Dathlu sgiliau cyflogadwyedd myfyrwyr

Aleksandra Kucharska (canol) yn derbyn Gwobr Llwyddiant Eithriadol AberYmlaen ynghyd â rhodd o £500 gan David Blanchard, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Balfour Beatty, a Sian Furlong-Davies, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gyrfaoedd

31 Awst 2018

Mae pum myfyriwr o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn gwobrau cyflawniad am rhagoriaeth mewn lleoliadau gwaith dros yr haf.

Cyflwynwyd y Gwobrau Cydnabyddiaeth dan Hyfforddiant gan y cwmni adeiladu blaenllaw Balfour Beatty, a fu’n gyfrifol am adeiladu llety myfyrwyr diweddaraf y Brifysgol ar Fferm Penglais, a agorwyd yn 2015.

Dyfarnwyd £500 i Aleksandra Kucharska am y wobr llwyddiant eithriadol a chyflwynwyd gwobrau cyflawniadau gwerth £250 i Eleanor Upton-Heath, Matthew Spratt, Alexander Thompson a Rebecca Snell.

Cwblhaodd y pump gyfnod o lleoliad gwaith pedair wythnos, fel rhan o gynllun AberYmlaen y Brifysgol ar ddydd Gwener 24 Awst 2018, ynghŷd â 56 o israddedigion eraill.

Nod cynllun AberYmlaen yw rhoi cyflwyniad ymarferol i fyfyrwyr i’r gweithle a chyfleoedd i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd cyn iddynt ddechrau astudio yn eu blwyddyn olaf.

Mae’r ymgeiswyr yn gweithio’n llawn amser am bedair wythnos fel aelod o staff mewn Adran yn y Brifysgol yn ystod Gorffennaf-Awst ac yn mynychu cyfres o weithdai sy’n ymwneud â gyrfaoedd.

Ar ôl derbyn y Wobr Cydnabyddiaeth dan Hyfforddiant, dywedodd Aleksandra Kucharska: “Treuliais bedair wythnos yn fy lleoliad gwaith fel Swyddog Prosiect i BEACON yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig lle cefais gyfle gwych i brofi bywyd yn y gweithle. Bum yn gweithio ar brosiect penodol i sefydliad cyhoeddus allanol a chefais brofiad byd go iawn o weithio gyda chwsmer fel rhan o dîm. Mae wedi bod yn addysgiadol heb os, ond rwyf wedi mwynhau pob munud a bydd y profiad hyn, heb amheuaeth yn help imi wrth chwilio am swydd ar ôl graddio.”

Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaethau Gyrfaoedd Prifysgol Aberystwyth, Sian Furlong-Davies: “Mae pob un o’r 60 myfyriwr sydd wedi bod ar gynllun haf AberYmlaen wedi elwa o’r cyfle i ddatblygu eu galluoedd a’u profiadau yn y gwaith, yn ogystal ag adnabod y sgiliau a’r cymwyseddau trosglwyddiadwy sydd ganddynt. Mae eu cyfraniad yn werthfawr i waith y Brifysgol a hoffwn ddiolch iddynt a’u llongyfarch. Yn amlwg, roedd dewis pump i dderbyn y Gwobrau Cydnabyddiaeth i Fyfyrwyr yn dasg anodd ac rydym yn ddiolchgar i Balfour Beatty am eu cefnogaeth.”

Dywedodd David Blanchard, Cyfarwyddwr Buddsoddiadau Balfour Beatty: “Mae’r amrywiaeth o leoliadau gwaith y mae myfyrwyr AberYmlaen wedi’i cwblhau eleni wedi gwneud argraff mawr arnai. Mae cyflogwyr erbyn hyn yn edrych am raddedigion sydd â phrofiad gwaith ac sy’n medru dangos y gallu i feddwl yn annibynnol, gwneud y penderfyniadau cywir mewn amgylchiadau heriol a chyrraedd lefelau uchel o broffesiynoldeb. Rydym yn falch i gefnogi cynllun AberYmlaen sy’n darparu i’r myfyrwyr y sgiliau ychwanegol hynny fydd eu hangen arnynt mewn gyrfa yn y dyfodol.”

Dywedodd James Wallace, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws a Masnachol Prifysgol Aberystwyth: “Fel Prifysgol, ein nod yw sicrhau bod ein myfyrwyr yn graddio fel meddylwyr beirniadol, annibynnol sydd yn meddu ar y sgiliau disgyblaethol a throsglwyddiadwy penodol sy’n arwain at gyflogaeth ar lefel raddedig. Er mwyn gwella eu sgiliau cyflogadwyedd, rydym wedi creu cyfres o fentrau sy’n canolbwyntio ar waith sy’n cynnwys y cynllun AberYmlaen. Wrth weithio gyda diwydiant a chwmnïau megis Balfour Beatty, ein gobaith yw rhoi blas i fyfyrwyr o brofiad gwaith yn y byd go iawn ac mae’n amlwg, wrth glywed eu profiadau yn y seremoni wobrwyo, eu bod nhw wedi datblygu ac ennill mewnwelediadau pwysig yn ystod y pedair wythnos o waith.”

Mae’r arolwg ddiwethaf sy’n dangos ble mae graddedigion chwe mis ar ôl gadael y Brifysgol yn dangos fod 96.8% o fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth mewn gwaith neu addysg bellach (Destination of Leavers in Higher Education 2017).

Ceir mwy o wybodaeth am y cyngor ymarferol a’r gefnogaeth sydd ar gael gan Wasnaethau Gyrfaoedd y Brifysgol ar-lein yma: https://www.aber.ac.uk/cy/careers/.