Cytuno ar arian adnewyddu Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn

Neuadd Pantycelyn

27 Tachwedd 2017

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cymeradwyo pecyn cyllid gwerth £12 miliwn fel rhan o'i chynlluniau i adnewyddu neuadd breswyl hanesyddol Pantycelyn.

Mewn cyfarfod o Gyngor y Brifysgol ddydd Llun 27 Tachwedd, cytunodd yr aelodau ar y cyllid cyfalaf sydd ei angen i adnewyddu'r neuadd ar gyfer myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £5 miliwn mewn egwyddor tuag at gost y prosiect uchelgeisiol fel rhan o'i Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif.

Y bwriad yw ailagor Pantycelyn erbyn Medi 2019 fel neuadd breswyl cyfrwng Cymraeg sy'n cynnig llety gwych, addas ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd Canghellor a Chadeirydd Cyngor Prifysgol Aberystwyth, Syr Emyr Jones Parry: "Mae penderfyniad heddiw yn adlewyrchu ymrwymiad y Brifysgol i'r iaith a’r diwylliant Cymraeg. Mae ein penderfyniad heddiw yn garreg filltir arall ar y daith tuag at ein bwriad i ailagor Pantycelyn erbyn Medi 2019. Rydym yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei hymrwymiad hael, a fydd yn helpu i ddatblygu’r profiad myfyrwyr rhagorol sydd yma yn Aberystwyth.”

Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Kirsty Williams: “Mae gan Bantycelyn hanes hir a nodedig ac rwy'n falch bod cynlluniau ar waith i ailagor y neuaddau erbyn 2019.

“Yn amodol ar gymeradwyaeth derfynol, mae gan y cyllid hwn o'n Rhaglen Ysgolion ac Addysg 21ain Ganrif y potensial i drawsnewid y neuadd a chynnig cartref newydd modern i genedlaethau o fyfyrwyr yn y dyfodol.”

Dywedodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Rwyf wrth fy modd bod aelodau'r Cyngor wedi cymeradwyo'r pecyn cyllido hwn sy'n mynd â ni gam yn nes at ailagor Neuadd Pantycelyn. Bydd y gwaith adnewyddu hwn yn fuddsoddiad yn nyfodol myfyrwyr Cymraeg eu hiaith am genedlaethau i ddod ac yn ychwanegiad arbennig at y portffolio ardderchog o lety myfyrwyr a gynigir yn Aberystwyth. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am eu cefnogaeth hael ar gyfer yr adeilad rhestredig Gradd 2 hwn sydd wedi bod yn ganolfan gymdeithasol a diwylliannol i fyfyrwyr sy'n siarad Cymraeg ers y 1970au.”

Lluniwyd cynlluniau manwl ar gyfer adnewyddu Pantycelyn gan benseiri ar ran y Brifysgol.

Maent yn cynnwys darparu 200 o ystafelloedd gwely cyfoes, en-suite, yn ogystal â mannau cymdeithasol cyhoeddus ar gyfer myfyrwyr a'r gymuned leol.

Bydd y Brifysgol yn ailgyflwyno ei chais cynllunio i Gyngor Sir Ceredigion yn fuan, yn dilyn cais i gynnwys gosod system chwistrellu yn y strategaeth dân ar gyfer adnewyddu'r adeilad.

Gwerfyl Pierce Jones yw Dirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth a Chadeirydd Bwrdd Prosiect Pantycelyn, sy'n goruchwylio cynlluniau i ailddatblygu'r neuadd breswyl i fyfyrwyr Cymraeg eu hiaith: “Mae hwn yn gyhoeddiad o’r pwys mwyaf: Gyda’r ffynonellau ariannol bellach yn eu lle gallwn edrych ymlaen at weld yr adeiladwyr ar y safle yn y dyfodol agos. Bydd y Bwrdd Prosiect yn parhau i oruchwylio’r camau nesaf ar ran y Brifysgol a byddwn yn gwneud popeth posibl i sicrhau fod Pantycelyn yn ailagor yn unol â’r amserlen ac y bydd y gwaith gorffenedig o’r safon orau.”

Dywedodd Llywydd Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth - UMCA, Gwion Llwyd, sydd hefyd yn aelod o Gyngor y Brifysgol: “Mae UMCA wedi bod yn galw am fuddsoddiad er mwyn adnewyddu Pantycelyn, ac felly rydym yn falch iawn o'r penderfyniad a wnaed gan y Cyngor heddiw. Edrychwn ymlaen at weithio gyda'r Brifysgol i sicrhau cyfleusterau o'r radd flaenaf ym Mhantycelyn ac i ddatblygu ymhellach y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ar gyfer myfyrwyr Aber.”