Saith seren - Prifysgol Aberystwyth ar rhestrau byr gwobrau WhatUni

07 Mawrth 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ei chynnwys ar saith restr fer ar gyfer gwobrau WhatUni Student Choice Awards 2018.

Yn 2017 derbyniodd Aberystwyth bum enwebiad, ac eleni mae’r Brifysgol wedi ei henwebu am wobr Prifysgol y Flwyddyn am yr ail flwyddyn yn olynol.

Y categoriau eraill lle mae Aberystwyth wedi cyrraedd y rhestr fer yw Llety, Clybiau a Chymdeithasau, Cwrs a Darlithwyr, Rhoi Nôl, Rhyngwladol ac Olraddedig.

Enwebwyd cyfanswm o bedwar deg tri o sefydliad ar draws y categorïau, a thrwy hynny’n derbyn cydnabyddiaeth gan eu myfyrwyr o’r profiad prifysgolaidd rhagorol y maent yn ei gynnig.

Casglwyd mwy na 36,000 o adolygiadau a ymwelwyd â thros 100 o brifysgolion er mwyn llunio’r rhestr eleni.

Mae'r gwobrau wedi eu seilio ar gyfartaledd o ddegau o filoedd o adolygiadau a gyflwynwyd gan fyfyrwyr a'u cyhoeddi ar Whatuni.com.

Bellach yn eu pumed flwyddyn, mae'r gwobrau yn darparu dewis amgen a diduedd i’r systemau traddodiadol o raddio prifysgolion, a hynny o dan arweiniad myfyrwyr.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn seremoni flynyddol Whatuni Student Choice Awards ar 19eg Ebrill 2018, a gyflwynir gan y digrifwr stand-up, Katherine Ryan.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym wrth ein bodd ein bod ar restr fer saith o wobrau Whatuni. Yr hyn sydd yn arwyddocaol am y gwobrau hyn yw eu bod wedi’u seilio ar adborth myfyrwyr ac maent yn ategu canlyniadau Arolwg Myfyrwyr Cenedlaethol 2017 a ddangosodd bod myfyrwyr Aberystwyth ymhlith y mwyaf bodlon yn y DU ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr. Mae safon yr addysg a’r profiad myfyriwr ehanghach sydd yn cael ei gynnig yma yn Aberystwyth hefyd wedi eu cydnabod gan The Times and Sunday Times Good Unviersity Guide 2018 ar ffurf gwobr Prifysgol y Flwyddyn y DU am Ansawdd Dysgu.”

Dywedodd Eleni Cashell, Golygydd Whatuni: “Mae enwebiad ar gyfer gwobr yn gyflawniad enfawr, gan mai myfyrwyr eu hunain yw unig feirniaid gwobrau WhatUni. Mae'n dangos i ddarpar fyfyrwyr ac i'r sector addysg uwch bod eich sefydliad yn cynnig gwerth am arian, yn darparu profiad da i fyfyrwyr a bod ganddo gymuned o fyfyriwr hynod fodlon sy’n derbyn y gefnogaeth mae ei hangen.”

Yng ngwobrau What Uni Student Choice Awards 2017, enillodd Aberystwyth wobr arian am y Brifysgol ryngwladol orau.