Pabell Ames newydd i Seicoleg Aber

08 Mawrth 2018

Mae Adran Seicoleg Prifysgol Aberystwyth wedi creu’r hyn a ystyrir yr Ystafell Ames dros dro gyntaf yn y byd.

Ystafell anffurfiedig yw Ystafell Ames sy’n cael ei defnyddio i greu rhith optegol.

Cynlluniwyd y cysyniad am y tro cyntaf yn 1946 gan yr opthalmolegydd Adelbert Ames, a oedd yn ymddiddori’n fawr yn y ffordd rydym yn gweld y byd.

Ers hynny, cafodd Ystafell Ames ei defnyddio’n eang i ddarlunio theorïau canfyddiad a sut y gellir twyllo’r system weledol.

Mae’r Athro Nigel Holt, Pennaeth yr Adran Seicoleg ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn egluro sut mae’r twyll yn gweithio: “O edrych arni o fan gwylio arbennig, mae’r Ystafell Ames yn ymddangos fel ystafell siâp cyffredin. Mewn gwirionedd nid yw’r ystafell yn sgwâr o gwbl – mae’n siâp od iawn, iawn. Ond gan fod profiadau blaenorol yn dweud wrthym fod gan ystafelloedd siâp rheolaidd, dyna’r hyn rydym yn ei dybio wrth brosesu’r ystafell Ames. Canlyniad hyn yw ein bod yn profi twyll o ran maint a dyfnder.”

“Bydd pobl sy’n gwylio drwy’r man gwylio yn gweld rhith gweledol trawiadol o ystafell sy’n ymddangos fel ystafell sgwâr arferol â pherson sy’n sefyll mewn un gornel yn ymddangos yn dipyn mwy na pherson sy’n sefyll yn y gornel gyferbyn. Wrth i’r bobl symud o’r naill gornel i’r llall, mae’n ymddangos fel pe baent yn tyfu neu’n mynd yn llai.

"Adeiladodd yr Adran Seicoleg fodel bach o’r Ystafell Ames ar gyfer Ffair Wyddoniaeth flynyddol Prifysgol Aberystwyth sy’n cael ei chynnal ym mis Mawrth bob blwyddyn fel rhan o Wythnos Gwyddoniaeth Prydain.  Ar ôl hynny, gwnaethom benderfynu y byddai’n wych i gael fersiwn maint llawn.”

Yn wahanol i’r rhan fwyaf o Ystafelloedd Ames, sy’n strwythurau cadarn, mae’r ystafell y mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i chynllunio a’i chreu wedi cael ei hadeiladu o bolion a chanfas.

Yn ôl yr Adran Seicoleg, mae’n bosib mai hon yw’r Babell Ames gyntaf yn y byd.

Ychwanegodd yr Athro Nigel Holt: "Mae’r rhith yn ein Pabell Ames yn arbennig o gryf a byddwn yn parhau i’w wella. Mantais yr adeiladwaith yw ei fod yn hawdd i’w symud a’i gludo o gwmpas. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n llawer haws i ni fynd â’r ystafell i ysgolion a gwyliau fel Ffair Wyddoniaeth y Brifysgol yn ystod y flwyddyn sydd i ddod, er mwyn rhoi’r cyfle i lawer mwy o bobl weld faint yn union o ddylanwad gaiff ein profiad blaenorol ar y ffordd rydym yn gweld y byd.”

 

AU8918