Disgyblion blwyddyn 10 yn pwyso a mesur eu hopsiynau

28 Mawrth 2018

Bydd disgyblion Blwyddyn 10 o ysgolion ledled y canolbarth a’r gorllewin yn pwyso a mesur yr opsiynau sydd ar gael iddynt ar ôl gwneud eu TGAU mewn cwrs preswyl tridiau a gynhelir ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod gwyliau’r Pasg.

Mae Archwilio Pynciau, a gynhelir rhwng 4-7 Ebrill 2018, ac sydd yn rhad ac am ddim i fynychu, yn gyfle i 80 o ddisgyblion o ddeg ysgol yng Ngheredigion, Powys, Gwynedd a Sir Gâr i fynychu cyfres o gyflwyniadau a gweithdai, cymryd rhan mewn gweithgareddau, a chael blas ar fywyd prifysgol.

Mae Hannah Clarke, sy’n trefnu’r cwrs, wedi adeiladu ar lwyddiant y cwrs rhagbrofol a gynhaliwyd yn 2017, lle y cafwyd adborth hynod gadarnhaol gan y disgyblion Blwyddyn 10 am yr hyn roeddent wedi'i ddysgu am y pynciau ac am fywyd prifysgol. 

Dywedodd Hannah: “Gall dewis cyrsiau Lefel A a BTEC fod yn arbennig o anodd pan nad oes gan ddisgyblion ddarlun clir o gynnwys y pwnc, ac mae cynllunio ar gyfer Addysg Uwch neu ddewisiadau eraill yn gallu bod yn dasg braidd yn frawychus.”

“Rydym yn cynnig cyfle i ddisgyblion roi cynnig ar bedwar pwnc o blith rhestr o chwech ar hugain eleni. Byddant yn treulio hanner diwrnod ar bob pwnc, a bydd staff ac uwchraddedigion o'r adrannau academaidd yn darparu gweithdai ymarferol a gwybodaeth am eu pwnc.”

“Bydd y disgyblion yn aros mewn llety myfyrwyr, dan oruchwyliaeth ein tîm o Arweinwyr Myfyrwyr, ac yn cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol a fydd yn gyfle iddynt gael cipolwg ar fywyd prifysgol.”

Dywedodd Dr Debra Croft, Cyfarwyddwr Canolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol: “Mae’r adborth rydym wedi’i gael oddi wrth ysgolion yn awgrymu mai Blwyddyn 10 yw’r adeg pan fo llawer o ddisgyblion yn gallu dechrau colli diddordeb. Mae’r digwyddiad Archwilio Pynciau wedi’i anelu at y bobl ifanc sydd fwyaf tebygol o ymbellhau o’u haddysg. Mae wedi’i dargedu ar gyfer disgyblion sydd heb syniad clir ynglŷn â sut yr hoffent weld eu haddysg yn datblygu, i’w galluogi i wneud penderfyniadau am eu dyfodol ar sail gwybodaeth gadarn.”

Trefnir y cwrs Archwilio Pynciau gan Ganolfan Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol y Brifysgol, sy’n gweithio i chwalu’r rhwystrau (boed corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol) sy’n atal pobl rhag manteisio ar Addysg Uwch.

Mae’r Ganolfan yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion cynradd, uwchradd a cholegau Addysg Bellach i ddatblygu potensial academaidd plant a phobl ifanc, sicrhau bod disgyblion yn gyfarwydd â’r cyfleoedd a gynigir gan Addysg Uwch a chodi uchelgais ymhlith plant a phobl ifanc.

Mae’r Ganolfan ar hyn o bryd yn gwahodd ceisiadau ar gyfer ei Phrifysgol Haf flaenllaw oddi wrth ddisgyblion sy’n astudio tuag at Lefelau A neu NVQ Lefel 3.

Cynhelir y rhaglen breswyl chwe wythnos hon rhwng 16 Gorffennaf - 24 Awst 2018.  Mae wedi’i hanelu at bobl ifanc sy’n byw, neu’n mynd i’r ysgol/coleg, mewn ardaloedd yng Nghymru sydd â lefelau o dlodi penodol (dynodwyd yn ol cod post) neu sy’n dod o gefndir gofal / yn ymadawr gofal, neu sydd y cyntaf o’u teulu neu eu cymuned i fynd i brifysgol, neu ystod o feini prawf eraill yn ymwneud ag ehangu mynediad.

Mae’r Ysgol Haf yn golygu bod grŵp mawr o ddisgyblion yn gallu dod at ei gilydd am gyfnod estynedig i astudio pynciau o’u dewis, sy’n cael eu dysgu gan academyddion yn yr Adrannau, er mwyn efelychu bywyd prifysgol mor realistig â phosib. 

Y dyddiad cau ar gyfer y Brifysgol Haf eleni yw 4 Mai 2018. Am fwy o wybodaeth, gweler: https://www.aber.ac.uk/cy/widening-participation/schoolscolleges/summer-uni/