Olrhain hanes ffilm a sinema yn y Gymru wledig

Agorodd sinema’r Coliseum yn Aberystwyth yn 1932

Agorodd sinema’r Coliseum yn Aberystwyth yn 1932

10 Gorffennaf 2018

Ffilmiau o’r gorffennol a hanes sinemâu yng nghefn gwlad fydd yn cael sylw mewn noson yn Amgueddfa Ceredigion nos Sadwrn 14 Gorffennaf 2018. Drysau yn agor am 7.

Bydd y cyflwynydd Radio a Theledu, Francine Stock, yn dewis pedair o'i hoff ffilmiau, o’r 40au, y 50au, y 60au a’r 70au, er mwyn eu trafod.

Yn ymuno â hi ar lwyfan yr hyn a fu’n Sinema’r Coliseum fydd yr hanesydd sinema Jamie Terrill.

Mae Jamie yn astudio hanes sinemâu gwledig yng Nghymru fel rhan o’i ddoethuriaeth yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.

Bu Jamie yn olrhain ym modd y lledaenodd technoleg sinema, megis Kinetoscope Thomas Edison a Cinematographe y brodyr Lumière, i Gymru a’i hardaloedd gwledig yng nghanol y 1890au.

Bydd yn trafod hanes mynychu sinemâu yn Aberystwyth o’r dyddiau cynnar hynny, gan ganolbwyntio yn benodol ar y Coliseum.

Agorodd y Coliseum fel theatr yn 1904, a’i addasu yn sinema yn 1932. Erbyn iddi gau ei drysau am y tro olaf yn 1977 roedd 3,800 o ffilmiau wedi eu dangos yno. Ail agorodd yr adeilad fel Amgueddfa Ceredigion yn 1982.

Dywedodd Jamie: “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr iawn ar rannu llwyfan gyda Francine, gan ym mod wedi gwrando ar The Film Programme BBC Radio 4 er amser maith. Bydd yn gyfle gwych i drafod hanes cymdeithasol Aberystwyth a fy ymchwil mewn cydestyn cyhoeddus.”

Gyda chlipiau o’r detholiad o ffilmiau, a gafodd eu dangos ar hyd y degawdau yn hen Sinema'r Coliseum, bydd Francine yn esbonio ei dewis, gyda gwybodaeth gefndirol am y modd y cafodd y ffilmiau eiconig hyn eu creu.

"Roeddwn i eisiau dewis ffilmiau a oedd yn adlewyrchu cyfnod neu’n cyfleu ysbryd y cyfnod hwnnw”, dywedodd. “Wrth edrych drwy’r rhestr hir o ffilmiau a ddangoswyd yn wreiddiol yn y Coliseum yn Aberystwyth, des i o hyd i restr a oedd yn dwyn ysbryd pob degawd i gof."

Mae Francine wedi gweithio ar amrywiaeth o raglenni teledu, gan gynnwys Newsnight, The Money Programme, The Antiques Show ac yn fwy diweddar The Film Programme ar Radio Four.

Yn ogystal ag adolygu ffilmiau, mae hi hefyd yn awdures. Mae ei llyfrau yn cynnwys nofelau a hanes cymdeithasol y sinema.

Bu'n gadeirydd aelodau'r Cyngor Tate ac mae'n Gymrawd Anrhydeddus yng Ngholeg yr Iesu Rhydychen, wedi iddi astudio Ieithoedd Modern yno.

Ychwanegodd: "Roedd mor gyffrous i ddarganfod bod y cofnodion dyddiol a oedd yn cael eu cadw gan berchenogion y Coliseum mor fanwl. Nid yn unig fod enwau’r ffilmiau ac enwau’r dosbarthwyr wedi’u cofnodi, roedd nifer y gwylwyr a oedd yn bresennol yn ogystal â'r derbyniadau ariannol ar gyfer pob perfformiad wedi’u cofnodi.  Roedd rhai ffigyrau yn annisgwyl; roedd hi’n ymddangos fod ffilmiau nad oeddwn erioed wedi clywed amdanynt yn denu cynulleidfa fawr ar y pryd."

“Efallai y byddwch chi'n adnabod rhai o'r ffilmiau a dyma'ch cyfle chi i ddarganfod mwy am bob ffilm o ran eu creu a’u cefndir. Ar gyfer y saithdegau dewisais y ffilm arobryn Butch Cassidy and the Sundance Kid gyda Paul Newman a Robert Redford. Cafodd ei gwneud ar ddiwedd y 60au ond fe'i dangoswyd am y tro cyntaf yng Ngheredigion yn 1971 a thair gwaith wedyn yn ystod y ddegawd.”

Bydd pob un o'r pedair ffilm yn cael ei dangos yn y Coliseum yn nes ymlaen.  Bydd Francine yn defnyddio clipiau o'r ffilmiau i esbonio gwybodaeth y bydd hi’n dymuno ei chyflwyno yn ystod ei thrafodaeth.

Ar gyfer y chwedegau, rwyf wedi dewis y ffilm The Ipcress File gyda Michael Caine yn serennu ynddi. Mae'n ddewis hollol wahanol i ffilmiau nodweddiadol Bond, a oedd yn boblogaidd yn y cyfnod. Yn seiliedig ar nofel Len Deighton, enillodd y ffilm wobr Yr Academi Brydeinig Ffilm a Theledu ym 1965. Mae'r ddwy ffilm sy'n weddill yn llai hysbys heddiw ond roeddent yn boblogaidd iawn yn eu dydd; gyda’r pumdegau yn cael eu cynrychioli gan Mogambo a'r pedwardegau gan In Which We Serve."

Am ragor o fanylion ar y ffilmiau hyn, bydd yn rhaid i chi ddod i’r noson, pan fydd Francine yn datgelu pam ei bod hi’n credu fod y ffilmiau mor gynrychioliadol o'r cyfnodau hynny yn ein hanes.

Meddai Carrie Canham, Curadur Amgueddfa Ceredigion, "Rydym wrth ein bodd yn gwahodd Francine Stock i hel atgofion am ei hoff ffilmiau a chlywed mwy gan Jamie Terrill am hanes hen Sinema'r Coliseum.  Bydd hon yn noson wirioneddol ddiddorol, yn enwedig i’r rhai sydd â diddordeb angerddol mewn ffilmiau clasurol ac eiconig."

Trefnir y noson gan Amgueddfa Ceredigion, mewn cysylltiad gyda Gŵyl y Gelli.

Am ragor o wybodaeth am Amgueddfa Ceredigion a'r hyn sy’n digwydd yno, cysylltwch â’r Amgueddfa ar 01970 633088 neu ewch i wefan yr Amgueddfa.