Prifysgol Aberystwyth yn noddi clwb pêl-droed y dref

Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am y tymor 2018-19.

Prifysgol Aberystwyth yw prif noddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am y tymor 2018-19.

06 Awst 2018

Prifysgol Aberystwyth fydd prif noddwr Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth am y tymor 2018-19.

Mae’r Brifysgol a’r Clwb hefyd wedi cytuno i ariannu gwobr ysgoloriaeth newydd ar y cyd ar gyfer hyd at ddau chwaraewr sy’n astudio cwrs gradd yn Aberystwyth.

Deilydd cyntaf yr ysgoloriaeth newydd fydd chwaraewr tîm cyntaf y clwb Matthew Jones o Aberystwyth, sy’n dechrau cwrs gradd israddedig mewn Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff yn Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) y Brifysgol yn hydref 2018.

Dywedodd yr Athro Tim Woods, Dirprwy Is-Ganghellor dros Addysgu, Dysgu a Phrofiad Myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth: “Ar hyd y blynyddoedd, mae llawer o’n myfyrwyr ac aelodau staff naill ai wedi cefnogi neu chwarae i Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, a gafodd ei sefydlu tua’r un pryd â’r Brifysgol yn y 19eg ganrif. Mae’r cytundeb nawdd a’r ysgoloriaeth newydd yn adeiladu ar y berthynas glòs sydd rhwng y Brifysgol a’r clwb. Mae’n hybu yn ogystal gwerthoedd pwysig lles a ffitrwydd, ac yn agor cyfleoedd i chwaraeon ac addysg uwch.”

Dywedodd Cadeirydd Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth, Donald Kane, sy’n gyn-fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, Donald Kane: “Mae Clwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn hynod falch cyhoeddi mai Prifysgol Aberystwyth fydd ein prif noddwr am y tymor 2018-19. Fel rhan o’r cytundeb, bydd gan y Brifysgol bresenoldeb gweledol amlwg ar y safle yng Nghoedlan y Parc ac ar ein gwefan. Fydd yr enw i’w weld ar wisg y tîm cyntaf, ochr yn ochr â noddwr y cit Cambrian Tyres, ac ar wisg timoedd yr academïau, y menywod a’r rhai ag anableddau. Rydym yn gweld y nawdd yma fel dilyniant naturiol i gynllun yr ysgoloriaeth gyda’r Brifysgol ac yn edrych ymlaen at berthynas hyd yn oed yn fwy agos yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod.”

Mae’r cytundeb nawdd yn cynnwys cyfle i fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wylio pedair gêm dynodedig Uwch Gynghrair Cymru am ddim bob blwyddyn a defnyddio stadiwm Coedlan y Parc ar gyfer digwyddiadau chwaraeon arbennig.

Bydd ymwelwyr sy’n mynychu Diwrnodau Agored y Brifysgol yn cael cynnig mynediad am ddim i gemau cartref.

Ceisiadau Ysgoloriaeth

Mae ceisiadau ar gyfer ysgoloriaeth Prifysgol Aberystwyth a Chlwb Pêl-droed Tref Aberystwyth flwyddyn nesaf nawr ar agor hyd 31 Ionawr 2019.

Bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn chwarae i Glwb Pêl-droed Tref Aberystwyth yn Uwch Gynghrair Cymru ac i dîm pêl-droed BUCS Prifysgol Aberystwyth pan fo’n bosib.

Caiff yr ysgoloriaeth ei chyllido gan Gronfa Aber y Brifysgol sy’n derbyn rhoddion gan gyn-fyfyrwyr ar draws y byd. Manylion pellach i’w cael ar wefan y Brifysgol: https://www.aber.ac.uk/cy/undergrad/scholarships.