Dechrau gwaith adeiladu Campws Arloesi a Menter Aberystwyth

Chwith i’r Dde: Ian Jones, Cyfarwyddwr Wilmott Dixon Cymru a’r Gorllewin; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Aberystwyth; Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth; a Jeff Monks, Pennaeth Ystadau gyda’r BBSRC.

Chwith i’r Dde: Ian Jones, Cyfarwyddwr Wilmott Dixon Cymru a’r Gorllewin; Yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; Yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil a Menter ym Mhrifysgol Aberystwyth; Dr Rhian Hayward, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth; a Jeff Monks, Pennaeth Ystadau gyda’r BBSRC.

27 Mehefin 2018

Bydd y gwaith adeiladu ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth, buddsoddiad o £40.5m, yn dechrau ar 2 Gorffennaf 2018 ar safle Gogerddan Prifysgol Aberystwyth ger Penrhyn-coch.

Bydd y Campws Arloesi yn meithrin cydweithio rhwng busnes a’r byd academaidd, gan ddarparu cyfleusterau ac arbenigedd o’r radd flaenaf i'r sectorau bwyd a diod, biobrosesu a biotechnoleg.

Dyfarnwyd y cytundeb adeiladu ar gyfer y datblygiad uchelgeisiol i Willmott Dixon Construction Limited a disgwylir i’r gwaith gymryd dwy flynedd i'w gwblhau.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Mae Campws Arloesi a Menter Aberystwyth yn ddatblygiad eithriadol a ddaw â phartneriaethau diwydiannol a swyddi newydd i'r rhanbarth. Mae’n enghraifft o’r Brifysgol yn cydweithio er mwyn sicrhau bod yr ymchwil rhagorol sydd yn cael ei wneud yma - ac yn arbennig yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn gweithio fel catalydd ar gyfer gwaith arloesol a fydd yn effeithio ar yr economi yn ehangach.”

“Rydym yn ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO) ac i’r BBSRC, sydd yn rhan o UK Research and Innovation, am eu cefnogaeth, ac i Gyngor Sir Ceredigion sydd wedi gweithio gyda ni ar wella’r isadeiledd er budd yr ardal.”

Mae'r Brifysgol a’r Cyngor Sir eisoes wedi cydweithio'n agos i ledu’r ffordd sydd yn arwain at y campws o groesffordd yr A4159. Cwblhawyd y gwaith hwnnw yn llwyddiannus gan y Cyngor Sir ym mis Mai 2018.

Dywedodd aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion â chyfrifoldeb dros yr Economi ac Adfywio, y Cynghorydd Rhodri Evans: “Mae arloesi a mentergarwch yn ffactorau allweddol i helpu economi Ceredigion i ffynnu. Mae'r Cyngor wedi cydweithio'n agos â Phrifysgol Aberystwyth i alluogi'r datblygiad i fynd yn ei flaen, ac rwy'n falch iawn o weld y gwaith yn dechrau. Rwy'n gobeithio gweld llawer o fanteision i'r sir gyfan ar ôl i’r Campws Arloesi a Menter gael ei sefydlu.”

Ariannwyd Campws Arloesi a Menter Aberystwyth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru (£20m), y BBSRC sydd yn rhan o UK Research and Innovation (£12m) a Phrifysgol Aberystwyth (£8.5m). Bydd yn darparu ystod o adnoddau safon uchel i gefnogi twf yn y sectorau bwyd a diod, biobrosesu a biotechnoleg drwy Gymru a thu hwnt.

Dywedodd Rhian Hayward MBE, Prif Swyddog Gweithredol Campws Arloesi a Menter Aberystwyth: “Wrth i ni symud i'r cyfnod adeiladu, mae llawer iawn o gwmnïau eisoes wedi mynegi diddordeb mewn defnyddio'r cyfleusterau ar y cyd ag arbenigwyr Prifysgol Aberystwyth. Eisoes gwelir addewid cynnar y Campws i hybu twf economaidd ymysg mentrwyr, cwmnïoedd newydd a phartneriaid mawr mewn diwydiant.”

Ychwanegodd Ian Jones, Cyfarwyddwr Willmott Dixon Cymru a’r Gorllewin: "Rydym yn deall arwyddocâd y prosiect hwn i'r ardal ac rydym yn falch o allu helpu i wireddu gweledigaeth Campws Arloesi a Menter Aberystwyth. Mae maint a graddfa'r prosiect yn drawiadol, ac yn tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i ddarparu cyfleusterau ymchwil ac arloesi o'r radd flaenaf.”