Prifysgol Aberystwyth yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod

Yn 16 oed, Louise Davies oedd y ferch gyntaf i ymuno â Choleg Prifysgol Cymru ar ôl ennill ysgoloriaeth mynediad yn 1874. Am oddeutu 3 mis hi oedd yr unig wraig yn y Coleg, nes i eraill ddechrau ymuno â hi.

Yn 16 oed, Louise Davies oedd y ferch gyntaf i ymuno â Choleg Prifysgol Cymru ar ôl ennill ysgoloriaeth mynediad yn 1874. Am oddeutu 3 mis hi oedd yr unig wraig yn y Coleg, nes i eraill ddechrau ymuno â hi.

06 Mawrth 2018

Mae'r heriau a wynebir gan fenywod mudol a dathlu cyfraniad menywod at y Brifysgol o’i dyddiau cynnar yn rhan o raglen o ddigwyddiadau i nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2018 yr wythnos hon.

Merched, Mudo a Ffoaduriaid
Ddydd Iau 8 Mawrth, bydd Grŵp Ymchwil Rhyngddisgyblaethol Rhywedd y Brifysgol, (Aber Gender), yn cynnal cynhadledd undydd ar 'Merched, Mudo a Ffoaduriaid'.

Bydd y diwrnod yn olrhain siwrnai menywod sydd wedi mudo o'u man cychwyn hyd at pen y daith, gyda chyfraniadau gan wneuthurwyr polisi Llywodraeth y DU, grwpiau cymunedol a’r drydedd sector.

Ymysg y themâu fydd yn cael eu trafod bydd y materion a'r heriau a wynebir gan fenywod sydd wedi mudo yn ogystal â dathlu cyflawniadau a straeon llawn gobaith.

Bydd siaradwyr o Gyngor Ffoaduriaid Cymru, Partneriaeth Mudo Strategol Cymru, Y Groes Goch Brydeinig, Cymorth i Fenywod Cymru, Gwasanaeth Camdriniaeth yn y Cartref Gorllewin Cymru ac arweinwyr polisi gan Lywodraeth y DU a Chymru yn cyfrannu at y digwyddiad.

Yn ychwanegol at hyn ceir cyfraniadau gan uwch academyddion a myfyrwyr ôl-radd Prifysgol Aberystwyth, Ammaara Nalban, Swyddog Myfyrwyr Du, Lleiafrifoedd ac Ethnig Undeb y Myfyrwyr, a Madonna Kalousian o Brifysgol Lancaster.

Cynhelir y gynhadledd yn Narlithfa Gelf yr Hen Goleg a bydd yn dechrau am 10 o’r gloch y bore. Cewch fwy o fanylion am 'Merched, Mudo a Ffoaduriaid' ar dudalen Facebook Aber Gender ac mae modd archebu tocynnau ar dudalenEventbright y digwyddiad.

Dathlu cyfraniad menywod cynnar Prifysgol Aberystwyth
Mae Prifysgol Aberystwyth hefyd yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod gydag arddangosfa arbennig drwy gydol yr wythnos yn llyfrgelloedd Hugh Owen a Thomas Parry.

O ddyddiau cynnar y myfyrwyr benywaidd cyntaf a ddaeth i astudio cerddoriaeth yn Aberystwyth ym 1874 gyda Dr Joseph Parry, siarter cydraddoldeb 1896 a hanes y Brifathrawes gyntaf, mae’r arddangosfa yn ddathliad o gyfraniad menywod Prifysgol Aberystwyth i fyd academia a thu hwnt, hyd at heddiw.

Ymlaen Gyda'n Gilydd
Nos Iau, 8 Mawrth, bydd Amgueddfa Ceredigion mewn partneriaeth ag Aberration yn cynnal Ymlaen Gyda’n Gilydd, noson o sgyrsiau a thrafodaeth gyda chyfraniadau gan staff academaidd o’r Brifysgol a cherddoriaeth gan y Bung Bung Belles. Tocynnau yn £6 a £5 (consesiwn).

Merched mewn Gwyddoniaeth
Ddydd Gwener 9 Mawrth, cyntedd adeilad y Gwyddorau Ffisegol ar Gampws Penglais fydd lleoliad arddangosfa am arwresau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg, a chyhoeddir enillwyr cystadleuaeth posteri myfyrwyr.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cydraddoldeb a Chyfathrebu Adnoddau Dynol Prifysgol Aberystwyth: “Rwy'n falch iawn o gyhoeddi rhaglen ddifyr i nodi  Diwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae ehangder ac amrywiaeth y pynciau dan sylw eleni yn profi bod Prifysgol Aberystwyth yn un o'r prifysgolion mwyaf cynhwysol a blaengar yn y DU heddiw.”