Wythnos Dechrau Busnes 2018

30 Mai 2018

Os oes gennych syniad busnes yr hoffech ei wireddu, neu os hoffech ddatblygu eich sgiliau entrepreneuraidd, fe allai Wythnos Dechrau Busnes flynyddol Prifysgol Aberystwyth fod yn ddelfrydol i chi.

Yn ystod yr wythnos o ddydd Llun 4ydd i ddydd Gwener 8fed Mehefin ceir rhaglen o weithdai sgiliau busnes wedi'u seilio ar faterion allweddol sy'n wynebu busnes neu fenter gymdeithasol ar y cychwyn. Mae’r gweithdai yn rhad ac am ddim ac yn agored i bawb. 

Eleni, bydd rhaglen yr Wythnos Dechrau Busnes yn cynnwys sesiynau ar ymchwil i'r farchnad, marchnata, technegau gwerthu, marchnata digidol, darogan a rheoli cyllidol, gwerthu, eiddo deallusol a materion cyfreithiol. 

Mae'r amserlen hefyd yn cynnwys tri chyflwyniad gan unigolion sydd wedi dechrau busnesau llwyddiannus.

Fel y dywed Tony Orme, Rheolwr Menter y Brifysgol, sydd wedi bod yn gyfrifol am yr Wythnos Dechrau Busnes ers degawd:  "Os ydych chi erioed wedi breuddwydio am ddechrau eich busnes eich hun, bydd hon yn wythnos ddelfrydol ichi.

“Gan ganolbwyntio ar hyfforddi sgiliau busnes hanfodol, bydd y gweithdai rhad ac am ddim yn cynnig ysbrydoliaeth a phrofiad uniongyrchol gan rai sydd wedi mentro'u hunain yn ogystal ag awgrymiadau ac arweiniad ymarferol gan gynghorwyr busnes a staff y Brifysgol. 

"Mae'r fformat yn un hyblyg fel y gellir dod i raglen gyflawn o sesiynau, neu ddethol a dewis agweddau sydd o ddiddordeb penodol.

"Mantais ychwanegol dod i'r digwyddiad yw'r cyfle a geir i gwrdd ag unigolion o'r un bryd a chreu rhwydwaith o gefnogaeth i'w ddefnyddio wrth symud eich syniad busnes yn ei flaen.” 

Bydd y gweithdai, sy'n rhad ac am ddim ac yn agored i bawb, gan gynnwys staff, myfyrwyr a graddedigion Prifysgol Aberystwyth, yn cael eu cynnal ar Gampws Penglais.

Mae'r Wythnos Dechrau Busnes yn bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth a Syniadau Mawr Cymru Llywodraeth Cymru.

I gael rhagor o wybodaeth ac i archebu lle ar un neu fwy o'r gweithdai, cysylltwch ag aberpreneurs@aber.ac.uk.