Myfyrwyr Prifysgol Haf Aberystwyth yn cael blas o fywyd campws

Myfyrwyr Prifysgol Haf Aberystwyth 2018 yn dathlu gyda’u tystysgrifau a gyflwynwyd eleni gan Sue Jones-Davies - actor, cynghorydd tre a Chymrawd er Anrhydedd y Brifysgol.

Myfyrwyr Prifysgol Haf Aberystwyth 2018 yn dathlu gyda’u tystysgrifau a gyflwynwyd eleni gan Sue Jones-Davies - actor, cynghorydd tre a Chymrawd er Anrhydedd y Brifysgol.

24 Awst 2018

Daeth Prifysgol Haf Aberystwyth 2018 i ben mewn seremoni raddio arbennig a gynhaliwyd yn Neuadd Fawr Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ddydd Gwener 24 Awst 2018.

Bellach yn ei 18fed flwyddyn, nod rhaglen flaenllaw Prifysgol Haf Aberystwyth yw ehangu mynediad i addysg uwch.

Mae’r rhaglen yn cynnwys rhaglen breswyl chwe wythnos o ddarlithoedd, ymchwil a chyflwyniadau yn ogystal â gweithgareddau chwaraeon a chymdeithasol.

Roedd carfan eleni yn cynnwys 74 o bobl ifanc o bob cwr o Gymru ac roedd y seremoni yn gyfle i longyfarch a dathlu eu gwaith caled a’u llwyddiannau.

Mae’r Brifysgol Haf yn cael ei threfnu a’i chynnal gan Ganolfan Prifysgol Aberystwyth ar gyfer Ehangu Cyfranogiad a Chynhwysiant Cymdeithasol. Mae Dr Debra Croft, Rheolwr y Ganolfan, yn esbonio pam fod y rhaglen mor llwyddiannus: “Cryfder Prifysgol Haf Aberystwyth yw ei bod yn adlewyrchu bywyd prifysgol mor realistig â phosibl. Mae gan y myfyrwyr chwe wythnos gyfan i brofi bywyd prifysgol, addasu i’r profiad o fyw i ffwrdd o gartref, y pwysau cyfunol o waith academaidd a therfynau amser, chwaraeon a gweithgareddau. Mae ganddynt ddewis o 3 o blith 26 modiwl academaidd, ac maent yn cwblhau 3 modiwl sgiliau craidd a bywyd hefyd.  

“Rydym yn hynod o falch o bawb sy’n gwneud y cwrs a’r rhai sy’n mynd ymlaen i ddilyn rhaglen radd israddedig. Eleni bydd chwech o’r myfyrwyr yn dechrau ym Mhrifysgol Aberystwyth ym mis Medi, gan ymuno â graddedigion y Brifysgol Haf o flynyddoedd blaenorol.”

Meddai Dr Rhodri Llwyd Morgan, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Bob blwyddyn, mae Prifysgol Haf Aberystwyth yn helpu pobl ifanc i oresgyn rhai o’r rhwystrau posibl a wynebir wrth ymgeisio am addysg uwch. Y nod yw codi eu dyheadau a chynnig cyfle unigryw iddynt archwilio’u potensial wrth brofi pob agwedd o fywyd prifysgol. Fel sefydliad, rydyn ni’n rhoi pwyslais mawr ar ehangu mynediad a chael gwared ar rwystrau i addysg uwch - boed yn rhwystrau corfforol, cymdeithasol, diwylliannol neu ariannol.”

Ers 2012, mae tua 83% o’r myfyrwyr sydd wedi cwblhau Prifysgol Haf Aberystwyth wedi llwyddo i fynd ymlaen i Addysg Uwch neu brentisiaethau lefel uwch.

Mae Prifysgol Haf Aberystwyth nid yn unig o fudd i’r bobl ifanc sy’n cwblhau’r cwrs, ond mae hefyd yn cynnig profiad gwaith gwerthfawr i fyfyrwyr presennol o Brifysgol Aberystwyth weithio fel Arweinwyr Myfyrwyr. 

Fel yr eglura Dr Debra Croft: “Mae ein tîm o Arweinwyr Myfyrwyr yn ennill profiad gwaith o ansawdd wrth iddyn nhw gynorthwyo gyda gofal bugeiliol a chydlynu chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol ar y cwrs. Maent yn fyfyrwyr presennol sydd wedi cael eu hyfforddi i ddarparu lefel uchel o gymhelliant a gofal i’r myfyrwyr haf - nid yw rhai ohonynt wedi aros oddi cartref o’r blaen. Mae’r cyfle hwn yn eu galluogi i hogi eu sgiliau a chynyddu eu cyfleoedd cyflogaeth.”

Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield

Roedd seremoni raddio'r Brifysgol Haf hefyd yn cydnabod gwaith y pedwar myfyriwr ar Leoliad Ymchwil Sefydliad Nuffield sydd wedi treulio eu haf yn gweithio gydag ymchwilwyr yn yr adrannau Mathemateg a Ffiseg.

Cynigir Lleoliadau Ymchwil Sefydliad Nuffield i fyfyrwyr Blwyddyn 12. Mae’r cynllun, sy’n cael ei gydlynu yng Nghymru gan Techniquest, yn helpu myfyrwyr i sicrhau profiad yn ystod eu gwyliau haf mewn diwydiant neu sefydliadau ymchwil gyda phrosiectau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM).

Prifysgol Haf 2018

Bydd ceisiadau i Brifysgol Haf 2019 Prifysgol Aberystwyth yn agor ym mis Rhagfyr 2018 i bobl ifanc sy’n astudio ar hyn o bryd tuag at Safon Uwch neu NVQ Lefel 3. Nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael ac mae blaenoriaeth i geisiadau gan fyfyrwyr sy'n bodloni prif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Mae blaenoriaeth ar gyfer lleoedd yn mynd i fyfyrwyr sy'n byw neu'n mynd i'r ysgol neu'r coleg mewn ardal Cymunedau yn Gyntaf yng Nghymru, neu sydd o gefndir gofal neu wedi gadael gofal.

Caiff ystyriaeth arbennig ei roi hefyd i bobl ifanc sydd:

  • ymhlith y cyntaf o'u teulu i fynd i'r brifysgol
  • â salwch neu anabledd hirdymor
  • yn dod o grŵp ethnig a dangynrychiolir
  • yn awyddus i astudio pwnc lle mae un rhyw yn cael ei dangynrychioli
  • wedi profi digwyddiad trawmatig sydd wedi effeithio ar eu haddysg