefyd yn cyfansoddi ei barddoniaeth wreiddiol ei hun yn Saesneg, Hindi a Urdu gan anelu at gynulleidfa o ddarllenwyr ifanc.

"Yn y pen draw, bydd y prosiect barddoniaeth hwn yn rhan o brosiect o’r enw Mother-Tongue Twisters: Indian Poetry for Young Readers - sef llwyfan digidol amlieithog cynhwysfawr ar gyfer barddoniaeth gyfoes yn ieithoedd India," meddai.

"Bydd y cerddi yn cael eu cyfieithu a'u trawsgrifio i'r Saesneg ac amryw o ieithoedd eraill India er mwyn i ddarllenwyr o India a ledled y byd gael eu darllen a’u mwynhau."

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Mercator ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Elin Haf Gruffydd Jones: "Mae llwyfan Llenyddiaeth ar draws Ffiniau wedi bod yn rhan o’r Brifysgol ers dros 15 mlynedd bellach ac yn ystod y cyfnod hwn, mae cysylltiadau llenyddol cryf wedi eu ffurfio rhwng Cymru, Ewrop ac India. Mae Cymrodoriaeth Cyfieithu Creadigol ac Ysgrifennu Ymddiriedolaeth Charles Wallace India yn un enghraifft o'r berthynas hon sy'n dal i esblygu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Llenyddiaeth Ar Draws Ffiniau, Alexandra Büchler: “Mae Cymrodoriaeth Ymddiriedolaeth Charles Wallace India yn ychwanegiad ardderchog i’r portffolio eang o weithgareddau llenyddol a diwylliannol rydyn ni wedi bod yn eu datblygu rhwng Cymru ac India ers degawd. Rydym hefyd yn trefnu prosiect barddoniaeth sylweddol fel rhan o dymor diwylliannol y DU-India 2017 a gefnogir gan y Cyngor Prydeinig a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. Y nod yw meithrin perthynas rhwng Cymru ac India, gyda llenorion proffesiynol o Gymru ac India yn teithio i wledydd ei gilydd i gydweithio er mwyn datblygu, cynhyrchu a pherfformio gwaith newydd mewn ieithoedd gwahanol."

Un o'r awduron o Gymru sydd yn India yn ystod Hydref 2017 yw’r awdur arobryn Eurig Salisbury, darlithydd mewn Ysgrifennu Creadigol yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Tra yno, mae Eurig yn gweithio gyda Sampurna Chattarji sy’n nofelydd, yn fardd, yn gyfieithydd ac yn awdur plant, ac un o lenorion cyfrwng Saesneg mwyaf toreithiog India