Prifysgol Aberystwyth yn noddi Maes B

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gefnogwr brwd o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel noddwr Maes B a Gwobrau’r Selar

Mae Prifysgol Aberystwyth yn gefnogwr brwd o gerddoriaeth gyfoes Gymraeg fel noddwr Maes B a Gwobrau’r Selar

21 Mai 2018

Am y drydedd flwyddyn yn olynol mae Prifysgol Aberystwyth yn noddi Maes B, gŵyl gerddoriaeth Gymraeg pwysicaf Cymru sy’n cael ei chynnal eleni ym Mae Caerdydd o 8-11 Awst.

Gyda llai na thri mis i fynd tan yr Eisteddfod, mae’r trefnwyr bellach wedi cyhoeddi pwy fydd yn chwarae yn Maes B 2018 – ac mae gan sawl un gysylltiad agos gyda’r Brifysgol. 

Wrth i’r manylion gael eu cyhoeddi, dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor dros y Gymraeg, Diwylliant a Chysylltiadau Allanol ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Heb os, dyma ddigwyddiad blynyddol mwyaf y Sîn Gerddoriaeth Gymraeg ac rŷn ni’n hynod o falch ym Mhrifysgol Aberystwyth i’w gefnogi fel prif noddwr.  Mae Maes B yn rhoi llwyfan arbennig i dalentau disgleiriaf y sîn ac mae’n addas iawn i ni fel Prifysgol i gefnogi digwyddiad sy’n rhoi cyfle gwych i filoedd o bobl ifanc Cymru i fwynhau’r artistiaid cyfoes Cymraeg gorau.”

Dywedodd trefnydd Maes B, Guto Brychan, “Mae’n braf cael cyhoeddi’r lein-yps ar gyfer Maes B, ac rydym yn falch iawn bod yr ŵyl yn cael ei chynnal ym Mae Caerdydd, lle mae gweddill gweithgareddau’r Eisteddfod wedi’u lleoli.

“Mae gennym ni lein-yps cryf ac amrywiol eleni, sy’n cyfuno rhai o enwau mawr y sîn gydag artistiaid mwy newydd fel Mellt, Cadno a Serol Serol, gan greu nosweithiau sy’n mynd i apelio at gefnogwyr yr holl fathau gwahanol o gerddoriaeth sydd yn y sîn ar hyn o bryd.

“Mae Maes B yn llwyfan pwysig iawn i’r sîn Gymraeg, ac yn gyfle i’r gynulleidfa glywed bandiau newydd ac amgen ar yr un lein-yp â bandiau adnabyddus, ac mae hyn yn beth iach ac yn dda iawn i’r sîn.”

Mae’n sicr bod pob band ac artist sy’n gigio yng Nghymru’n breuddwydio am y cyfle i gael perfformio yn slot olaf nos Sadwrn ym Maes B rywbryd yn eu bywydau. 

Yr Eira sydd wedi sicrhau’r slot mawr yma eleni, ac meddai Lewys Wyn, prif leisydd y band a chynfyfyriwr o Brifysgol Aberystwyth: “Mae’n braf cael cyhoeddi o’r diwedd mai ni fydd yn cloi nos Sadwrn Eisteddfod 2018.

“Dros y blynyddoedd diwethaf mae’r slot yma wedi tyfu i fod yn un o nosweithiau, os nad noswaith fwyaf cofiadwy’r calendr Cymraeg, felly mae’n fraint cael ‘headlinio’r noson.  'Dydyn ni ddim yn fand sy’n mynd i dorri unrhyw records fel Yws Gwynedd y llynedd, ond dwi’n siŵr y bydd ‘na ambell syrpreis cyffrous iawn eleni, felly dewch â’ch nain, taid a’ch bochdew, gan y bydd hwn yn barti i’w gofio!”

Lein-yps Maes B 2018:
Nos Fercher 8 Awst: Band Pres Llareggub, Y Cledrau, Cadno, Gwilym
Nos Iau 9 Awst: Yr Ods, HMS Morris, Omaloma, Serol Serol
Nos Wener 10 Awst: Y Reu, Mellt, Chroma, Los Blancos
Nos Sadwrn 11 Awst: Yr Eira, Cpt Smith, Adwaith, Enillwyr Brwydr y Bandiau

Mae Maes B hefyd yn gweithio ar brosiect newydd gyda Chlwb Ifor Bach, i gynnal gweithdai arbennig ar gyfer merched 16-25 oed sydd â diddordeb mewn cerddoriaeth.  Cynhelir Merched yn Neud Miwsig yng Nghlwb Ifor Bach a Galeri ym mis Mehefin, a gellir archebu lle ar wefan y ddau leoliad.

Mae’r Eisteddfod eisoes wedi cyhoeddi mai Diffiniad fydd prif fand Llwyfan y Maes BBC Radio Cymru nos Wener eleni (10 Awst), a bydd cyhoeddiad am weddill yr arlwy cerddoriaeth ar y Maes yn cael ei wneud yn fuan.

Mae Maes B yn agored i bobl dros 16 oed ac mae’n gweithredu ac yn gorfodi polisi llym Her 25. Rhaid dangos ID dilys sy’n cynnwys trwydded yrru neu drwydded yrru dros dro gyfredol gyda llun, pasbort dilys cyfredol (dim llungopi) neu gerdyn Cynllun Safonau Prawf Oedran (gyda hologram PASS). Mae manylion pellach am ID dilys ar wefan Validate UK.

Bydd tocynnau Maes B ar werth o 10:00 ddydd Mawrth 29 Mai eleni.  Ewch i www.maesb.com am ragor o wybodaeth neu ffoniwch 0845 4090 800.  Tocynnau bargen gynnar ar gael tan 30 Mehefin. Am ragor o fanylion am yr Eisteddfod, ewch i www.eisteddfod.cymru.