Gwella iechyd a lleihau anghydraddoldeb yng nghanolbarth Cymru

Delfryd cefngwlad?  Er bod ardaloedd gwledig yn nodi gwell canlyniadau iechyd nag ardaloedd trefol, gyda disgwyliad oes uwch a chyfraddau is o farwolaethau cynamserol, mae yna heriau ac amgylchiadau sy'n effeithio'n anghymesur ar boblogaethau gwledig, sydd âg effaith negyddol ar iechyd a llês y trigolion.

Delfryd cefngwlad? Er bod ardaloedd gwledig yn nodi gwell canlyniadau iechyd nag ardaloedd trefol, gyda disgwyliad oes uwch a chyfraddau is o farwolaethau cynamserol, mae yna heriau ac amgylchiadau sy'n effeithio'n anghymesur ar boblogaethau gwledig, sydd âg effaith negyddol ar iechyd a llês y trigolion.

26 Mawrth 2018

Pa fathau o bethau sy'n effeithio ar eich iechyd a llês mewn cymunedau gwledig?

Pa fathau o ymyraeth, sydd ddim yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, allai fod o fudd i’ch cymuned?

Dyma fydd rhai o’r cwestiynau i drigolion y canolbarth mewn cyfarfod a drefnir gan Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig (CERHR) Prifysgol Aberystwyth nos Iau, 5 Ebrill 2018.

Cynhelir y cyfarfod o 6 tan 7.30pm yn Uned Ymchwil Iechyd a Lles y Brifysgol yn Adeilad Carwyn James ar Gampws Penglais.

Mae ardaloedd gwledig yn nodi gwell canlyniadau iechyd nag ardaloedd trefol, gyda disgwyliad oes uwch a chyfraddau is o farwolaethau cynamserol.

Serch hynny, mae yna heriau ac amgylchiadau sy'n effeithio'n anghymesur ar boblogaethau gwledig, sydd âg effaith negyddol ar iechyd a llês y trigolion.

Wrth i'r pwysau ar y gwasanaeth iechyd barhau, mae angen cynyddol i ystyried y ffordd orau o gefnogi trigolion gwledig yn eu cymunedau eu hunain.

Mae CERHR eisiau clywed yn uniongyrchol am y materion sy'n wynebu trigolion canolbarth Cymru er mwyn eu galluogi i gynnig ymyriadau addas a gwerthuso ymyriadau nad ydynt ar gael yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae'r cwestiynau fydd yn cael eu cyflwyno ar y noson yn cynnwys:

  • Pwy ydych chi'n teimlo sydd fwyaf ei angen yn eich cymunedau gwledig (e.e., oedolion hŷn, pobl ifanc, dynion, menywod ac ati)?
  • A oes unrhyw ymyriadau neu fentrau (ffurfiol neu anffurfiol) yn digwydd yn eich cymunedau y teimlwch eu bod yn gwneud gwahaniaeth?

Dywedodd Dr Rachel Rahman, Cyfarwyddwr y Ganolfan Rhagoriaeth mewn Ymchwil Iechyd Gwledig: “Gall byw mewn cymunedau gwledig fod yn hyfryd ond rydym hefyd yn ymwybodol ei fod yn dod â'i heriau ei hun i bobl o ran eu hiechyd a'u llês. Nid yw gweithredu ymyrraeth sy'n gweithio mewn dinasoedd a threfi trefol yn addas i gymuned wledig ac mae'n hanfodol ein bod ni'n clywed gan ein cymuned ein hunain am y pethau sy'n bwysig iddynt os ydym wir eisiau gwneud gwahaniaeth.”

Bydd y wybodaeth a ddaw i law ar y noson yn helpu i lywio cyfeiriad ymchwil y ceisiadau grant sydd ar y gweill sy'n archwilio ymyriadau nad ydynt yn ymwneud â'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol mewn iechyd a gofal cymdeithasol gwledig.

Os hoffech fynychu, cofrestrwch trwy anfon e-bost at: ruralhealth@aber.ac.uk neu ffoniwch: 01970 622 643 neu 01970621749 cyn Ebrill 2. Darperir lluniaeth.