Pelenni tân, ffrwydradau a rocedi yn Narlith Goffa Bill Williams eleni

Dr Joel Loveridge

Dr Joel Loveridge

27 Tachwedd 2017

Creating fireworks, and the scientific principles behind them’
Dr Joel Loveridge, Prifysgol Abertawe
1.15-2.15pm, ddydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017
Y Brif Ddarlithfa Ffiseg, Campws Penglais, Prifysgol Aberystwyth

Dr Joel Loveridge, Uwch Ddarlithydd Cemeg ym Mhrifysgol Abertawe, fydd yn traddodi Darlith Goffa Bill Williams eleni, darlith a anelir at ddisgyblion ysgol o flwyddyn 10 i fyny.

Teitl y ddarlith fydd ‘Creating fireworks, and the scientific principles behind them’, ac fe'i cynhelir rhwng 1.15-2.15pm, ddydd Mercher, 13 Rhagfyr 2017, yn y Brif Ddarlithfa Ffiseg ar Gampws Penglais.

Trwy gyfrwng arddangosiadau a fydd yn cynnwys pelenni tân, ffrwydradau a rocedi, bydd Dr Loveridge yn trafod yr hyn sydd angen ei ystyried wrth greu tân gwyllt, a'r wyddoniaeth sy'n rhan o'u paratoi.

Sefydlwyd y Ddarlith Goffa flynyddol yn deyrnged i'r diweddar A.J.S “Bill” Williams MBE (1920-2016) a oedd yn adnabyddus am ei gyfres o ddarlithoedd i ysgolion.

Yn ystod ei yrfa faith ym Mhrifysgol Aberystwyth o 1950-2011, teithiodd hyd a lled y wlad yn siarad â 80,000 o blant.

Yn rhan o gynllun y Gymdeithas Gemeg Frenhinol i hybu diddordeb ymhlith plant 10-11 oed, dyfeisiodd Bill y ddarlith arddangos 'Science and Energy' ym 1990, a ddangosai fod ynni yn digwydd ar wahanol ffurfiau sy'n gyfnewidiadwy. Yn ei ddarlith, y plant oedd yn gwneud yr holl arbrofion. Traddodwyd y ddarlith ledled Prydain, a hynny tua 800 o weithiau.

Oherwydd ei frwdfrydedd a'i ymroddiad enillodd nifer o wobrau yn ystod ei fywyd, gan gynnwys ei MBE am Wasanaeth i Wyddoniaeth ac i Bobl Ifanc, Darlith Gwobr Michael Faraday, Medal Efydd B.D. Shaw, a Medal Arian y Gymdeithas Gemeg Frenhinol am Gyflawniad yn Hyrwyddo Cemeg.  Yn 2014, cafodd ei enwi'n un o'r 175 o Wynebau Cemeg y Gymdeithas Gemeg Frenhinol.  Yn 2016, cafodd ei anrhydeddu ar ôl ei farw gan Gymrodoriaeth Prifysgol Aberystwyth.  

Trefnir Darlith Goffa Bill Williams gan Gymdeithas Gwyddonwyr Ifanc Gorllewin Cymru, a sefydlwyd gan Bill Williams a Syr Granville Beynon yn 1977, ac fe'i noddir gan y Sefydliad Ffiseg a'r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

I gael rhagor o wybodaeth am y ddarlith cysylltwch â Paula Hughes - pah15@aber.ac.uk

 

AU40917