Enillydd gwobr Pulitzer i siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr hanesydd, newyddiadurwraig ac enillydd gwobr Pulitzer, Anne Applebaum

Yr hanesydd, newyddiadurwraig ac enillydd gwobr Pulitzer, Anne Applebaum

29 Ionawr 2018

Bydd y dadlau a fu ynghylch adrodd am newyn mawr yr Wcrain 1932-1933 a laddodd rhwng 7-10 miliwn o bobl yn gefndir i Ddarlith Flynyddol Sefydliad Coffa David Davies 2018.

Bydd yr hanesydd, newyddiadurwraig ac enillydd gwobr Pulitzer, Anne Applebaum, yn traddodi’r ddarlith ‘A tale of two journalists: Gareth Jones, Walter Duranty and the Ukrainian famine’.

Yn y ddarlith, a fydd yn cael ei chynnal ar nos Iau 8 Chwefror 2018, bydd Applebaum, yn trafod adroddiad cyferbyniol Gareth Jones a Walter Duranty wrth i’r newyn gymryd lle.

Graddiodd Gareth Jones, a oedd yn wreiddiol o’r Bari, o Aberystwyth yn 1926. Ef oedd y newyddiadurwr gorllewinol cyntaf i ddod â rhyfeddodau ofnadwy’r Wcrain i sylw darllenwyr y tu allan i’r Undeb Sofietaidd.

Ar y llaw arall, anwybyddu tynged y miliynau o ddioddefwyr wnaeth Walter Duranty, newyddiadurwr a oedd hefyd wedi ennill gwobr Pulitzer am ei ohebiaeth ar yr Undeb Sofietaidd. Yn ddiweddarach, arweiniodd hyn at alwadau i ddiddymu’r wobr.

Bydd darlith Anne Applebaum yn seiliedig ar ei llyfr diweddaraf, The Red Famine, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2017 ac sydd wedi derbyn cryn ganmoliaeth.

Mae’r llyfr wedi ennill nifer o wobrau, gan gynnwys gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2017 y Sunday Times, The Times a’r Financial Times.

Dywedodd Cyfarwyddwr Sefydliad Coffa David Davies, Jan Ruzicka: “Fe fydd hi’n anrhydedd mawr i groesawu Anne Applebaum i Aberystwyth. Mae hi’n awdur rhagorol ac mae’n fraint i ni taw hi yw ein siaradwr eleni. Yn y 1930au, dangosodd Gareth Jones bwysigrwydd gohebu ar sail y ffeithiau, tra bod Walter Duranty ar y llaw arall wedi anwybyddu a gwadu dioddefaint miliynau o bobl yn yr Wcrain. Mae’r gymhariaeth gyda heddiw yn drawiadol. Mae croeso cynnes i bawb fynychu’r ddarlith sydd â chysylltiad lleol amlwg a fydd o ddiddordeb mawr i’r cyhoedd.”

Cynhelir y ddarlith ym Mhrif Neuadd yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, ddydd Iau 8 Chwefror 2018 am 6yh. Bydd derbyniad diodydd cyn y digwyddiad. Mynediad am ddim a chroeso cynnes i bawb.

Mae Anne Applebaum yn golofnydd i’r Washington Post ac yn hanesydd arobryn sy’n arbenigwr ar hanes Ewrop gomiwnyddol ac ôl-gomiwnyddol.

Yn ogystal â Red Famine: Stalin’s War on Ukraine, mae ei llyfrau’n cynnwys Iron Curtain: The Crushing of Eastern Europe; a Gulag: A History, a enillodd wobr Pulitzer 2004 am lyfr ffeithiol.

Mae’n gyn-aelod o fwrdd golygyddol y Washington Post, yn gyn-ddirprwy olygydd cylchgrawn y Spectator, ac yn gyn-ohebydd The Economist yn Warasaw, mae’n ysgrifennu’n rheolaidd ar gyfer y New York Review of Books, Foreign Affairs a nifer o gyhoeddiadau eraill.

Mae ar hyn o bryd yn Athro yn y London School of Economics, lle mae’n rhedeg ARENA, prosiect ymchwil ar gam-wybodaeth a phropaganda'r 21ain ganrif.

Ym mis Tachwedd 2017 ymwelodd Dirprwy Llysgennad yr Wcrain i’r DU Andriy Marchenko ag Aberystwyth i nodi 85 mlwyddiant newyn mawr yr Wcrain - Yr Holodomor - gan osod torch ger cofeb i Gareth Jones yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Dymuna Sefydliad Coffa Astudiaethau Rhyngwladol David Davies (DDMI) ddiolch i Elusen Gwendoline a Margaret Davies am gefnogi cyfres y Ddarlith Flynyddol a gwaith y Sefydliad yn gyffredinol. Sefydlwyd DDIM yn 1951 i goffau a datblygu etifeddiaeth yr Arglwydd David Davies o Landinam.