Daearegwr yn cyhoeddi llyfr am ddaeareg gwinllanoedd

07 Mehefin 2018

Wrth i gynhyrchwyr gwin ganu clodydd y priddoedd lle mae’u gwinllanoedd yn tyfu, mae llyfr newydd gan ddaearegwr o Brifysgol Aberystwyth yn ystyried sut y gall daeareg ddylanwadu ar winllan a’i chynnyrch.

Yn y gyfrol Vineyards, Rocks, and Soils: The Wine Lover’s Guide to Geology mae’r Athro Emeritws yn y Gwyddorau Daear, Alex Maltman, yn cyflwyno egwyddorion daeareg yng nghyd-destun gwin.

“Mae daeareg gwinllanoedd yn bwnc llosg ym myd gwin”, meddai’r Athro Maltman.

“Mae gwinllannoedd yn brolio’r priddoedd unigryw lle mae eu gwinwydd yn tyfu, mae newyddiadurwyr yn canmol rhinweddau arbennig y pridd neu'r graig a sut mae’n dylanwadu ar flas y gwin, ac mae nifer o wingarwyr yn argyhoeddedig bod modd blasu daeareg y winllan yn eu gwydraid gwin. Yn anffodus, mae tuedd i bobl gamddeall y ddaeareg.”

Yn ei lyfr mae’r Athro Maltman yn mynd ati i esbonio, mewn modd darllenadwy, daeareg a sut y mae’n dylanwadu ar winllanoedd a gwin.

“Mae’r pwyslais ar y math o brosesau sy’n creu’r winllan; y mwynau, creigiau a phriddoedd sy’n cynnal y gwinwydd,” dywed yr Athro Maltman.

"Dechreuais holi pam y gwnaethpwyd pethau mewn ffyrdd penodol mewn gwinllannoedd pan ddechreuais wneud fy ngwin fy hun dros 40 o flynyddoedd yn ôl. Dechreuais ddefnyddio ffrwythau o'r gwrychoedd o amgylch fy nghartref ym Mhenrhyncoch ger Aberystwyth, ac yna o winwydd yn fy ngardd. Dysgais lawer drwy wneud hyn; rwyf wedi dweud lawer gwaith bod egwyddorion gwneud gwin o ugain gwinwydden yr un ag ugain mil o winwydd.

"Mae'r llyfr hefyd yn archwilio sut mae’r ddolen rhwng daeareg a gwin yn amlygu ei hun yn y cynnyrch gorffenedig ac yn gwerthuso ei bwysigrwydd, yn enwedig yng nghyd-destunau mwynioldeb, terroir, a blas.

“Y ffaith yw bod daeareg yn cael ei hyrwyddo fwyfwy ym myd gwin, felly nod y llyfr yw cyfrannu at ddeall hynny’n iawn.”

Cyhoeddir Vineyards, Rocks, and Soils: The Wine Lover’s Guide to Geology gan Alex Maltman gan Wasg Prifysgol Rhydychen, ISBN 9780190863289.