Nodi 60 mlynedd ers sefydlu TWW – Television Wales and the West

Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth a Darllenydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm and Theledu

Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth a Darllenydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm and Theledu

12 Ionawr 2018

Drigain mlynedd ers sefydlu’r cwmni teledu annibynnol TWW, mae Dr Jamie Medhurst, Cyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth, yn edrych yn ôl ar ei ddyddiau cynnar.

“Er fod Winston Churchill wedi cyfeirio unwaith at ITV fel ‘tuppeny Punch and Judy show’, mae’r darlledwr wedi bod yn rhan o dirlun darlledu Prydain ers 1955.

Fe gafodd ei sefydlu wedi cyfnod o ddadlau ffyrnig y tu fewn a thu allan i’r Senedd, ac fe dorrodd ITV fonopoli’r BBC ar ddarlledu a chyflwyno arddull newydd o raglen a brofodd i fod yn hynod boblogaidd gyda’r gynulleidfa deledu oedd yn tyfu’n gyflym.

Yn seiliedig ar rwydwaith o gwmnïau rhanbarthol, fe dyfodd y rhwydwaith yn raddol o Lundain ym 1955, i ganolbarth a gogledd-orllewin Lloegr ym 1956 ac yna i Gymru ym 1958.

Ar 14 Ionawr 1958, agorodd drosglwyddydd St Hilary ym Mro Morgannwg a dechreuodd Television Wales and the West (TWW) ddarlledu rhaglenni rhwydwaith a lleol ITV i dde Cymru a gorllewin Lloegr.

Yn fuan, fe sicrhaodd y cwmni newydd gynulleidfa deyrngar ac yn ogystal â chariot rhaglenni poblogaidd megis Coronation Street a Sunday Night at the London Palladium, fe roddodd sialens i’r BBC o ran rhaglenni a gynhyrchwyd yn lleol.

Fe arloesodd TWW mewn i nifer o feysydd gan gynnwys sioeau cwis Cymraeg.

Fe dorodd raglenni megis Taro Deg (a gyfieithwyd i’r gynulleidfa di-Gymraeg yn hwyrach fel Try For Ten) a Pwy Fase’n Meddwl (a gyflwynwyd gan Wyn Roberts – yr Arglwydd Roberts o Gonwy yn hwyrach) dir newydd ym maes adloniant Cymraeg.

Roedd y cwmni’n ymwybodol iawn fod y gynulleidfa Gymraeg am gael rhaglenni oedd yn cynnig adloniant ac yn diddanu yn ogystal â rhaglenni oedd yn addysgu a darparu gwybodaeth.

Ar ben hynny, TWW gynhyrchodd y rhaglen boblogaidd, Land of Song/Gwlad y Gân, a gyflwynwyd gan y tenor carismataidd, Ivor Emmanuel, ac a leolwyd mewn pentref dychmygol o’r enw Llantelly. Darlledwyd y rhaglen ar draws rhwydwaith ITV rhwng 1958 a 1964.

Er fod TWW wedi camu i’r adwy wrth gymryd drosodd cwmni ITV gorllewin a gogledd Cymru – Teledu Cymru/WWN –  ym 1964 wedi i’r cwmni hwnnw fethdalu, fe gollodd TWW y cytundeb darlledu ym 1967.

Agorodd bennod newydd yn hanes darlledu Cymru wrth i gwmni Teledu Harlech (neu HTV yn hwyrach) ddechrau darlledu ym 1968.”

Mae Dr Jamie Medhurst yn Ddarllenydd yn y Cyfryngau a Chyfathrebu yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm and Theledu ac yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Hanes y Cyfryngau Prifysgol Aberystwyth.

Ar hyn o bryd mae’n arwain prosiect ymchwil a gyllidwyd gan Ymddiriedolaeth Leverhulme i’r berthynas rhwng teledu a chymdeithas yng Nghymru yn y 1970au.

Cyhoeddwyd ei gyfrol, A History of Independent Television in Wales, gan Gwasg Prifysgol Cymru yn 2010.