Gwobr Aur Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu i Brifysgol Aberystwyth

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu mae Prifysgol Aberystwyth yn

Yn ôl y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu mae Prifysgol Aberystwyth yn "darparu addysgu, dysgu a chanlyniadau sy'n gyson ragorol i'w myfyrwyr. Mae o'r safon uchaf a geir drwy wledydd Prydain".

06 Mehefin 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi ennill Aur yn y Fframwaith Rhagoriaeth Addysgu a Chanlyniadau Myfyrwyr (FfRhA) a gyhoeddwyd heddiw ddydd Mercher 6 Mehefin 2018.

Llwyddodd y Brifysgol i ennill gradd uchaf y FfRhA am ddarparu addysgu, dysgu a chanlyniadau sy'n gyson ragorol i'w myfyrwyr, ac sydd o'r safon uchaf a geir drwy wledydd Prydain.

Yn ei ddatganiad o ganfyddiadau, dywedodd Panel y FfRhA fod myfyrwyr o bob cefndir yn llwyddo i gael "canlyniadau rhagorol yn gyson" a dywedodd fod “ymagwedd strategol ac arloesol Aberystwyth i sicrhau bod y dysgu yn tanio dychymyg a diddordeb y myfyrwyr”.

Â’r adroddiad ymlaen i nodi bod boddhad myfyrwyr gydag asesiad ac adborth, a chyfraddau cadw a dilyniant i gyflogaeth sgiliau uchel ac astudiaethau pellach, oll yn uwch na meincnod y Brifysgol.

Asesodd Panel y FfRhA addysgu israddedig y Brifysgol yn erbyn deg o feini prawf sy'n cwmpasu ansawdd addysgu, amgylchedd dysgu a chanlyniadau myfyrwyr. Roedd hefyd yn ystyried tystiolaeth ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y sefydliad.

Dywedodd y Panel fod ei benderfyniad i ddyfarnu Aur i Aberystwyth yn adlewyrchu, yn arbennig, dystiolaeth o:

  • Ddyluniad y cyrsiau ac arferion asesu sy’n rhoi lle i lefelau rhagorol o ymestyn, sy'n sicrhau bod pob myfyriwr yn cael eu herio'n sylweddol i gyflawni eu potensial llawn, ac yn datblygu gwybodaeth, sgiliau a dealltwriaeth sydd yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan gyflogwyr.
  • ymagwedd strategol ac arloesol i sicrhau bod y dysgu yn tanio dychymyg a diddordeb y myfyrwyr "
  • ymrwymiad helaeth, sydd wedi'i hen sefydlu, i ddatblygu a gwobrwyo addysgu rhagorol
  • buddsoddiad sylweddol mewn e-ddysgu i hyrwyddo cyfleoedd rhagorol i ddysgu
  • ymrwymiad eang i ymgorffori cyflogadwyedd yn y cwricwlwm a’r cyd-gwricwlwm
  • ymagwedd gynhwysfawr ac integredig tuag at addysgu yn y Gymraeg.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Darparu addysg ragorol yn yr unfed ganrif ar hugain a phrofiad myfyrwyr cynhwysfawr yw ein cenhadaeth yma yn Aberystwyth. Rydym yn llwyddo i gael canlyniadau drwy gyfuno ein cryfderau fel sefydliad hanesyddol sy’n cael ei arwain gan ymchwil gyda'r meddylfryd diweddaraf mewn addysgu arloesol, ymchwil a chyfleusterau o'r radd flaenaf.

“Rydym am roi gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau trosglwyddadwy i'n myfyrwyr, a fydd yn eu galluogi i ffynnu yn eu disgyblaeth ddewisol a'u gyrfaoedd yn y dyfodol. Mae ymrwymiad ein staff i'r safonau uchaf posibl yn cael ei adlewyrchu nid yn unig yng ngwobr Aur FfRhA heddiw ond hefyd yn ein sgoriau boddhad myfyrwyr NSS ardderchog a'n gwobr fel Prifysgol y Flwyddyn ar gyfer Ansawdd y Dysgu 2018 yn y Canllaw Prifysgolion Da.”

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor ar gyfer Profiad y Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth: “Mae myfyrwyr yn Aberystwyth yn dysgu ac yn byw mewn amgylchedd eithriadol, lle mae staff yn mynd y filltir ychwanegol i ddarparu dysgu sy'n addysgu, yn ysbrydoli ac yn herio ein dysgwyr i gyflawni eu llawn botensial. Drwy gydweithio rydym yn llwyddo i gyrraedd yr uchelfannau o ran safon ar draws ein darpariaeth yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac mae ein diolch heddiw i'r staff a'r myfyrwyr am eu hymroddiad a'u gwaith caled sydd wedi ein harwain at y wobr Aur hon.”

Dywedodd Gwion Llwyd, Llywydd UMCA a Swyddog Materion Cymreig Undeb y Myfyrwyr: “Rydyn ni’n falch iawn o lwyddiant y Brifysgol ac yn falch hefyd ein bod ni fel swyddogion undeb wedi gallu cyfrannu at y broses. Mae’n arbennig o galonogol gweld y canmoliaeth o ymdriniaeth cynhwysfawr ac integredig Aberystwyth ym maes addysgu cyfrwng Cymraeg.”

Dywedodd Bruce Wight, Swyddog Datblygu Undeb Myfyrwyr Aberystwyth: “Fel un sy’n raddedig o Aberystwyth ac sy’n swyddog Undeb Myfyrwyr etholedig, gwn pa mor galed y mae'r Brifysgol hon yn gweithio i sicrhau'r addysg a'r profiad gorau posibl i fyfyrwyr. Mae cydweithio agos rhwng staff, cynrychiolwyr academaidd myfyrwyr a swyddogion undeb, sy'n adlewyrchu'r pwyslais yma ar y dysgu yn tanio dychymyg a diddordeb y myfyrwyr ac yn gwrando ar lais y myfyrwyr. Rhoddir sylw manwl i adborth a data allweddol arall, sy'n golygu bod gwelliant parhaus ac arloesedd ar flaen y dysgu. Mae'r wobr Aur hon yn haeddiannol iawn ac yn dangos gwerth addysg Aberystwyth.”

Sefydlwyd y FfRhA gan Lywodraeth San Steffan i gydnabod addysgu rhagorol ymhlith darparwyr addysg uwch y DU trwy eu graddio fel Aur, Arian neu Efydd.

Mae'r canlyniadau wedi'u cynllunio i helpu darpar fyfyrwyr i ddewis lle i astudio trwy ddarparu gwybodaeth am ansawdd addysgu israddedig mewn sefydliadau addysg uwch.

Caiff y graddau eu barnu gan banel annibynnol o fyfyrwyr, academyddion ac arbenigwyr eraill.

Ceir rhagor o wybodaeth am y FfRhA ar wefan Swyddfa’r Myfyrwyr: www.officeforstudents.org.uk.