Cyfnod enwebu wedi dechrau ar gyfer gwobrau’r staff a’r myfyrwyr

14 Mawrth 2018

Mae cyfnod enwebu Gwobrau Addysgu Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, sydd wedi'u hail-frandio eleni fel UMAber yn Dathlu: Gwobrau'r Staff a'r Myfyrwyr, ar agor.

Mae'r gwobrau eleni a drefnir am y seithfed tro gan Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, gyda chefnogaeth y Brifysgol, yn cynnig cyfle i gydnabod staff (sy'n addysgu neu beidio), cynrychiolwyr academaidd drwy'r Brifysgol a myfyrwyr sy'n gwirfoddoli am eu gwaith gydol y flwyddyn academaidd.

Eleni, rydym wedi cyflwyno tri chategori newydd sy'n canolbwyntio ar fyfyrwyr. Bydd myfyrwyr Aber yn gallu enwebu a chydnabod myfyrwyr sy'n wirfoddolwyr, yn swyddogion gwirfoddol ac yn fentoriaid sy'n gweithio'n galed i gynrychioli myfyrwyr a rhoi cymorth iddynt gydol y flwyddyn.

Caiff myfyrwyr eu hannog ar hyn o bryd i gydnabod staff a'u cyd-fyfyrwyr drwy enwebu unigolion neu adrannau am un o dair gwobr ar ddeg. 

Dyma'r categorïau ar gyfer gwobrau 2018:

·        Darlithydd y Flwyddyn

·        Aelod Staff Ategol / Gwasanaeth y Flwyddyn

·        Cynrychiolydd Academaidd y Flwyddyn

·        Myfyriwr-wirfoddolwr y Flwyddyn

·        Swyddog Gwirfoddol y Flwyddyn

·        Myfyriwr-fentor y Flwyddyn

·        Goruchwyliwr y Flwyddyn - Ôl-raddedig

·        Goruchwyliwr y Flwyddyn - Israddedig

·        Adran y Flwyddyn

·        Hyrwyddwr yr Iaith Gymraeg

·        Athro Ôl-raddedig y Flwyddyn

·        Gwobr Dysgu Arloesol

·        Tiwtor Personol y Flwyddyn

·        Gwobr Adborth Eithriadol

·        Gwobr Cam Nesaf

·        Gwobr Arwain Cydraddoldeb

Bydd categori Clod Arbennig hefyd, sy'n caniatáu i'r panel beirniadu gydnabod gwaith neu gyfraniad eithriadol at fywyd myfyrwyr, sydd ddim o bosib yn perthyn i un o'r categorïau eraill.

Wrth sôn am lwyddiant y Gwobrau, dywedodd Emma Beenham, Swyddog Academaidd Undeb y Myfyrwyr: “Mae Gwobrau'r Staff a'r Myfyrwyr wedi bod trwy weddnewid cyffrous eleni a bydd 3 gwobr ychwanegol yn canolbwyntio ar fyfyrwyr. Hyn sbardunodd y newid enw o'r ‘Gwobrau Dysgu dan Arweiniad Myfyrwyr’ i ‘UMAber yn Dathlu: Staff a Myfyrwyr’, yn unol â gweddill ein Hwythnos Ddathlu. Nawr, mae gennym ni gyfanswm o 16 o wobrau a dwi'n edrych ymlaen at weld mwy o fyfyrwyr yn cymryd rhan yn y gwobrau hyn. 

“Dwi methu aros i glywed am yr holl bethau gwych sy'n digwydd yma yn Aberystwyth, boed hynny'n ddarlithydd neu diwtor sydd bob amser yn mynd y filltir ychwanegol, aelod o staff cymorth sydd bob amser yn hapus i helpu gyda gwên fawr, neu Gynrychiolydd Academaidd sy'n sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed.”

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad Myfyrwyr:  “Mae'r gwobrau hyn mor bwysig, dyma'ch cyfle i chi gydnabod a dathlu fy nghydweithwyr sydd wedi gwneud gwahaniaeth yn eich taith yma ym Mhrifysgol Aberystwyth.  I mi, dyma uchafbwynt y flwyddyn gan ei fod yn dod â chymuned Aberystwyth at ei gilydd ac yn dangos yr hyn sydd, i mi, y bartneriaeth orau rhwng staff a myfyrwyr unrhyw le yn y byd.”

Gall myfyrwyr sydd eisiau enwebu wneud hynny ar: https://www.abersu.co.uk/aboutaber/celebrate/

Mae'r cyfnod enwebu ar gyfer Gwobrau Dathlu UMAber yn cau ar 30 Mawrth 2018.  Yna, caiff yr enwebiadau eu barnu gan banel o staff a myfyrwyr, a chaiff enillydd ac unigolion â chymeradwyaeth uchel eu dewis ar gyfer pob categori.

Bydd yr enillwyr yn cael eu cyhoeddi yn ystod noson ddathlu yng Nghanolfan y Celfyddydaunos Iau, 26 Ebrill.

 

AU12518