Cymrodoriaeth er Anrhydedd i un o arwyr rygbi Cymru

Urddwyd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol John Dawes yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn ystod seremonïau Graddio 2018.

Urddwyd y cyn chwaraewr rygbi rhyngwladol John Dawes yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth yn ystod seremonïau Graddio 2018.

19 Gorffennaf 2018

Mae’r cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol, John Dawes OBE, wedi cael ei urddo’n Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Yn gyn-fyfyriwr Aberystwyth (Cemeg, 1962), enillodd John Dawes ei gap cyntaf i Gymru yn 1964 yn 23 oed. 

Aeth ymlaen i ennill 21 cap arall dros y degawd canlynol – a bu’n Gapten ar y tîm chwe gwaith, gan gynnwys tîm Camp Lawn 1971.

Yn 1971 ef oedd Capten ar daith y Llewod i Seland Newydd - y tîm cyntaf i ennill cyfres yn Seland Newydd, a'r unig dîm i wneud hynny hyd heddiw. Ef hefyd oedd hyfforddwr taith y Llewod i Seland Newydd yn 1977.

Ar ôl ymddeol o'r maes chwarae, bu'n hyfforddwr ar dîm Cymru o 1974 i 1979, gan ennill Coron Driphlyg y Pum Gwlad bedair gwaith mewn pum mlynedd, gan gynnwys dwy Gamp Lawn.

Cafodd OBE yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn 1972 am ei wasanaethau i chwaraeon.

Cafodd John Dawes ei gyflwyno gan Dr Rhys Thatcher o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ar ddydd Mercher 18 Gorffennaf 2018.  Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Cyflwyniad i John Dawes OBE gan Dr Rhys Thatcher:

Is-Ganghellor, darpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno John Dawes yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Vice-Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Sydney John Dawes as a Fellow of Aberystwyth University.

John Dawes enrolled at the University College of Wales, Aberystwyth (as Aberystwyth University was known then) in 1959, graduating three years later with a degree in Chemistry. Following graduation he moved to Loughborough to complete a Post Graduate Certificate in Education. During his university years John managed to balance his studies and playing rugby, achieving success in both.

Following his year at Loughborough College, and at the age of 23, John won his first cap for Wales; the match was against Ireland and the result was a 15-5 win for Wales.  This was the start of an illustrious career resulting in 22 caps for his country including six as captain.

In 1971, John was appointed captain of the British and Irish Lions side for the tour to New Zealand. This side, coached by Carwyn James (a name which is familiar with the sport and exercise science graduands in the audience), became the first and so far the only Lions team to win a series in New Zealand. He also captained the Barbarians side that beat New Zealand in Cardiff, 23-11, in 1973.

Today John holds a proud record for any Welshman; as both a player and a coach he has never lost to an England side.

After retiring as a player, he became coach of the Welsh national side in 1974, a post he held until 1979. During his time as coach, Wales won the Five Nations Triple Crown on four occasions, including two grand slams. In 1977 he returned to New Zealand as coach of the British Lions, unfortunately on this occasion the Lions were unable to repeat their 1971 success.

The list of awards and honours John has received in recognition of his contribution to Rugby is as impressive as his playing and coaching record.

  • He received an OBE for services to sport in the 1972 New Year’s Honours List
  • In 2006 he was named the greatest ever Welsh Coach and inducted to the Welsh rugby international players Hall of Fame
  • In 2010 John’s tribute dinner in Llandovery was attended by his HRH The Prince of Wales
  • In 2013 Lewis School, where John studied from 1951 – 1959 and started his rugby career, named their sporting facilities ‘The John Dawes Centre for Sporting Excellence’
  • In the same year he was inducted into the Loughborough Sporting Club Hall of Fame, followed in 2016 by his induction into the World Rugby Hall of Fame

He can now add Fellow of Aberystwyth University to this list.

Is-Ganghellor, mae’n bleser gennyf gyflwyno Sydney John Dawes i chi yn Gymrawd Prifysgol Aberystwyth.

Vice-Chancellor, it is my absolute pleasure to present Sydney John Dawes to you as a Fellow of Aberystwyth University.

 

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actor a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.


AU31518