Gradd er Anrhydedd wedi'i rhoi am waith dyngarol

Am ei waith dyngarol a llwyr anhunanol, cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Eric Harries gan Brifysgol Aberystwyth yng Ngraddio 2018.

Am ei waith dyngarol a llwyr anhunanol, cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau i Eric Harries gan Brifysgol Aberystwyth yng Ngraddio 2018.

20 Gorffennaf 2018

Mae cyn-swyddog tân a fu'n trefnu ac arwain 50 taith ddyngarol i ddwyrain Ewrop am ddau ddegawd o leiaf wedi cael Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau gan Brifysgol Aberystwyth.  

Gwnaeth Eric Harries, gyn-Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, gydlynu'r teithiau o Aberystwyth i Fosnia, Croatia, Belarws a Romania rhwng 1994 a 2013. 

Teimlai nad oedd ganddo ddewis ond cynorthwyo pobl gyffredin a ddioddefai oherwydd rhyfeloedd, a dechreuodd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth yn y gymuned leol a'r cyfryngau am yr angen taer am gymorth dyngarol a chyflenwadau, gan gydlynu gwaith casglu a chodi arian ar draws Ceredigion.

Wedyn defnyddiai ei wyliau blynyddol i yrru ei fan ar y daith 3,500 milltir i fynd â bwyd, a deunydd ymolchi a meddygol i'r ardaloedd a ddioddefai oherwydd y rhyfela.

Mae ymdrechion dyngarol Eric Harris wedi gwella nifer dirifedi o fywydau.

Cyflwynwyd Gradd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau iddo gan y Dr Elin Royles o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol ddydd Gwener, 20 Gorffennaf 2018.  Mae’r cyflwyniad ar gael isod, yn yr iaith y’i traddodwyd.

Y cyflwyniad i Eric Harries ganDr Elin Royles:

Ganghellor, Diprwy Is-Ganghellor, ddarpar raddedigion, gyfeillion.  Pleser o’r mwyaf yw cyflwyno Eric Harries am radd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau Prifysgol Aberystwyth.

Chancellor, Pro-Vice Chancellor, prospective graduates and supporters.  It is an honour and a privilege to present Eric Harries for an Honorary Bachelor of Science Degree of Aberystwyth University.

During the war in Bosnia and Herzegovina from 1992 to 1995 over a million Bosnian Muslims and Croats were driven from their homes in ethnic cleansing, and over 100,000 died. Many graduating from the Department of Inernational Politics  today may have studied aspects of this inter-ethnic conflictTragically, we see images in the media of civilians, often women and children, at the frontline in conflicts of this sort and feel a deep sense of helplessness. In Bosina, Western states failed to intervene and there were substantial questions regarding the effectiveness of UN peacekeeping. What on earth could ordinary citizens do?

Mae’r sefyllfa yng nghân Dafydd Iwan ‘Hawl i Fyw’ yn rhy gyfarwydd – rydyn edrych ar y llun mewn cydymdeimlad. Rydyn ni’n gofyn pam fod hyn yn gorfod bod, weithiau’n colli ambell ddeigryn o dosturi gan feddwl beth mewn difrif allwn ni fel pobl gyffredin ei wneud i gynorthwyo.

In response to the most atrocious war in Europe since the WWII, Eric Harries was compelled to help the innocent victims of war. Station Manager of Aberystwyth Fire Station at the time, he used his annual leave each year to organise trips in liaison with the Red Cross to take food, toiletries and medical supplies to areas affected by war. A 3,500 mile round trip in his van each time. Indeed, he organised and led 50 humanitarian missions from Aberystwyth to Bosnia, Croatia, Belarus and Romania over an 18 year period from 1994 onwards. This substantial effort involved gaining the support of local communities in Ceredigion and beyond and is quite a feat of organisation and logistics.

Mae’r gwaith sydd yn mynd y tu ôl drefnu, cydlynnu a chasglu bwyd a nwyddau i lenwi fan 7.5 tunell i fod yn orlawn ar gyfer tripiau o’r fath yn aruthrol. Anogwyd ystod o gymunedau i gyfrannu i’r ymdrechion dyngarol. Wedi dychwelyd o yrru’r fan draw a dosbarthu newyddau, byddai Eric yn codi ymwybyddiaeth yn lleol a thrwy’r wasg am y sefyllfa yn Bosnia a’r angen am gefnogaeth ddyngarol.

Eric also managed to develop a huge amount of local interest and involvement in the missions and raised awareness through media outlets and by speaking to local groups to demonstrate how their collections had a positive impact. Eric has seen the tragic and profound implications of the horrors of war. His philanthropic activities have benefitted many hundreds of lives. He has had a positive impact on Aberystwyth, its image and its contribution to the Bosnian humanitarian war effort. Mae cyfraniad Eric yn esiampl wych o ymdrechion o ardal Aberystwyth a’r tu hwnt i geisio cynorthwyo dioddefwyr rhyfeloedd a gwrthdaro, ymdrechion sydd yn parhau heddiw wrth gynorthwyo teuluoedd o Syria.

Mae’n fraint fawr i ni fel Prifysgol i gael y cyfle i gydnabod a dathlu cyfraniad Eric i waith dyngarol.

It is a great honour for the University to be able to recognise and celebrate Eric’s services to the humanitarian effort. 

We seek to inspire our students to make a contribution of whatever size to making the world a better place. Eric is a fantastic example of how this can be put into action. As you move onto the next chapter in your lives, I’d encourage you to consider Eric’s example and think deeply about how best to use your skills, education and commitment to contribute to a better world.

Canghellor / Dirprwy Is-Ganghellor, mae’n bleser gen i gyflwyno Eric Harries i chi am radd Baglor er Anrhydedd yn y Gwyddorau.  

Chancellor / Pro Vice-Chancellor, it is my absolute pleasure to present Eric Harries to you for an Honorary Bachelor of Science Degree.

Anrhydeddau Prifysgol Aberystwyth 2018

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn anrhydeddu naw o bobl yn ystod seremonïau graddio 2018, a gynhelir yng Nghanolfan Gelfyddydau’r Brifysgol rhwng dydd Mawrth 17 Gorffennaf a dydd Gwener 20 Gorffennaf.

Cyflwynir chwe Chymrawd er Anrhydedd i unigolion a chanddynt gysylltiad ag Aberystwyth neu â Chymru ar hyn o bryd neu yn y gorffennol, ac sydd wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’w dewis feysydd.

Cyflwynir un radd Doethuriaeth Er Anrhydedd hefyd; mae’r rhain yn cydnabod unigolion sydd wedi bod yn eithriadol o lwyddiannus yn eu maes, neu sydd â record hir o ymchwil a chyhoeddi nodedig.

Cyflwynir dwy radd Baglor er Anrhydedd. Cyflwynir y rhain i unigolion sy’n aelodau o staff Prifysgol Aberystwyth heb radd lefel-mynediad, i gydnabod eu gwasanaeth hir, eu cyfraniad a’u hymrwymiad i’r Sefydliad; ac i aelodau o’r gymuned leol sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i Aberystwyth a’r cyffiniau.

Cymrodoriaethau er Anrhydedd:

Cyflwynir Cymrodoriaethau er Anrhydedd i:

  • Yr Athro Ann Sumner – hanesydd celf, curadur arddangosfeydd, a chyfarwyddwraig amgueddfa
  • Bonamy Grimes MBE – gwe-entrepreneur a chyd-sylfaenydd y wefan cymharu prisiau teithiau awyren, Skyscanner
  • Euryn Ogwen Williams – darlledydd profiadol a ffigwr arloesol yn y cyfryngau yng Nghymru
  • John Dawes OBE – cyn-chwaraewr a chyn-hyfforddwr rygbi rhyngwladol
  • Yr Athro Menna Elfyn – bardd a dramodydd arobryn
  • Ei Anrhydedd y Barnwr Milwyn Jarman QC – barnwr blaenllaw.

Urddwyd yr awdur a’r ysgolhaig, yr Athro Meic Stephens yn Gymrawd er Anrhydedd Prifysgol Aberystwyth mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd ddydd Iau 3 Mai 2018. Bu farw yr Athro Stephens ar ddydd Iau 3 Gorffennaf.

Gradd Doethur er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Doethur er Anrhydedd i’r entrepreneur technoleg a dylunydd meddalwedd, John Thompson.

Graddau Baglor er Anrhydedd:

Cyflwynir gradd Baglor yn y Gwyddorau er Anrhydedd i gyn Reolwr Gorsaf Dân Aberystwyth, Eric Harries, a drefnodd ac arwain 50 o deithiau dyngarol i Ddwyrain Ewrop i gynorthwyo rhai diniwed a ddioddefai oherwydd rhyfel.

Cyflwynir Gradd Baglor yn y Celfyddydau er Anrhydedd i Sue Jones-Davies, actor a chantores, cynghorydd tref, a chyn Faer Aberystwyth.

AU32018