SilwairSMART – gwella effeithlonrwydd silwair yng Nghymru

Gwartheg godro yn bwyta silwair. Llun trwy garedigrwydd Genus ABS

Gwartheg godro yn bwyta silwair. Llun trwy garedigrwydd Genus ABS

24 Tachwedd 2017

Bydd consortiwm newydd sydd â’r nod o wella effeithlonrwydd gwneud silwair yng Nghymru o 20% yn cael ei lansio yn Ffair Aeaf Cymru yn Llanelwedd, ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2017.

Mae SilwairSMART yn cael ei arwain gan wyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), a gallai arwain at arbedion blynyddol o fwy na £8m i ffermwyr Cymru.

Bydd y consortiwm yn gweld ymchwilwyr IBERS yn cydweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant, Pöttinger, Genus ABS, a Volac.

Caiff ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru.

Dywedodd Rhun Fychan, gwyddonydd ymchwil silwair yn IBERS: "Bob blwyddyn, mae tua 5.4 miliwn tunnell o laswellt ffres yn cael ei silweirio yng Nghymru ar ffermydd da byw, gydag amcangyfrif  o £162M.

“Mae cynhyrchu silwair yn sbardun allweddol ar gyfer proffidioldeb ffermydd da byw yng Nghymru, ond mae'r prosesau cywasgu presennol yn aneffeithlon, ac amcangyfrifir colledion o tua 25% mewn systemau silwair clampio.

“Bydd SMARTsilage yn dwyn ynghyd yr arbenigedd silwair i ddod o hyd i ateb trwy gydweithredu i fanteisio ar dechnolegau amaethyddol newydd a rhai sydd eisoes yn bodoli, wedi'u targedu yng nghyfnodau allweddol y broses silweirio, gyda’r nod yn y pen draw o leihau'r colledion cyffredinol mewn silweirio o'r 25% presennol i lawr i 20%.

“Felly, gallai cyflawni'r nod cyffredin hwn yn y pen draw roi budd economaidd i Gymru o £8.1 miliwn y flwyddyn. Ar raddfa fferm sydd yn silweirio 500 tunnell DM o laswellt golyga y bydd 25 tunnell DM ychwanegol ar gael i'w fwydo sy’n werth £3750.”

Mae cynhyrchu bwyd cartref i anifeiliaid yn llwyddiannus, sydd fel arfer yn cael ei gadw mewn silwair glaswellt fel prif borthiant ar gyfer systemau da byw cnoi cil, yn hanfodol i gynaliadwyedd diwydiant da byw Cymru a diogelwch bwyd.

Yn ogystal â chynyddu faint o silwair sydd ar gael i fwydo’r anifeiliaid, bydd lleihau colledion enfawr yn arwain at silwair o ansawdd uwch a pherfformiad gwell yn yr anifail.

Mae colledion silwair yn cynrychioli colled ariannol o ran porthiant, ond maent hefyd yn risg amgylcheddol gan eu bod yn cynnwys colledion maethol, nwyol a hylifol, ar ffurf cyfansoddion carbon anweddol (e.e carbon deuocsid) ac elifiant silwair, yn y drefn honno, gan leihau ansawdd yr aer, a llygru dŵr arwynebol a daear.

Drwy leihau colli silwair bwydo gwerthfawr, mae'n bosibl y bydd y prosiect hwn yn darparu budd economaidd ac amgylcheddol positif i ddiwydiant amaethyddol Cymru.

Amcanion tymor byr prosiect SilwairSMART yw datblygu ymagwedd gydweithredol newydd i fanteisio ar y technolegau amaethyddol diweddaraf, technoleg cynaeafu porthiant a brechlynnau silwair, pob un wedi'i dargedu yng nghyfnodau allweddol y broses silweirio, gyda'r nod cyffredinol o wella effeithlonrwydd cynhyrchu silwair o 20% yng Nghymru.

Yr amcan yn y tymor hir yw defnyddio canfyddiadau'r gwaith hwn a'r cyfleoedd y mae'n eu cyflwyno i ddatblygu nod cyffredin, i ddiffinio Cymru fel arweinydd byd-eang mewn ymchwil cynhyrchu silwair i gwmnïau a ffermwyr sy'n chwilio am atebion amaethyddol byd-eang