Academyddion o Aberystwyth ar restr fer gwobrau ymchwil cymdeithasol

Chwith i’r Dde: Yr Athro Colin McInnes, rhestr fer Gwobr Cyflawniad Arbennig; Dr Elin Royles sydd ar restr fer Gwobr Effaith Ymchwil gyda Dr Huw Lewis a Dr Catrin Wyn Edwards; Dr Catrin Wyn Edwards, sydd ar restr fer Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn; a Dr Berit Bliesemann de Guevara, sydd ar restr fer Gwobr Arloesedd Ymchwil.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Colin McInnes, rhestr fer Gwobr Cyflawniad Arbennig; Dr Elin Royles sydd ar restr fer Gwobr Effaith Ymchwil gyda Dr Huw Lewis a Dr Catrin Wyn Edwards; Dr Catrin Wyn Edwards, sydd ar restr fer Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn; a Dr Berit Bliesemann de Guevara, sydd ar restr fer Gwobr Arloesedd Ymchwil.

01 Rhagfyr 2017

Mae ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth ar restr fer Gwobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru 2017 a fydd yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd ddydd Iau 7 Rhagfyr.

Cynhelir y gwobrau gan y Gymdeithas Ymchwil Cymdeithasol a’u noddi gan yr Ysgrifennydd Cyllid Llywodraeth Cymru Mark Drakeford AC, ac maent yn cydnabod a dathlu ymchwil ragorol gan ymchwilwyr gwyddoniaeth gymdeithasol yng Nghymru.

Mae pob rhestr fer yn cynnwys academyddion o Adran Gwleidyddiaeth Rhyngwladol Prifysgol Aberystwyth, gydag enwebiadau ym mhob un o'r pedwar categori; Gwobr Cyflawniad Arbennig, Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn, Gwobr Effaith Ymchwil a Gwobr Arloesedd Ymchwil.

Gwobr Cyflawniad Arbennig: Yr Athro Colin McInnes, Athro UNESCO Addysg a Diogelwch Iechyd HIV/AIDS yn Affrica.

Penodwyd yr Athro McInnes, sydd yn awdurdod blaenllaw ar iechyd byd-eang a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn Is-Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer UNESCO ym mis Ionawr 2017.

Ymchwilydd Gyrfa Cynnar y Flwyddyn: Dr Catrin Wyn Edwards.

Mae Dr Edwards wedi bod yn ymchwilio i integreiddio ieithyddol ymfudwyr i is-wladwriaethau, yn benodol yng Nghatalwnia a Chymru, a Quebec a New Brunswick yng Nghanada.

Gwobr Effaith Ymchwil: Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards.

Cafodd Dr Huw Lewis, Dr Elin Royles a Dr Catrin Wyn Edwards, sy’n gweithio i Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth, eu cynnwys ar y rhestr fer am eu gwaith hysbysu a dylanwadu ar y drafodaeth bolisi fu’n bwydo mewn i baratoi strategaeth iaith newydd Llywodraeth Cymru, Cymraeg 2050, Strategaeth y Gymraeg, gafodd ei chyhoeddi yng Ngorffennaf 2017.

Gwobr Arloesedd Ymchwil: Dr Berit Bliesemann de Guevara.

Enwebwyd Dr Bliesmann de Guevara am ei waith ar y cyd gydag ymchwilwyr o Brifysgol Caerdydd ar y prosiect "Defnyddio gweithdy arlunio i archwilio profiadau anffrwythlondeb menywod Croenddu a Lleiafrifoedd Ethnig yng Nghymru".

Meddai'r Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor, Ymchwil yn Aberystwyth: "Mae gan Brifysgol Aberystwyth hanes hir a nodedig o ymchwil o safon byd yn y gwyddorau cymdeithasol, sy'n cael ei gydnabod yn eang am ei ragoriaeth, gwreiddioldeb, arwyddocâd a'i chywirdeb. Rwyf wrth fy modd yn gweld gwaith cydweithwyr yn cael ei gydnabod fel hyn.”

Yn ôl yr adolygiad diweddaraf o ansawdd ymchwil y DU, Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2014, roedd 95% o’r gweithgaredd ymchwil a gyflwynwyd gan Brifysgol Aberystwyth yn cyrraedd safon gydnabyddedig ryngwladol neu uwch na hynny, gydag ymchwil sy’n arwain y byd (4*) yn cael ei nodi ym mhob un o 17 o’r Unedau Asesu a gyflwynwyd.

Roedd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y brig yng Nghymru, gyda dros 75% o'i ymchwil o safon gydnabyddedig ryngwladol neu yn neu'n rhagorol yn rhyngwladol (FfRhY2014).

Mae rhagor o wybodaeth am Wobrau Ymchwil Cymdeithasol Cymru ar gael ar-lein.