Cyfansoddwr arloesol o Japan i weithio ym Mhrifysgol Aberystwyth

Toshimaru Nakamura

Toshimaru Nakamura

14 Chwefror 2018

Mi fydd darnau o waith celf o Japan o gasgliad crochenwaith adnabyddus Prifysgol Aberystwyth yn ysbrydoliaeth i brosiect cerddoriaeth arbrofol dan arweiniad artist sain blaenllaw o Japan.

Bydd Toshimaru Nakamura, sydd wedi ei ddisgrifio fel un o gyfansoddwyr electronig mwyaf yr 20fed a’r 21ain ganrif, yn treulio wythnos yn gweithio yn Aberystwyth ddechrau mis Mawrth 2018.

Mae casgliad crochenwaith yr Ysgol Gelf yn cynnwys gweithiau gan grochenwyr cyfoes o Japan, ynghyd â darnau Bizen o'r 19eg ganrif.

Gyda’r cerddorion arbrofol Jenn Kirby, Dafydd Roberts, Andrew Leslie Hooker a’r telynor sydd yn wreiddiol o Aberystwyth, Rhodri Davies, bydd Nakamura yn defnyddio’r darnau i ddatblygu sgôr a fydd yn sail i berfformiad cerddorol byrfyfyr.

Daw cyfraniad arall i’r cyfuniad sonig oddi wrth Dr Fred Labrosse o’r Adran Cyfrifiadureg a fydd yn sganio’r darnau crochenwaith.

Bydd y data a gesglir o’r sganiau yn cael eu bwydo i feddalwedd a fydd yn trosi’r nodweddion ffisegol yn gyfres o synau ar gyfer creu cerddoriaeth.

Trwy ddefnyddio’r broses hon, gall gwydredd, dyfnder a disgleirdeb y crochenwaith arwain at donyddiaeth annisgwyl a fydd yn effeithio ar draw, llawnder ac ansawdd y sain.

Bydd y grŵp hefyd yn treulio cyfnod mewn stiwdio recordio.

Caiff y rhan yma o’r project ei ddogfennu gan y gwneuthurwr ffilm Dr Greg Bevan o’r Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, a’i ddangos yng Nghŵyl Cerameg Rhyngwladol Aberystwyth 2019.

Yn ogystal, bydd y darnau crochenwaith gaiff eu dewis gan Nakamura a’i gydweithwyr yn cael eu harddangos yn oriel crochenwaith Canolfan y Celfyddydau ym mis Mawrth 2018.

Uchafbwynt y gwaith fydd perfformiad cyntaf Nakamura yng Nghymru - Listen to the Voice of Fire - yn Amgueddfa Ceredigion, ddydd Sadwrn 10 Mawrth 2018 am 7.30yh. 

Bydd y perfformiad yn dilyn gweithdy prosiect gyda Nakamura yn Stiwidio’r Ffowndri, yn Adeilad Parry Williams ddydd Gwener 9 Mawrth rhwng 11 y bore a 1 y prynhawn - mynediad am ddim.

Mae’r digwyddiad yn agored i fyfyrwyr a'r gymuned ehangach ac yn gyfle prin i weld dull Nakamura o agos. Mae croeso cynnes i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth electronig gyfoes i fynychu’r digwyddiad hwn.

“Mae yna gyffro o gael cyflwyno artist sain arbrofol Japaneaidd i gynulleidfaoedd newydd yng nghanolbarth a gorllewin Cymru,” meddai Dr Roberts, “ac yn rhoi’r hyder i Rwydwaith Sain Cymru i ddatblygu cysylltiadau rhyngwladol â Japan, gwlad sydd wedi bod yn ddeinamig ym maes cerddoriaeth arbrofol ers cryn amser.”

“Mae gennym gyfle nawr i ddatblygu cysylltiadau newydd gydag artistiaid a bydoedd academaidd a chelfyddydol o Japan a gyda’r potensial i ddatblygu prosiectau sydd wedi eu hariannu er mwyn ehangu dealltwriaeth a gweithgaredd ar y cyd.

Hwylusiwyd ymweliad Nakamura â Chymru gan gymorth ariannol Sefydliad Sasakawa Prydain Fawr a Sefydliad Japaneaidd Daiwa Anglo.

Dywedodd Dr Roberts: “Mae’r ddau gyfrannwr yma’n cydnabod pa mor anodd yw i ddod â pherfformwyr serol i ganolfannau y tu allan i adraloedd poblog mawr.”

Bydd Listen to the Voice of Fire yn cael ei lwyfannu mewn partneriaeth ag Amgueddfa Ceredigion.

Toshimaru Nakamura
Offeryn Nakamura yw'r bwrdd cymysgu heb fewnbwn, sy'n disgrifio ffordd o ddefnyddio bwrdd cymysgu safonol fel offeryn cerddoriaeth electronig, gan gynhyrchu sain heb unrhyw fewnbwn sain allanol.

Arloesodd Nakamura yr ymagwedd hon at y defnydd o'r bwrdd cymysgu yng nghanol y 1990au ac ers hynny mae wedi ymddangos ar dros gant o gyhoeddiadau sain, gan gynnwys naw CD unigol.

Mae wedi perfformio ledled Ewrop, Gogledd America, yr Ariannin, Seland Newydd, Awstralia, Korea, Tsieina, Singapore a Malaysia, gan berfformio a recordio fel unawdydd a gyda nifer o gerddorion eraill.

Fel trefnydd gweithgar o gyngherddau yn Tokyo, mae Nakamura wedi helpu llawer o gerddorion i deithio i Japan a dod o hyd i lefydd i berfformio, gydag ef a phobl eraill hefyd.

O 1998 tan 2003, roedd Nakamura a Tetuzi Akiyama yn rhedeg y gyfres Improvisation Series yn Bar Aoyama ac yna'n ddiweddarach y gyfres o gyngherddau Meeting at Off Site.