Dyfarnu Cymrodoriaethau Rutherford i Brifysgol Aberystwyth

Fel rhan o’u rhaglen ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu Dr Benjamin van der Waal a Dr Peyton Lisenby yn ymweld â gwlyptiroedd, afonydd a chronfeydd dŵr Cwm Elan.

Fel rhan o’u rhaglen ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu Dr Benjamin van der Waal a Dr Peyton Lisenby yn ymweld â gwlyptiroedd, afonydd a chronfeydd dŵr Cwm Elan.

16 Awst 2018

Dyfarnwyd pum Cymrodoriaeth newydd i Brifysgol Aberystwyth dan gynllun Grantiau Partner Strategol Cronfa Rutherford sy’n cael ei weinyddu gan adain ryngwladol Prifysgolion y Deyrnas Unedig (UUKi).

Caiff y Cymrodoriaethau tymor byr eu hariannu gan Adran Busnes, Ynni a Diwydiant Llywodraeth y DU drwy Gronfa Rutherford, gyda’r nod o ddenu doniau byd-eang a chryfhau sylfaen ymchwil y DU.

Mae Aberystwyth yn un o 19 o brifysgolion yn y DU sydd wedi eu dewis ar gyfer y cymrodoriaethau ymchwil.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Cronfa Rutherford yn agor cyfleoedd newydd cyffrous ar gyfer cydweithredu rhyngwladol a rhyngddisgyblaethol gyda phartneriaid strategol dramor, yn enwedig mewn gwledydd sy’n datblygu. Bydd datblygu'r rhwydweithiau ymchwil newydd hyn yn cryfhau ymhellach ein cysylltiadau â'r gymuned ymchwil fyd-eang ac yn gwella ein henw da fel sefydliad ymchwil rhyngwladol sy'n cael effaith ar fywydau go iawn.”

Mae dau o’r pum Cymrawd Rutherford wedi bod yn gweithio yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ystod haf 2018.

Bu Dr Benjamin van der Waal o Brifysgol Rhodes yn Grahamstown, De Affrica, a Dr Peyton Lisenby o Brifysgol Macquarie yn Sydney, Awstralia, ill dau yn gweithio gyda'r Athro Stephen Tooth ar wyddoniaeth a rheolaeth gwlyptiroedd mewn amgylcheddau sych.

Bydd Dr Paul Harvey o Brifysgol Macquarie yn ymuno â'r prosiect ymchwil fel Cymrawd Rutherford ar 25 Awst 2018.

Dywedodd yr Athro Stephen Tooth: “Mae'r tri cyntaf o blith y cymrodyr Rutherford yn gweithio gyda ni i geisio gwreiddio dealltwriaeth wyddonol o brosesau cludo gwaddod a dŵr oddi mewn i strategaethau gwarchod ac adfer gwlyptiroedd. Mae'r gwlyptiroedd hyn yn bwysig o ran bywoliaeth pobl yn ogystal â bioamrywiaeth ein byd ond maent yn cael eu difrodi neu eu dinistrio o ganlyniad i reolaeth tir gwael neu maen nhw’n fregus yn wyneb newidiadau hinsawdd yn y dyfodol. Drwy waith ymchwil rhyngwladol cydweithredol, ein nod yw bwydo i mewn i waith gwneuthurwyr polisi a thirfeddianwyr wrth i ni ymateb i'r her fyd-eang gynyddol hon.”

Ym mis Tachwedd 2018, bydd dau Gymrawd Rutherford arall yn cyrraedd Prifysgol Aberystwyth o Brifysgol Namibia.  Bydd y ddau yn treulio pum mis yn gweithio ar brosiectau ymchwil yn ymwneud â rheolaeth adnoddau dŵr mewn amgylcheddau sych, ochr yn ochr â staff o’r Adran Daeryddiaeth a Gwyddorau Daear ac Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).