Ai Cymro oedd Padrig Sant?

St Patrick. Jaqian/Flickr, CC BY-SA

St Patrick. Jaqian/Flickr, CC BY-SA

19 Mawrth 2018

gan Dr Simon Rodway, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd

Roeddwn yn crwydro drwy strydoedd Galway Ŵyl Padrig Sant ym 2002, gan wisgo crys-t ac arno y geiriau, 'St Patrick: he’s Welsh, you know'. Y cyd-destun oedd fod Iwerddon wedi trechu Cymru yng nghystadleuaeth rygbi'r Chwe Chenedl bythefnos o'r blaen. Cellwair cyfeillgar oedd y slogan i fod, ac fel hyn roedd pobl yn ei gymryd. Ond, ydy e'n gywir?

Dylai'r ateb fod yn weddol syml. Wedi'r cwbl, mae Padrig yn dweud wrthym o ble y deuai'n wreiddiol, mewn un o'r dwy lith Ladin a ysgrifennodd ac sydd wedi goroesi hyd heddiw, sef tref o'r enw Banna Venta Berniae. Yn anffodus, wyddom ddim lle y bu honno, ar wahân i'r ffaith ei bod yn rhywle ym Mhrydain. Gan iddo gael ei ddala yno gan ysbeilwyr o Iwerddon, rhaid bod y lle yn eitha agos at arfordir gorllewin Prydain. Felly mae'n eitha posibl, er nad yw'n hollol sicr, fod y dref yn rhywle yng Nghymru.

Efallai nad yw'r safle union o fawr bwys. Yn ystod bywyd Padrig (rywbryd yn y bumed ganrif OC), doedd Cymru fel yr ydym ni'n ei hadnabod ddim yn bodoli. 'Brythoniaid' oedd yr enw a ddefnyddiwyd i sôn amdanynt eu hunain gan y bobl oedd yn byw yn yr amryw deyrnasoedd yn yr ardal rydym ni'n ei galw'n Gymru bellach. Ar ben hynny roedd llawer o bobloedd eraill yn defnyddio'r un enw, hynny yw, y rhai oedd yn byw yn y rhan o Brydain i'r de o Fur Hadrian - sef y dalaith Rufeinig gynt o'r enw Britannia.


Andreas F. Borchert/WIkimedia, CC BY-SA

Ond y dechreuodd y Brythoniaid a siaradai'r math o Gelteg Ynysol o'r enw Frythoneg (sydd yn iaith hynafiadol i'r Gymraeg, i'r Gernyweg, ac i'r Llydaweg) ddefnyddio enw arall arnynt eu hunain, sef Combrogī ‘cyd-frowyr’. O'r term hwn y terddir yr enw lle Saesneg Cumbria, ac ohono fe y daw'r gair Cymry hefyd, sef yr enw y mae gwerin yng Nghymru'n ei ddefnyddio i ddisgrifio eu hunain heddiw (yn yr Oesoedd Canol cafodd y term hwn ei ddefnyddio i sôn am y wlad hefyd, ac mae wedi troi'n 'Cymru' erbyn hyn). Amhosibl yw dweud, fodd bynnag, p'un a gâi'r term hwn ei ddefnyddio yn ystod y pumed ganrif, neu beidio.

Erbyn hynny, roedd pobloedd a siaradai ieithoedd Germaneg yn sefydlu teyrnasoedd yn ne ynys Prydain, ac yn y dwyrain hefyd. Roedd y rhain yn rhagflaenwyr i'r 'gens Anglorum' hynny yw 'y werin Seisnig’ a defnyddio geiriau hanesydd (ac yn hwyrach, sant) Bede oedd yn ysgrifennu yn yr wythfed ganrif. Nid Brythoniaid oedd y bobl hyn, nac o'u rhan eu hunain, nac o ran eu cymdogion i'r gorllewin ychwaith. Y pryd hynny eu henw ar y werin y tu hwnt i Gymru oedd 'Saeson', a hyd yn oed heddiw yr un enw sy'n cael ei ddefnyddio (a 'Sasanaigh' yn Gaeleg). Yn eu tro, roedd y Saeson yn galw'r Brythoniaid yn 'Wealas' a'r term hwn yw tarddiad y gair 'Welsh'. Felly, o safbwynt Saesneg cyfoes o leiaf, fe fyddai Padrig wedi bod yn Gymro.

Iaith a llenyddiaeth
Mae sawl ysgolhaig (y rhai o'r Oesoedd Canol a'r rhai o'r cyfnod modern fel ei gilydd) wedi honni bod San Padrig yn siarad Brythoneg. Gwyddom ei fod yn gallu ysgrifennu Lladin da, ond yr oedd yn ei galw'n 'lingua aliena' (hynny yw, 'iaith estron'). Nid ei famiaith oedd hon, ond roedd hi'n ddewis amlwg i'w defnyddio pan oedd e'n ysgrifennu, gan ei bod yn iaith uchel ei statws, a chanddi draddodiad llenyddol hynafol, ac yr oedd hi'n 'lingua franca' yn yr eglwys. Heb dystiolaeth bellach, gallem gasglu'n eitha hyderus mai Brythoneg fyddai ei famiaith (bryd hynny byddai brodor o orllewin Britannia wedi bod yn llai tebygol o lawer o siarad Gwyddeleg, Saesneg, neu Bicteg). Ond efallai y gallwn fynd yn bellach na hyn.

Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o'r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi'i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae'r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau'r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi'i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi'n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.

Yn ystod y seithfed ganrif, ysgrifennodd mynach o Iwerddon o'r enw Muirchú Fywyd San Padrig yn Lladin. Yn y llyfr hwn y mae ambell ffaith hanesyddol ynglŷn â Padrig sy wedi'i chynnwys hefyd yn ei weithiau ei hun. Ond mae'r ffeithiau hyn yn cael eu cuddio bron yn llwyr gan y gwyrthiau niferus oedd agos yn orfodol mewn llenyddiaeth ganoloesol ynglŷn â bywydau'r saint. Ymhellach tywyllir y ffeithiau gan bropaganda digywilydd wedi'i lunio gan yr eglwys uchelgeisiol yn Armagh, a oedd wrthi'n neilltuo Padrig ar ei chyfer ei hun.

Serch hynny, mae Muirchú yn cofnodi dau ddywediad Padrig air am air, sef 'modebroth' a 'gra(t)zacham'. Dyw Muirchú ddim yn dweud wrthym beth yw iaith yr ymadroddion hyn. Fodd bynnag, yn y nawfed ganrif roedd Cormac mac Cúilennáin, geiriadurwr o Iwerddon ac Esgob a Brenin Cashel hefyd, yn dehongli mai Brythoneg oedd iaith y ddau ohonynt.

Roedd yn honni mai ffurf lygredig ar y Gymraeg 'myn duw brawd' yw 'modebroth'. Efallai fod hyn yn gywir, ond tarddiad gwreiddiol y dywediad 'gra(t)zacham' yw'r ymadrodd Lladin 'gratias agam' ('gadewch imi fendigo'), neu 'gratias agamus' ('gadewch inni fendigo').

Mae'n ymddangos bod Cormac yn ei ddehongli fel Brythoneg ar sail y ffaith hynod o resymol mai Brython oedd Padrig. Felly rhaid mai Brythoneg oedd ei ddywediadau, os nad oeddynt yn amlwg yn Wyddeleg na'n Lladin. Ond wedyn, pe bai Cormac yn anghywir am 'gra(t)zacham', fe allai fod wedi bod yn anghywir am 'modebroth', hefyd. Mewn gwirionedd, gallai 'modebroth' fod yn ymadrodd Gwyddeleg sy'n golygu 'cosb ddwyfol', wedi'i drawsffurfio yn yr un modd ag y newidir yn aml eiriau mewn llwon crefyddol (er enghraifft, yn Saesneg ceir 'asu' neu 'iesgob' yn lle 'God' a 'Jesus'). P'un bynnag, nid oes rheswm grymus iawn dros gredu bod Muirchú yn gwir wybod yr union eiriau roedd Padrig wedi eu dweud 200 o flynyddoedd o'r blaen.

Wel, beth yw'r dyfarniad? Mae'n eitha posib y ganwyd Padrig yn yr ardal a elwir yn Gymru heddiw. Heb amheuaeth cafodd ei eni yng ngorllewin Prydain. Efallai ei fod yn meddwl mai Cymro oedd e, ac yn ddi-os byddai'r Saeson wedi ei gyfrif fel un o'r 'Wealas'. Mae bron yn sicr mai hynafiad y Gymraeg oedd ei famiaith. Ond wedi dweud hyn oll, gwyddom iddo ddewis Iwerddon yn hytrach na gwlad ei enedigaeth. Mae e'n droednodyn yn hanes Cymru, ond yn hollbwysig yn hanes Iwerddon.

Yn y gêm rygbi a ysbrydolai fy nghrys-t yr Ŵyl Padrig Sant honno, un o'r chwaraewyr (ymhlith y lliaws) a sgoriodd geisiadau dros Iwerddon oedd rhyw Ronán O’Gara, a gafodd ei eni yn San Diego, California. Yn y bôn, o ran hunaniaeth, nid popeth yw man geni’

Simon Rodway, Adran y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd, Prifysgol Aberystwyth

Cyhoeddwyd yr erthygl hon yn wreiddiol yn Saesneg yn The Conversation. Gellir darllen y gwreiddiol yma.

Mae Patrick Jemmer wedi creu’r fersiwn Cymraeg i parallel.cymru - http://parallel.cymru/?p=7062