Myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth i fynychu Gŵyl Ffilm Tribeca yn Efrog Newydd

O’r Chwith i’r Dde: Dylan Jones, Rheolwr Cysylltiadau Alumi a Rhoddion Unigol; Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; y myfyrwyr Julia Pawlikowska a Agata Rafalska a fydd yn mynd i Ŵyl Ffilm Tribec gyda Dr Greg Bevan, Darlithydd mewn Ffilm ac Ymarfer Cyfryngau; a Hayley Goddard Swyddog Rhoddion Unigol Prifysgol Aberystwyth.

O’r Chwith i’r Dde: Dylan Jones, Rheolwr Cysylltiadau Alumi a Rhoddion Unigol; Dr Anwen Jones, Pennaeth Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu; y myfyrwyr Julia Pawlikowska a Agata Rafalska a fydd yn mynd i Ŵyl Ffilm Tribec gyda Dr Greg Bevan, Darlithydd mewn Ffilm ac Ymarfer Cyfryngau; a Hayley Goddard Swyddog Rhoddion Unigol Prifysgol Aberystwyth.

09 Chwefror 2018

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth yn cymysgu gyda rhai o enwau mwyaf y byd ffilm a sinema pan fyddant yn mynychu un o brif wyliau ffilm y byd yn mis Ebrill.

Mae Julia Pawlikowska ac Agata Rafalska o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu wedi ennill ymweliad pedwar diwrnod i Ŵyl Ffilm Tribeca yn Efrog Newydd sydd yn cael ei chynnal rhwng 18 a 29 Ebrill 2018.

Sefydlwyd Gŵyl Ffilm Tribeca gan Robert De Niro a Jane Rosenthal er mwyn adfywio rhannau o Manhattan wedi ymosodiad 9/11, ac mae bellach yn ei 17ed blwyddyn.

Daw’r Ŵyl â phobl greadigol, cynulleidfaoedd amrywiol a diwydiant ynghyd yn Efrog Newydd ar gyfer yr hyn a ddisgrifir fel ‘Gŵyl adrodd storïau flynyddol’.

Bydd Julia ac Agata yn derbyn tocynnau hedfan a llety am bedair noson yn Efrog Newydd ar eu hymweliad, diolch i gyfraniadau gan gyn-fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth trwy Gronfa Aber. 

Byddant hefyd yn derbyn tocyn am ddim i’r Ŵyl fydd yn caniatáu iddynt fynychu llawer o ddangosiadau, digwyddiadau, lolfeydd y gwneuthurwyr ffilmiau ac ardaloedd VIP.

Prif ddiddordebau Julia, sydd yn wreiddiol o Warsaw yng Ngwlad Pwyl, yw rhaglenni dogfen arsylwadol a ffuglen, ac mae’n hoff iawn o waith y cyfarwyddwr ffilm a’r sgriptiwr Pwyleg Krzysztof Kieślowski.

Dywedodd Julia, sydd yn ei blwyddyn olaf yn astudio Ffilm a Theledu: “Dyma gyfle anhygoel i weld sut mae’r diwydiant yn gweithio o’r tu fewn ac rwy’n edrych ymlaen at rwydweithio gyda gwneuthurwyr a phobl brwdfrydig ffilmiau o bob rhan o’r byd.”

Mae Agata, sydd o dref Lask yng Nghanolbarth Gwlad Pwyl, hefyd yn ei blwyddyn olaf yn astudio Ffilm a Theledu. Ei phrif ddiddordeb hi yw sinematograffeg.

Dywedodd Agata: “Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at fynychu Tribeca ac yn enwedig i brofi hwb yr artistiaid, rhwydweithio a chael gweld rhai o’r ffilmiau byr lle mae cyfarwyddwyr yn arbrofi mwy gyda ffilm yn aml. O safbwynt sinematograffeg, dwi’n edrych ymlaen at weld atebion pobl i greu effeithiau penodol.”

Yn ystod eu hamser yn Efrog Newydd, bydd Julia ac Agata yn cwrdd â Ben Thompson, Rheolwr Cysylltiadau Gwneuthurwyr Ffilm a Rhaglennydd Ffilmiau Byrion yr Ŵyl.

Mae Ben yn raddedig o Adran Drama, Theatr a Ffilm Prifysgol Aberystwyth ac yn un o’r Cysylltiadau Creadigol blaenllaw sy’n cyfrannu at raglen ddysgu amrywiol yr Adran.

Bydd Dr Greg Bevan, Darlithydd mewn Ffilm ac Ymarfer Cyfryngau ym Mhrifysgol Aberystwyth yn teithio gyda Julia ac Agata i Tribeca.

“Llongyfarchiadau i Julia ac Agata ar ennill y cyfle arbennig hwn i ymweld â Gŵyl Ffilm Tribeca sydd wedi’i wneud yn bosib gan gefnogaeth ein cyn-fyfyrwyr drwy Gronfa Aber.

“Mae mynychu gŵyl ffilm o’r safon yma’n gam mawr ac yn gyfle pwysig i’n myfyrwyr i weld eu hunain fel gwneuthurwyr ffilm yn hytrach na fel myfyrwyr. Byddant yn cael cwrdd a thrafod eu gwaith gyda rhai o wneuthurwyr ffilmiau byrion gorau’r byd mewn amgylchedd broffesiynol. Cyflwyno eu hunain a’u gwaith fel gwneuthurwr ffilm proffesiynol yw’r nod yma, nid mynd yna fel ffans. Bydd hefyd yn rhoi syniad iddynt o’r hyn sydd angen iddynt ei wneud i sicrhau bod eu gwaith yn cael ei ddangos yna, ac mewn gwyliau ffilm tebyg ar draws y byd.”

Mae ymweliad Dr Bevan yn cael ei noddi gan Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu.

Dywedodd Dr Anwen Jones, Pennaeth yr Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu: “Mae’n bleser gennym noddi aelod o staff i fynychu Gŵyl Ffilm Tribeca gyda'r myfyrwyr er mwyn datblygu’r berthynas rhwng yr Adran a'r Ŵyl. Mae hefyd yn brofiad gwerthfawr i’n myfyrwyr, ac rydym yn ddiolchgar i’n cyn-fyfyrwyr am eu cefnogaeth i’w wneud yn bosib.”

Nid yw rhaglen eleni wedi’i gyhoeddi eto, ond llynedd fe ddathlwyd 40 mlynedd ers ymddangosiad The Godfather a The Godfather Part II gyda dangosiad cefn-wrth-gefn o’r ffilmiau, â Diane Keaton, James Caan, Francis Ford Coppola, Al Pacino, Talia Shire, Robert Duvall, and Robert De Niro yn bresennol.

Dathlwyd hefyd 25 mlwyddiant rhyddhau Reservoir Dogs yng nghwmni Steve Buscemi, Michael Madsen, Quentin Tarantino, Harvey Keitel, and Tim Roth.

Julia ac Agata fydd y drydedd pâr o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth i ymweld â Gŵyl Ffilm Tribeca gyda chymorth Cronfa Aber.