Gwyddonwyr o Aber yn arwain gweithdy ar lifogydd rhewlifol yn Kathmandu

Llyn rhewlifol ym Mhatagonia Chile wedi ei ffurfio wrth i Rewlif Chileno grebachu

Llyn rhewlifol ym Mhatagonia Chile wedi ei ffurfio wrth i Rewlif Chileno grebachu

28 Tachwedd 2017

Peryglon o fflach lifogydd yn Nepal wedi eu hachosi gan argaeau llynnoedd rhewlifol yn torri yw ffocws gweithdy dau ddiwrnod sydd yn cael ei gynnal gan wyddonwyr o Aberystwyth yn Kathmandu ac sy'n dechrau heddiw, ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2017.

MaeGlacial lakes and GLOF (Glacial Lakes Outburst Floods) hazard assessment and mitigation: Chile and Nepal yn cael ei threfnu gan yr Athro Neil Glasser a Dr Ryan Wilson o Ganolfan Rhewlifeg yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Mae llynnoedd rhewlifol yn ffurfio pan fydd rhewlifoedd yn cilio o ganlyniad i newid hinsawdd.

Tu ôl i argaeau o falurion rhewlifol – creigiau, cerrig a llaid – mae’r llynoedd yma yn aml yn fawr ac ansefydlog. Pan fyddant yn torri, maent yn rhyddhau llawer fawr iawn o ddŵr i’r dyffrynnoedd islaw.

Amcangyfrifir bod 15,000 o farwolaethau wedi'u hachosi yn Ne America gan lifogydd llynnoedd rhewlifol yn ystod y 200 mlynedd diwethaf.

Mewn un digwyddiad yn unig, yn 1941 yn Peru, collodd 5000 o bobl eu bywydau.

Yn fwy diweddar, yn 2015, rhyddhawyd 1.8 miliwn o fetrau ciwbig o ddŵr dros ardal o 10 cilometr yn Nyffryn Chileno ym Mhatagonia Chile, wedi i argae rhewlifol chwalu. Oherwydd ei bod mewn ardal anghysbell, chollodd neb eu bywydau.

Fodd bynnag, mae'r digwyddiadau hyn hefyd yn peri risg sylweddol i seilwaith.

Yn aml mae cynlluniau pŵer trydan hydro, ffyrdd a phontydd yn cael eu dinistrio ac mae cost flynyddol prosiectau lliniaru llifogydd yn ganoedd o filiynau o Ewros.

Dan arweiniad yr Athro Neil Glasser, mae rhewlifegwyr Aberystwyth wedi bod yn gweithio gyda gwyddonwyr yn y DU a Chile i ddeall yn well sut mae llynnoedd rhewlifol yn ffurfio a'r peryglon a ddaw yn eu sgìl.

Gyda chyllid gan Gyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol a CONICYT, Comisiwn Gwyddoniaeth Ymchwil a Thechnoleg Cenedlaethol Chile, mae’r Athro Glasser a chydweithwyr yn cymhwyso'r gwaith yn Ne America i asesu'r peryglon yn yr Himalaya.

Dywedodd yr Athro Glasser, Cyfarwyddwr Prosiect Chile-UK Research: “Mae llawer o ymchwil wedi ei wneud yn Ne America i ddeall y broblem sylfaenol gyda llynoedd rhewlifol, a’r camau y gellir eu cyflwyno i liniaru rhywfaint ar y difrod posibl. Pwrpas y gweithdy yn Kathmandu yw cymhwyso’r hyn rydym eisoes wedi ei ddysgu yn Ne America i’r Himalaya, fel bod yr awdurdodau yn Nepal yn medru cynllunio ar gyfer llifogydd a allai fod yn ddinistriol ac yn fygythiad i fywyd.”

Mae'r gweithdy yn dwyn ynghyd arbenigwyr o'r DU a De America gyda chynrychiolwyr o sefydliadau cyhoeddus, masnachol ac addysgol yn Nepal.

Ymysg yr hyn fydd yn cael ei drafod bydd y defnydd o ddelweddau lloeren i fapio a monitro peryglon rhewlifol yn yr Himalaya a Chile, ac adolygiad o'r hyn sydd eisoes ar waith yn Nepal.

Bydd cynrychiolwyr hefyd yn adolygu effeithiolrwydd deddfau newydd a gyflwynwyd yn Chile i amddiffyn ardaloedd rhewlifol rhag gweithgaredd mwyngloddio i leihau'r perygl o lifogydd, a sut y gellir eu cymhwyso i Nepal.

Ym mis Mawrth 2017 rhybuddiodd Dr Ryan Wilson a Dr Stephan Harrison o Brifysgol Caerwysg am y peryglon o lynnoedd rhewlifol yn Chile.

Bydd y ddau yn cyflwyno ymchwil yn y gweithdy yn Kathmandu.

Mae’r gweithdy yn Kathmandu wedi ei drefnu fel rhan o brosiect ‘Peryglon Rhewlifol yn Chile’.

Mae'r prosiect yn dwyn ynghyd ymchwilwyr blaenllaw o Brifysgol Aberystwyth, Prifysgol Austral yn Chile, Prifysgol Exeter, Reynolds International Ltd, Geoestudios Ltda, Chile, a Phrifysgol Magallanes, Chile.

Ariennir y prosiect ar y cyd gan RCUK (Cynghorau Ymchwil y DU) a NERC (Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol) yn y DU a CONICYT (Comisiwn Cenedlaethol Ymchwil Gwyddonol a Thechnoleg) yn Chile.