Y Cloc Ffractal

04 Ebrill 2018

Mi fydd oriawr, sydd wedi ei gwneud o 81 darn triongl o wydr, i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth o ddydd Gwener 6 Ebrill 2018.

Adeiladwyd y Cloc Ffractal gan Richard Downing, darlithydd yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Daw’r cyfanwaith yn fyw wrth i’r 81 triongl gwydr droi drwy siwrnai ysgafn o batrymau symudol tuag at ennyd o eglurdeb, unwaith bob trigain munud.

Mae'r Cloc  Ffractal yn ‘Ddawns o dyllau ar draws llwyfan awr' ac yn cynnig ail-gyfarfyddiad addfwyn a swynol gydag amser, gofod, lle a phersbectif.

Yn 2015 cyflwynodd Richard Downing ei fersiwn lechen wreiddiol o'r 'Cloc Fractal' yn Theatr y Castell yn Aberystwyth.

Roedd yn benllanw pum mlynedd o ddatblygu ei syniadau cynnar gyda'r Athro Richard Taylor sydd wedi gwneud gwaith ymchwil yn ystyried natur, derbyniad a chymhwysiad patrymau ffractal.

Mae trionglau gwydr, sy'n cylchdroi ar gyflymderau unigol er mwyn creu patrymau, wedi’u gosod yn berffaith ar gyfer trin persbectif, ac o fan penodol yn yr oriel, ymddengys eu bod yn creu patrwm ffractal 2D clasurol.

Mae'r patrwm hwn yn un y gellir dod o hyd iddo drwy gydol hanes, diwylliant a natur.

Mae'r fersiwn wydr addasedig hon yn trawsffurfio'r profiad o'r cloc wrth i'r golau uwchben y trionglau greu patrymau ychwanegol ar y cloc a'r arwynebau o'i gwmpas.

“Bwriad y Cloc Ffractal yw bod yn bresenoldeb ysgafn tawel, sy’n denu sylw yn hytrach na’i fynnu neu’i orchymyn, ond mae hefyd yn bresenoldeb sydd yn ‘dweud’ yr amser mewn modd  sydd yn awgrymu cyflawnder neu wirionedd”, meddai Richard Downing.

Mae Richard Downing yn ddarlithydd ac yn diwtor mewn Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth lle 'roedd yn rhannol gyfrifol am gyflwyno cynlluniau gradd mewn Senograffeg a Dylunio Theatr.

Ac yntau’n gyn Gyfarwyddwr Artistig y grŵp perfformio rhyngddisgyblaethol U-Man Zoo, mae ei ymchwil wedi arwain at ddiddordeb mewn cydweithio rhyngddisgyblaethol ar draws ffiniau'r celfyddydau/gwyddoniaeth.

Bydd y Cloc Ffractal i’w weld yng Ngaleri 1 Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth tan ddydd Sadwrn 5 Mai 2018.

Bydd cyfle hefyd i archebu ymweliadau preifat am awr i werthfawrogi'r cloc heb unrhyw ymyriadau.

 

AU16618