Lleihau llygredd nitrogen wrth gynhyrchu llaeth

Bydd CowficieNcy yn darparu offer all helpu symud y diwydiant llaeth tuag at ddulliau cynhyrchu mwy effeithlon a llai llygredig.

Bydd CowficieNcy yn darparu offer all helpu symud y diwydiant llaeth tuag at ddulliau cynhyrchu mwy effeithlon a llai llygredig.

12 Chwefror 2018

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth yn arwain prosiect ymchwil newydd i ddod o hyd i ffyrdd o leihau llygredd nitrogen wrth gynhyrchu llaeth.

Horizon 2020 sydd yn cyllido CowficieNcy, cynllun lle mae staff partneriaid masnachol ac academaidd yn cael eu cyfnewid er mwyn uwchraddio a gweithredu modelau a ddefnyddir i lunio bwydlen buchod godro er mwyn gwneud defnydd mwy effeithlon o nitrogen ar ffermydd llaeth.

Mae gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn gweithio gyda phedwar o bartneriaid yn y diwydiant sy'n ymgynghori ar filoedd o ffermydd llaeth Ewropeaidd, a phum sefydliad academaidd Ewropeaidd ac Americanaidd o bwys.

Dr Jon Moorby o IBERS sydd yn arwain y gwaith. Dywedodd: "Mae gwartheg llaeth yn dda am gynhyrchu bwyd maethlon iawn i ni o fwydydd nad ydym yn gallu eu bwyta. Fodd bynnag, gallant gael effeithiau negyddol ar yr amgylchedd ehangach, trwy ysgarthu gormod o nitrogen.

“O safbwynt gwyddonol rydym yn gwybod sut i leihau hyn er mwyn gostwng lefelau llygredd o gynhyrchu llaeth, ond ychydig iawn o strategaethau sydd wedi cael eu trosi'n arfer amaethyddol gan y diwydiant llaeth oherwydd y diffyg cyswllt rhwng ymchwil a’i gymhwyso ar y fferm.

“Mae'r prosiect CowficieNcy yn mynd i'r afael â hyn trwy ddarparu offer all helpu symud y diwydiant llaeth tuag at ddulliau mwy effeithlon a llai llygredig.”

Mae nitrogen yn faetholyn hanfodol a ddefnyddir gan ffermwyr ledled y byd yn fwyd (fel protein) ac mewn gwrteithiau.

O’i ddefnyddio’n strategol, mae'n cynyddu tyfiant porfa ac yn elfen allweddol o gynhyrchu cig a llaeth.

Fodd bynnag, mae'n cylchdroi yn barhaus drwy'r pridd, yr atmosffer a'r system fferm ac mae defnydd estynedig ohono wedi arwain at effeithiau negyddol sylweddol ar yr amgylchedd.

Bydd y tîm CowficieNcy yn gweithio gyda ffermydd yn Ewrop er mwyn eu galluogi a’u hymgyfarwyddo ar sut i ddisgrifio eu sefyllfa cydbwysedd nitrogen, gan ddefnyddio dau fodel mathemategol, un yn seiliedig ar y fuwch, a'r llall yn seiliedig ar y fuches.

Bydd y modelau'n cael eu diweddaru ar gyfer metaboledd amino asid trwy fframwaith System Carbohydrad a Protein Net Cornell (CNCPS), ac maent yn cynnwys agweddau ar dwf anner a ffrwythlondeb ac economeg gwartheg, dros oes gyfan yr anifeiliaid, gan gynyddu nid yn unig gywirdeb y modelau hyn ond hefyd eu potensial masnachol.

Yng ngham olaf y prosiect bydd y modelau uwchraddedig yn cael eu gweithredu ar y ffermydd sy’n cymryd rhan ym mhrosiect CowficieNcy.

Ychwanegodd Dr Moorby "Bydd cynyddu effeithlonrwydd y defnydd o nitrogen mewn gwartheg godro sy’n llaetha yn lleihau llygredd nitrogen o gynhyrchu llaeth, ac yn arbed arian i’r ffermwr yn y pen draw."