Agor Llyfrgell Hugh Owen ar ei newydd wedd

Torri'r rhuban i agor Lefel D Llyfrgell Hugh Owen ar ei newydd wedd yn swyddogol. O’r chwith i'r dde: Julie Hart (Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Elizabeth Treasure (Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth), Emma Beenham (Swyddog Materion Academaidd, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth), Tim Davies (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth), Gwion Llwyd (Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Llywydd UMCA)

Torri'r rhuban i agor Lefel D Llyfrgell Hugh Owen ar ei newydd wedd yn swyddogol. O’r chwith i'r dde: Julie Hart (Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth), Yr Athro Elizabeth Treasure (Is-Ganghellor, Prifysgol Aberystwyth), Emma Beenham (Swyddog Materion Academaidd, Undeb Myfyrwyr Aberystwyth), Tim Davies (Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth, Prifysgol Aberystwyth), Gwion Llwyd (Swyddog Diwylliant Cymreig Undeb Myfyrwyr Aberystwyth a Llywydd UMCA)

09 Ionawr 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi buddsoddi dros £1 miliwn wrth adnewyddu llyfrgell eiconig Hugh Owen.

Agorwyd Lefel D Llyfrgell Hugh Owen ar Gampws Penglais ar ei newydd wedd yn swyddogol ar ddydd Llun 8 Ionawr, ac mae’n ofod sy’n diwallu anghenion myfyrwyr yr 21ain ganrif.

Fel rhan o’r trawsnewidiad, ceir mwy o ofod astudio a gwell mynediad i gyfleusterau a gwasanaethau.

Gosodwyd gwell systemau goleuadau, gwresogi ac awyru mwy effeithlon, ac mae’r addurniadau a’r celfi wedi’u creu yn arbennig ar gyfer y gofod.

Bellach gall myfyrwyr sy'n defnyddio Lefel D y llyfrgell ddefnyddio dwy ystafell astudio grŵp newydd, amrywiaeth o leoedd astudio gyda mynediad i bŵer a WiFi, mwy o seddi, peiriannau lluniaeth a deunydd ysgrifennu, a thoiledau ychwanegol niwtral o ran rhywedd. Mae prif fynedfa'r llyfrgell hefyd wedi symud i'r piazza, cartref Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Undeb y Myfyrwyr.

Agorwyd y gofod newydd gan yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure, a ddywedodd: "Mae’n bleser cael agor Lefel D ar ei newydd wedd yn swyddogol. Ein nod fel Prifysgol yw darparu cyfleusterau dysgu ac addysgu rhagorol. Mae'r prosiect diweddaraf hwn yn rhan o fuddsoddiad ehangach ar draws y campws.

"Wrth gynllunio’r gwaith hwn, rydym wedi gwrando’n astud ar adborth ein myfyrwyr, ac mae staff o'n hadran Gwasanaethau Gwybodaeth wedi gweithio gyda phenseiri a chontractwyr i ddylunio a chyflwyno'r lle astudio hygyrch, deiniadol ac effeithlon hwn ar gyfer myfyrwyr yr 21ain ganrif."

Fel rhan o'r seremoni agoriadol, cyflwynodd y bardd Eurig Salisbury, darlithydd yn Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd y Brifysgol a Bardd Plant Cymru (2011-2013), ei gerdd i ddathlu agoriad Lefel D.

Dywedodd Eurig: “Achubais ar y cyfle i ddarllen am Hugh Owen (1804–81), y dyn ei hun a roes ei enw i'r adeilad, a dysgu o'r newydd am ei waith caled a di-ildio dros addysg yng Nghymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r fynedfa newydd – a symudwyd o ddannedd y gwynt ar flaen yr adeilad – yn borth hwylus at gyfoeth o lyfrau, a byddai'r hen Hugh, dwi'n amau, yn falch ohono.”

Yn wyneb rhai, fe gaeai'r gwynt – y ddôr
I ddysg ond, fel cerrynt,
Os bu'r drysau ar gau gynt,
Nid eir heddiw ond drwyddynt.

(Eurig Salisbury, 2018)

Dywedodd Julie Hart, Dirprwy Gyfarwyddwr Gwasanaethau Gwybodaeth a Phennaeth Llyfrgelloedd ym Mhrifysgol Aberystwyth:

"Mae darparu gwasanaethau a chyfleusterau sy'n diwallu anghenion ein defnyddwyr yn hynod o bwysig i ni, ac mae'r trawsnewidiad hwn o Lefel D wedi darparu mannau astudio deniadol a phwrpasol i gwrdd ag ystod o anghenion defnyddwyr.  Rydym ni'n hynod o hapus gyda'r canlyniad, ac yn ddiolchgar i'n penseiri, Darnton B3, a’r contractwyr, RLD Construction.  

Gwelwch luniau o'r llyfrgell yn ein albwm Flickr.

 

AU0318