Cyfle i leisio barn ar ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol

Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a fydd yn cadeirio’r sesiwn Creu Senedd i Gymru

Dr Elin Royles o Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, a fydd yn cadeirio’r sesiwn Creu Senedd i Gymru

12 Mawrth 2018

Bydd cyfle i drigolion Ceredigion ddweud eu dweud am ddyfodol y Cynulliad Cenedlaethol mewn cyfarfod agored ar nos Iau, 15 Mawrth 2018 am 6 yr hwyr yng Nghanolfan Arad Goch, Stryd y Baddon, Aberystwyth.

Cynhelir y cyfarfod, Creu Senedd i Gymru, ar y cyd gan Ganolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru/ WISERD ym Mhrifysgol Aberystwyth a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Mae’n un o gyfres o gyfarfodydd ar draws Cymru i ystyried yr ymgynghoriad ar ddiwygio’r Cynulliad sy’n cael eu cynnig er mwyn sicrhau ei fod yn cyflawni’i gyfrifoldebau yn fwy effeithiol a gwella llywodraethiant Cymru.

Bydd panel, dan arweiniad Llywydd y Cynulliad, Elin Jones AC yn amlinellu amryw o newidiadau sy’n cael eu hargymell o ran cynyddu nifer yr Aelodau Cynulliad; pa system bleidleisio ddylai gael ei defnyddio i ethol Aelodau Cynulliad a phwy ddylai gael yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Cynulliad? Dilynir hyn gan sesiwn holi ac ateb agored.

Cadeirydd y noson fydd Dr Elin Royles, Uwch Ddarlithydd yn yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol. Dywedodd:” Rydyn ni yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru yn hynod o falch o fod yn cydweithio gyda Chomisiwn y Cynulliad ar y digwyddiad hwn.”

“Mae'r ymgynghoriad yn cynnig cyfle i bobl Cymru roi barn ar faterion sydd wedi bod yn heriol i'r Cynulliad ers ei ddyddiau cynnar, megis niferoedd Aelodau Cynulliad, a chamau eraill y gellid eu cymryd er mwyn cryfhau democratiaeth yng Nghymru i'r dyfodol.”

Mae mynediad i’r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso cynnes i bawb. Gellir archebu tocyn o flaen llaw o:  www.seneddydyfodol.cymru/digwyddiadau

 

AU10718