Agor ffenest ddigidol ar y gorffennol

Llun digidol o gofnod myfyriwr cyntaf Prifysgol Aberystwyth, James Bateman

Llun digidol o gofnod myfyriwr cyntaf Prifysgol Aberystwyth, James Bateman

17 Tachwedd 2017

Mae cofnodion myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth sy’n dyddio’n ôl bron 150 mlynedd yn cael eu digideiddio a’u trawsgrifio er mwyn hwyluso gwaith pori a chwilio.

Mae’r cofnodion yn cael eu cadw mewn llawysgrifau â chloriau lledr ac maen nhw’n dyddio nôl i 1872 pan agorodd y Brifysgol ei drysau am y tro cyntaf.

Hyd yma, mynediad cyfyng sydd wedi bod i’r cyfrolau bregus hyn a’r broses o chwilio am wybodaeth yn llafurus ar adegau.

Wedi’i ariannu drwy roddion dyngarol gan gyn-fyfyrwyr y Brifysgol a chyfraniad hael gan Gangen Gymdeithas cyn-fyfyrwyr Aberystwyth Caerdydd, y nod yw creu cofnod electronig gwbl chwiliadwy o fyfyrwyr fu’n astudio yn Aberystwyth yn ystod y 19eg a ddechrau’r 20fed ganrif.

Prosiect ar y cyd ydyw rhwng Cangen Cymdeithas cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Caerdydd, Archifau Prifysgol Aberystwyth a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC).

Cychwynnodd y prosiect yn 2016, gyda phob tudalen o’r deg cyfrol yn cael ei ddigido’n unigol fel lluniau ag ansawdd da gan LlGC. 

Ymlaen wedyn at y broses araf o drawsgrifio’r cynnwys digidol er mwyn creu cofnod chwiliadwy.

Mae gwirfoddolwyr o Gangen Cymdeithas cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Caerdydd yn defnyddio offer trawsgrifio ar-lein a ddatblygwyd gan LlGC fel rhan o brosiect digido a thrawsgrifio’r Llyfr Coffa Cymreig, sy’n cael ei gadw yn Nheml Heddwch Caerdydd.

Cwblhawyd gwaith y gyfrol gyntaf (1872 – 1879) yn mis Awst, ac mae Cangen cyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth Caerdydd ar yr ail gyfrol yn barod. Mae Cangen Aberystwyth ar y naill law yn gweithio ar gyfrol arall, a bydd myfyrwyr presennol a swyddogion Undeb Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth yn ymuno â’r gwaith.

Dywedodd Archifydd Prifysgol Aberystwyth, Julie Archer: “Mae'n hynod gyffrous ein bod ni’n gallu, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr anhygoel, sicrhau bod y cyfoeth o wybodaeth sydd yn y cofrestrau yma yn agored. Mae’r gwirfoddolwyr yn elwa o ddysgu sgiliau newydd a’r ymchwilwyr yn elwa o ddeunydd sydd heb ei gyffwrdd hyd yma.

Ac mae’n briodol iawn bod gwaith trawsgrifio’r ail gyfrol yn dechrau nawr wrth i ni baratoi at ddathlu wythnos lansio’r ymgyrch Twrio drwy’r Archif”.

Mae Twrio drwy’r Archif yn ymgyrch sydd ar y cyd gan Yr Archifau Cenedlaethol a Chymdeithas Archifau a Chofnodion y DU ac Iwerddon. Mae’r ymgyrch yn cael ei lansio 18-26 Tachwedd eleni, a’r nod yw amlygu’r potensial unigryw sydd gan archifau i gyffroi pobl, i ddod a chymunedau ynghyd, ac i adrodd straeon rhyfeddol.  

Fel rhan o’r ymgyrch, bydd ffrwd trydar Archifau Prifysgol Aberystwyth @AberUniArchives yn rhyddhau lluniau diddorol o Archifau’r Brifysgol, bob dydd rhwng y 18-26 Tachwedd.