Cyhoeddiad newydd ar ail gainc y Mabinogi

Dr Ian Hughes (Canol), golygydd y gyfrol newydd Bendigeiduran Uab Llyr; Dr Cathryn Charnell-White (Chwith), Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a Delyth Ifan, Cyfarwyddwr Cyhoeddwyr Adnoddau Addysg (CAA) gyda phyped enfawr o Bendigeidfran gan Small World Theatre, Aberteifi, sy’n rhan o arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth tan 16 Ionawr 2018.

Dr Ian Hughes (Canol), golygydd y gyfrol newydd Bendigeiduran Uab Llyr; Dr Cathryn Charnell-White (Chwith), Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth a Delyth Ifan, Cyfarwyddwr Cyhoeddwyr Adnoddau Addysg (CAA) gyda phyped enfawr o Bendigeidfran gan Small World Theatre, Aberteifi, sy’n rhan o arddangosfa yng Nghanolfan Gelfyddydau Aberystwyth tan 16 Ionawr 2018.

14 Tachwedd 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi’r golygiad cyntaf ers 80 o flynyddoedd o ail gainc y Mabinogi yn y Gymraeg.

Cafodd Bendigeiduran Uab Llyr ei gyhoeddi fis Tachwedd 2017 gan Cyhoeddwyr Adnoddau Addysg (CAA), sy’n rhan o’r Brifysgol.

Golygydd y gyfrol yw’r Dr Ian Hughes, sy’n Uwch Ddarlithydd Emeritws yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Dr Hughes: “Er canol y bedwaredd ganrif ar bymtheg, mae Ail Gainc y Mabinogi fel arfer yn cael ei hadnabod fel Branwen Uerch Lyr ond fe benderfynais i adfer teitl hŷn iddi, sef Bendigeiduran Uab Llyr.”

“Caiff y ceinciau eraill eu henwi yn ôl y person cyntaf a grybwyllir ynddynt ac yn ôl y diriogaeth y mae’n rheoli drosti: Pwyll yn Arglwydd ar Ddyfed, Manawydan yn dod yn Arglwydd ar Ddyfed, a Math yn Arglwydd ar Wynedd. Felly hefyd yn achos yr Ail Gainc, mae Bendigeidfran yn Frenin ar Brydain.”

Dyma’r golygiad cyntaf o ail gainc y Mabinogi yn y Gymraeg ers cyhoeddi cyfrol arloesol Ifor Williams, Pedeir Keinc y Mabinogi, dros bedwar ugain mlynedd yn ôl.

Dywedodd Delyth Ifan, Cyfarwyddwr CAA: “Mae hwn yn gyhoeddiad o bwys sy’n cyflwyno’r chwedlau cyfarwydd i gynulleidfa gyfoes. Mae ynddo ragymadrodd cynhwysfawr yn gosod y gainc yn ei chyd-destun ac yn olrhain gwreiddiau’r prif gymeriadau. Mae’n defnyddio’r testun o Lyfr Gwyn Rhydderch, ynghyd â gwahanol ddarlleniadau o Lyfr Coch Hergest a'r dernyn a gadwyd yn llawysgrif Peniarth 6.”

I nodi lansiad y cyhoeddiad, cafodd gweithdy arbennig ei drefnu yn Ysgol Gyfun Penweddig yn Aberystwyth ddydd Llun 13 Tachwedd 2017 ar gyfer disgyblion sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch mewn ysgolion lleol.

Fel rhan o’r digwyddiad, cafodd y myfyrwyr gyflwyniad i chwedl ‘Branwen Ferch Llyr’ gan olygydd y gyfrol y Dr Ian Hughes a fu hefyd yn arwain trafodaeth ar y testun.

Dywedodd Dr Cathryn Charnell-White, Pennaeth Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae staff yr Adran yn mwynhau gweithio gydag ysgolion, nid yn unig i rannu gwybodaeth am ein pwnc, ond hefyd i amrywio profiadau llenyddol disgyblion ac i gefnogi athrawon wrth eu gwaith. Bydd y golygiad newydd yma yn gaffaeliad gwerthfawr i fyfyrwyr sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch yn ogystal â myfyrwyr sy’n dilyn modiwlau gradd ar y Pedair Cainc.”

Mae Bendigeiduran Uab Llyr ar gael i’w brynu am £10 drwy wefan CAA: www.aber.ac.uk/caa.