Trafod ymchwil Aberystwyth ar raglen Today

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, yn cael ei holi gan Justin Webb ar raglen Today ar BBC Radio 4.

Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, yn cael ei holi gan Justin Webb ar raglen Today ar BBC Radio 4.

17 Mai 2018

Cafodd staff a myfyrwyr o Brifysgol Aberystwyth eu holi ar gyfer rhifyn arbennig o brif raglen newyddion BBC Radio 4 Today a ddarlledwyd yn fyw o'r campws ddydd Iau 17 Mai 2018.

Rhwng 6-9yb, bu Justin Webb yn cyd-gyflwyno'r rhaglen o Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth gyda Martha Kearney yn cyflwyno o Lundain.

Rhoddwyd sylw manwl yn ystod y darllediad teir awr o hyd i’r gyfundrefn newydd ar gyfer cyllid myfyrwyr a grantiau cynhaliaeth a gaiff ei chyflwyno yng Nghymru ym mis Medi 2018.

Cafodd Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure, ei chyfweld am y diwygiadau yn ystod y rhaglen, yn ogystal ag Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Addysg, Kirsty Williams a'r Athro Syr Ian Diamond, Is-Ganghellor Prifysgol Aberdeen a gadeiriodd yr adolygiad o gyllid myfyrwyr ar ran Llywodraeth Cymru.

Wrth siarad yn fyw ar yr awyr, dywedodd yr Athro Treasure: "Dangosodd adolygiad Diamond fod myfyrwyr yn poeni mwy am sut maen nhw’n byw o ddydd i ddydd, er mwyn gall gwneud y gorau o'u hamser yn y brifysgol a chanolbwyntio ar eu hastudiaethau. Mae'r cynllun blaengar hwn, sy'n seiliedig ar brawf modd, yn rhoi rhywfaint o arian i bawb ar ffurf grant ac yn cynyddu hyd at lefel uchel. Yn fy marn i, mae hyn yn galluogi myfyrwyr i ganolbwyntio ar eu hastudiaethau drwy beidio â phoeni am arian, sut maen nhw’n talu am eu bwyd a chanolbwyntio ar ddatblygu sgiliau cyflogadwyedd ar lefel uwch.

"Mae Aberystwyth yn un o grŵp o brifysgolion llai sydd yn dda iawn am safon y dysgu - fel y dangoswyd gan ein dyfarniad fel Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu (The Times /  Sunday Times Good University Guide 2018) – ac sydd hefyd yn dda o ran ymchwil. Beth mae rhywun yn ei gael mewn prifysgol o’r fath yw profiad myfyriwr rhagorol a chyswllt o ddydd i ddydd gydag ymchwilwyr o’r radd flaenaf."

Tra roedd rhaglen Today ar yr awyr, bu’r Dr Arwyn Edwards o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS) a dau o'i fyfyrwyr doethuriaeth yn brysur yn cynnal profion dilynant DNA ar samplau o bridd o ardd Justin Webb yn Llundain a gardd yr Athro Treasure yn Aberystwyth.

Datgelwyd eu canfyddiadau yn fyw ar ddiwedd y rhaglen gyda’r arbrawf yn dangos y gwahaniaethau amrywiaeth rhwng y ddwy sampl, gan gynnwys y ffaith fod pridd Aberystwyth  ddeg gwaith yn fwy asidig na'r sampl o Lundain.

Bu’r Dr Arwyn Edwards, sy'n ymchwilydd ac yn uwch ddarlithydd Bioleg, hefyd yn siarad am fanteision eraill sy’n deillio o gynnal dilyniant DNA ar bridd: "Yn draddodiadol rydym wedi cael ein cyfyngu i dyfu pethau mewn pridd, ac nid oes modd tyfu mwy nag oddeutu 1% o'r holl amrywiaeth sy'n bresennol mewn sampl o bridd sampl oherwydd nad ydym yn gwybod ar beth y mae'r microbau yn hoffi tyfu. Ond i ddarganfod gwrthfiotigau newydd, mae'n bwysig iawn gallu cyrraedd y 99% sy'n weddill i allu dilyniannu DNA yn uniongyrchol a nodi gwrthfiotigau a allai fod yn bwysig iawn yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau. "

Roedd detholiad o wenith, ceirch a phlanhigion eraill o IBERS hefyd yn cael eu dangos yn ystod y rhaglen, gyda Justin Webb yn cyfweld Dr Fiona Corke am ei gwaith fel rheolwr tŷ gwydr y Ganolfan Genedlaethol Ffenomeg Planhigion yng Ngogerddan sy’n cael ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y  Gwyddorau Biodechnoleg a Bioleg (BBSRC).

Eglurodd Dr Corke sut roedd y tŷ gwydr cwbl awtomataidd yn galluogi ymchwilwyr i fonitro planhigion yn ofalus fel rhan o'u hymchwil ar ddatblygu planhigion sy'n gallu gwrthsefyll sychdwr ac sy'n gallu ffynnu mewn amgylcheddau maethol isel.

Cafodd pôs mathemateg dyddiol y rhaglen ei ddyfeisio gan yr Adran Fathemateg a'i gyflwyno gan y darlithydd Dr Gwion Evans, a holodd pam fod 13 yn cael ei ystyried yn 'rhif hapus' yn fathemategol.

Gallwch geisio datrys y pôs a chanfod yr ateb ar wefan BBC Radio 4 Today: www.bbc.co.uk/programmes/articles/1gzspVTkw3XJXzYHXm83D1S/puzzle-for-today.

Roedd Swyddog Lles Undeb Myfyrwyr Aberystwyth, Molly Jean Longden, wedi recordio pecyn ar gyfer y rhaglen lle bu’n siarad gyda staff a myfyrwyr am straen adeg arholiadau a’r cymorth sydd ar gael drwy’r Brifysgol.

Mae modd gwrando eto ar y darllediad ar y BBC iPlayer Radio tan 15 Mehefin 2018: www.bbc.co.uk/programmes/b0b2gspb.