Ffilm o Aber yn cipio gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol

Meleri Morgan, cynhyrchydd Dwy Chwaer a Brawd,  ac enillydd gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am y ffilm Ffeithiol orau.

Meleri Morgan, cynhyrchydd Dwy Chwaer a Brawd, ac enillydd gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol am y ffilm Ffeithiol orau.

01 Chwefror 2018

Mae ffilm ddogfen arsylwol gan fyfyrwraig o Brifysgol Aberystwyth yn un o bum enillydd yng Ngwobrau Teledu Myfyrwyr y Gymdeithas Deledu Frenhinol yng Nghymru 2018.

Dwy Chwaer a Brawd gan Meleri Morgan yw enillydd categori Ffeithiol y Gwobrau gafodd eu cynnal yng Nghaerdydd nos Fercher 31 Ionawr 2018.

Mae’r ffilm pry ar y wal, gafodd ei chynhyrchu fel prosiect blwyddyn olaf, yn bortread dadlennol o fywyd teuluol mewn pentref gwledig ar gyrion Aberystwyth sy’n cynnwys dwy chwaer a brawd yn eu nawdegau.

Hon yw’r ail wobr o bwys i’r ffilm gan iddi ennill y wobr am y Ffilm Ryngwladol Orau gan Fyfyriwr yng Ngŵyl Ffilmiau Dogfen Wexford, Iwerddon, ym Medi 2017.

Graddiodd Meleri mewn Drama ac Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu yn 2017 ac mae nawr yn dilyn cwrs TAR ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Wrth ymateb i’w llwyddiant diweddaraf, dywedodd Meleri: “Doeddwn i ddim yn disgwyl ennill o bell ffordd wedi gwylio'r enwebiadau eraill yn y noson wobrwyo. Rwy'n hynod falch o'r ffilm ac yn browd iawn fod yr holl waith caled wedi talu ffordd yn y pendraw.

“Mae'r ffilm yn agos iawn at fy nghalon i ac yn symbol o gyfnod yn fy mywyd lle datblygodd fy nghreadigrwydd yn fawr iawn.  Mae fy nyled yn fawr iawn i fy narlithwyr Elin Morse, Kate Woodward ynghyd â Gareth Llŷr Evans (ochr Ddrama) am agor fy llygaid i fyd eang y celfyddydau a phwysigrwydd chwilio'r stori berffaith cyn dechrau ffilmio.

Mae'r adran yma yn Aberystwyth yn un arbennig iawn sy'n cynnig profiadau eang o'r ochr academaidd i greadigol. Ac yn fy marn i, mae angen iddynt redeg yn gyfochrog er mwyn creu myfyriwr cyflawn sy'n medru elwa o arbenigwyr pob maes yn yr adran. Roedd medru astudio trwy gyfrwng y Gymraeg wedi cyfoethogi fy mhrofiad yn Aberystwyth ac rwy’n argymell unrhyw un sydd â diddordeb mewn gradd sy'n llawn amrywiaeth o brofiadau celfyddydol i ystyried astudio yma.”

Dywedodd Elin Morse, Darlithydd mewn Cynyrchiadau Cyfryngol yn yr Adran Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Dwy Chwaer a Brawd yn ffilm hyfryd a chrefftus  sydd yn gofnod hynod werthfawr o fyd sydd yn prysur ddiflannu and rydym fel Adran yn ymhyfrydu bod y Gymdeithas Deledu Frenhinol wedi cydnabod rhagoriaeth gwaith Meleri gyda’r wobr hon.”

Mae Adran Theatr, Ffilm a Theledu’r Brifysgol newydd lansio gradd newydd mewn creu ffilm.

Datblygwyd y radd BA Creu Ffilm gan y cynhyrchydd ffilm profiadol Huw Penallt Jones sydd wedi cwblhau a chyflwyno dro 200 o ffilmiau dros y 32 mlynedd ddiwethaf.

Mae clodrestr cynyrchiadau Huw yn cynnwys Cold Mountain (2003, Uwch Gynhyrchydd), The Edge of Love (2008) a Patagonia (2010).

Cafodd y rhaglen newydd gyffrous hon ei datblygu er mwyn cwrdd â gofynion y byd ffilm yn y 21ain ganrif ac mae wedi ei hanelu at fyfyrwyr sydd eisiau dysgu am agweddau ymarferol gwneud ffilm hir.

I ddysgu mwy am wneud ffilm a chyrsiau eraill sydd yn yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu dilynwch y ddolen hon.