Philomusica – O Rwsia i Iwerddon

13 Mawrth 2018

Bydd cyfle i gerddgarwyr glywed rhai o gerddorion cerddorfaol gorau gorllewin Cymru mewn perfformiad ysblennydd nos Sadwrn yma, 17 Mawrth, pan fydd Philomusica yn perfformio yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Philomusica yw cerddorfa symffoni arobryn Aberystwyth a’r Brifysgol, ac mae’n cael ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr David Russell Hulme.

Mae’r gerddorfa yn cynnwys wythdeg o gerddorion – myfyrwyr yn bennaf, yn gweithio ochr yn ochr â cherddorion amatur lleol a cherddorion proffesiynol. Mae rhai o’r cerddorion hyn yn teithio pellteroedd sylweddol i chwarae gydag un o’r grwpiau mwyaf a’r mwyaf llwyddiannus o’i fath yng Nghymru.

Fel sy’n digwydd bob tro, bydd y rhaglen yn cynnig taith o ddarganfyddiadau newydd, yn cymysgu ffefrynnau cyfarwydd, megis cerddoriaeth Peer Gynt gan Grieg a Capriccio Espagnol disglair Rimsky-Korsakoff, â darn llai adnabyddus, ond sydd eto’n hyfryd o felodaidd a lliwgar, sef Irish Symphony gan Hamilton Harty.

Dywedodd yr arweinydd David Russell Hulme: “Mae creu rhaglen yn debyg i ddylunio bwydlen – cymysgu ffefrynnau ac elfennau anghyfarwydd i bobl eu profi a’u mwynhau. Rwyf bob amser yn mwynhau perfformio cerddoriaeth Harty. Mae gan ei symffoni elfen Ramantaidd wych ynghyd â melodïau sydd yn aros yn y cof.”

Bydd yr unawdydd gwadd sef y pianydd rhyngwladol Samantha Ward yn chwarae consierto gyntaf Prokofiev i’r piano, darn gwefreiddiol a bythgofiadwy. Dyma drydydd ymddangosiad Samantha gyda’r gerddorfa, ac mae hi’n ystyried taw’r gerddorfa hon yw un o’r cerddorfeydd cymunedol gorau sydd i’w cael.

Mae cyngherddau Philomusica yn ddigwyddiadau cerddoriaeth fyw gwych, sy’n denu cynulleidfaoedd mawr.  Esboniodd Dr Hulme: “Mae cerddoriaeth yn dod â’r Brifysgol a’r gymuned at ei gilydd mewn modd unigryw. Mae ein perfformiadau mawreddog yn darparu cyfle i ddangos bwrlwm rhyfeddol y berthynas hon.”

Cynhelir cyngerdd Philomusica am 8yh nos Sadwrn 17 Mawrth yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau. Prisiau: £3 i £9.50 (myfyrwyr £3 yn unig) – 01970 623232 / www.aberystwythartscentre.co.uk.

 

AU12018