Ymweliad â Yosano i gryfhau’r cysylltiad rhwng Cymru a Japan

Chwith i’r Dde: Yr Athro Gary Rawnsley, Cyfarwyddwr Strategaeth Academi Rhyngwladol ac Athro Diplomyddiaeth Cyhoeddus, y myfyrwyr Samantha Schanzer, Giselle Morris, Marged Smith, Vera Tzoanou a Carys Bevan, a Dr Val Nolan o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Chwith i’r Dde: Yr Athro Gary Rawnsley, Cyfarwyddwr Strategaeth Academi Rhyngwladol ac Athro Diplomyddiaeth Cyhoeddus, y myfyrwyr Samantha Schanzer, Giselle Morris, Marged Smith, Vera Tzoanou a Carys Bevan, a Dr Val Nolan o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

23 Ionawr 2018

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn adeiladu ar y cysylltiad hir-dymor rhwng Aberystwyth a thref Yosano yn Japan pan fyddant yn ymweld yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Ddwy awr i'r gogledd o Kyoto ar arfordir gorllewinol Japan ac iddi boblogaeth o tua 24,000, sefydlwyd cysylltiad agos rhwng Yosano ag Aberystwyth yn y 1980au diolch i waith y cyn-garcharor rhyfel, y diweddar Frank Evans.

Dyma’r trydydd ymweliad gan fyfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth a fydd yn treulio unarddeg diwrnod yn aros gyda theuluoedd lleol yn Yosano.

Mi fydd Samantha Schanzer sydd yn astudio Llenyddiaeth Saesneg, Carys Bevan sydd yn astudio Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Drama a Theatr, Giselle Morris sydd yn astudio Ffiseg, Marged Smith sydd yn astudio Cymraeg a Hanes, a Vera Tzoanou sydd yn astudio Seicoleg, yn gadael am Yosano ddydd Iau 25 Ionawr.

Byddant yn teithio i Yosano yng nghwmni Dr Val Nolan o’r Adran Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol.

Yn rhinwedd eu rôl fel Llysgenhadon ar ran y Brifysgol a Chymru, bydd y criw yn cymryd rhan mewn digwyddiadau diwylliannol, yn ymweliad ag ysgolion lleol ac yn cyfarfod gyda chyngor y dref.

Yn ystod ymweliadau blaenorol, cafodd myfyrwyr gyfle i ddysgu am draddodiadau lliwio brethyn a gwneud nwdls, ymweld â phrifddinas ysbrydol Japan, Kyoto, ac â chofeb yn Yosano a ysbrydolwyd gan Frank Evans.

Yn wreiddiol o Lanwnnen ger Llanbedr Pont Steffan, cafodd Mr Evans ei ddal yn dilyn brwydr Hong Kong yn 1941 a'i garcharu yn Oeyama ger Yosano, lle bu'n gweithio mewn cloddfa a gwaith mwyndoddi nicel.

Ar ôl cyhoeddi ei atgofion ail-ymwelodd Mr Evans â’r gwersyll yn 1984 a chododd gofeb i’w gymrodyr ar y safle.

Yn y blynyddoedd dilynol, aeth ati i gymodi ac adeiladu cyfeillgarwch â’i gyn-garcharwyr ac arweiniodd hyn at sefydlu rhaglenni cyfnewid rhwng Aberystwyth a Yosano.

Mae Samantha Schanzer o Gwmbrân yn gobeithio treulio amser yn byw yn Japan wedi iddi raddio.

“Rydw i eisiau symud i Japan unwaith y byddaf yn gorffen yn y brifysgol i ddysgu neu gyfieithu, ac felly mae hwn yn gyfle gwych imi gael teimlad am y lle ac i weld a yw hynny'n rhywbeth yr wyf am ei wneud ai peidio. Rwy'n edrych ymlaen at y bwyd, rwyf wrth fy modd gyda bwyd Japaneaidd, ac i brofi rhywbeth newydd. Mae hwn yn gyfle gwych ac rwy'n ddiolchgar i gyn-fyfyrwyr y Brifysgol a'i hadrannau am eu cefnogaeth ariannol a gwneud hyn yn bosibl.”

Bu’r fyfyrwraig Ffiseg Giselle Morris yn astudio Japanaeg ar gwrs dysgu gydol oes yn Aberystwyth yn ystod ei blwyddyn gyntaf. Mae gan Giselle ddiddordeb mewn polisi newid hinsawdd.

“Rwy'n credu bod deall diwylliannau pobl eraill a’r cymhellion y tu ôl i'w ffyrdd o fyw yn elfen bwysig o ran dylanwadu ar bolisi newid hinsawdd. Mae'r cyfle i fynd i Japan yn rhan allweddol i mi er mwyn deall ei ffordd nhw o fyw; bydd yn brofiad diddorol iawn. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at fyw gyda theulu lleol a defnyddio fy Japanaeg.”

Trefnwyd yr ymweliad gan Gyfarwyddwr Strategaeth Academi Rhyngwladol ac Athro Diplomyddiaeth Gyhoeddus ym Mhrifysgol Aberystwyth, yr Athro Gary Rawnsley.

Dywedodd yr Athro Rawnsley: “Mae hwn yn gyfle gwych i'n myfyrwyr adeiladu ar y cyfeillgarwch gafodd ei sefydlu gan Frank Evans flynyddoedd yn ôl. Mae Prifysgol yn llawer mwy nac ystafell ddosbarth, darlithfeydd ac asesiadau; mae'n golygu rhoi cyfle i fyfyrwyr gael profiadau gwahanol, a chredaf fod hwn yn brofiad gwych i'n myfyrwyr. Rydym hefyd yn ddiolchgar am gefnogaeth ariannol cyn-fyfyrwyr y Brifysgol trwy Gronfa Aber, adrannau ac athrofeydd academaidd yma yn Aberystwyth, ac am letygarwch y teuluoedd yn Yosano a Chyngor Tref Yosano sydd wedi gwneud y daith bwysig hon bosibl.”

Roedd Suzy Williams yn un o wyth myfyriwr fu’n ymweld â Yosano yn Ionawr 2017. Yn ei blog, bu Suzy yn trafod profiadau Frank Evans fel cyn-garcharor rhyfel.

“Roedd clywed am hanes y cysylltiad rhwng Yosano ac Aberystwyth yn brofiad emosiynol. Bu Frank Evans mewn gwersyll gwaith yn Japan yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Yn wyrthiol, goroesodd, a phan ddychwelodd i Aberystwyth roedd yn casau pobl o Japan. Ond fe welodd yn fuan bod heddwch byd yn bwysicach nag unrhyw beth, ac felly ymwelodd â Yosano lle bu'n garcharor rhyfel. Cafodd ei groesawu gyda breichiau agored gan ddangos iddo pa mor dda oedden nhw. Roedd yn fraint cael bod yn rhan o gyfeillgarwch mor rhyfeddol a ddeilliodd o stori mor hyfryd.”

Mae lleoedd ar y daith yn cael eu cynnig i'r rhai a oedd yn llwyddiannus mewn cystadleuaeth traethawd lle gofynnwyd iddynt egluro pam y byddent yn gwneud llysgenhadon da ar gyfer Aberystwyth yn Japan.