Canolfan Ragoriaeth TB Gwartheg i’w sefydlu ym Mhrifysgol Aberystwyth

Yr Athro Glyn Hewinson

Yr Athro Glyn Hewinson

03 Hydref 2018

Bydd Canolfan Ragoriaeth mewn TB Gwartheg yn agor ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddarach eleni, gan ddod ag arbenigwyr y byd ynghyd i drechu'r clefyd gwartheg.

Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddydd Mercher 3 Hydref 2018.

Dywedodd Lesley Griffiths: “TB Gwartheg yw'r broblem fwyaf sydd gennym ym maes iechyd anifeiliaid yng Nghymru heddiw. Mae'n cael effaith ofnadwy ar y fuches genedlaethol a'r gymuned ffermio, ac mae'n faich ar y pwrs cyhoeddus.

“Gallai'r Ganolfan Ragoriaeth droi'r rhod yn y frwydr yn erbyn TB Gwartheg ac mae'n rhan o'n hamcan tymor hir o ddileu'r clefyd am byth.”

Mae’r ganolfan newydd yn fuddsoddiad o £3.6m a bydd yn cael ei harwain gan yr Athro Glyn Hewinson, arbenigwr bydenwog mewn TB Gwartheg.

Ar hyn o bryd yr Athro Hewinson yw Prif Wyddonydd TB Gwartheg yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, gan arwain yr ymchwil i'r clefyd yno am ragor nag 20 mlynedd.

Dywedodd yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth: “Rydyn ni'n falch iawn ein bod yn cael sefydlu Canolfan Ragoriaeth mewn TB Gwartheg ym Mhrifysgol Aberystwyth gyda chymorth Llywodraeth Cymru. Mae cost economaidd ac emosiynol TB Gwartheg mewn cymunedau gwledig yn gallu bod yn dorcalonnus ac mae penodi'r Athro Hewinson, gyda'i gyfoeth o brofiad yn gweithio i daclo'r clefyd, yn fuddsoddiad arwyddocaol iawn o'n  rhan ni wrth inni chwilio am ffyrdd newydd i daclo'r hen broblem hon.”

Mae’r ganolfan wedi derbyn cefnogaeth Sêr Cymru II, rhaglen a sefydlwyd er mwyn ehangu a datblygu arbeingedd ymchwil yng Nghymru. Caiff ei harianu gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghmru a’r Gronfa Ddatblygu Ranbarthol Ewropeaidd.

Dywedodd y Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru: “Mae'r Athro Hewinson yn arloesydd yn y byd ymchwil i TB Gwartheg ac mae'n arbenigwr ac yn arweinydd o fri rhyngwladol. Mae'n uchel iawn ei barch ymhlith ei gyd-arbenigwyr ac mae ei benodi'n dangos yn glir i bawb pa mor benderfynol ydyn ni o drechu'r clefyd.”

Wrth ymateb i'w benodiad, meddai'r Athro Hewinson: “Testun balchder ac anrhydedd aruthrol imi yw cael fy mhenodi i Gadair Ymchwil Sêr Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, i arwain y Ganolfan Ragoriaeth newydd mewn TB Gwartheg. Bydd y ganolfan yn ymchwilio i agweddau sylfaenol ar wyddor TB Gwartheg, gan gefnogi'r ymdrechion i drechu'r clefyd difaol hwn, ar y cyd â'r Llywodraeth a diwydiant.

Dywedodd yr Athro Peter Halligan, Prif Gynghorydd Gwyddonol Cymru: “Mae'n hanfodol i ffyniant economaidd Cymru a'n gallu i gystadlu ym marchnadoedd y byd yn y dyfodol ein bod yn denu'r talentau rhyngwladol newydd i Gymru i gryfhau ein galluoedd ymchwil a datblygu gwyddonol sydd eisoes yn destun clod. Rwy'n falch iawn o gael croesawu'r Athro Hewinson fel y 12fed Cadair ymchwil sydd wedi'i ddenu i Gymru fel rhan o raglen Sêr Cymru.”

Bydd y Ganolfan Ragoriaeth yn rhan o Athrofa’r Gwyddorau Biolegoleg, Amgylcheddol a Chefn Gwlad y Brifysgol ac yn ganolbwynt i'r ymchwil genedlaethol a rhyngwladol i TB Gwartheg.

Nod y rhaglen hefyd yw troi'r cynnyrch y mae'n eu datblygu'n syniadau busnes, gan gydweithio â diwydiant ar brofion a brechlynnau newydd.

Mae TB Gwartheg yn cael effaith ariannol a chymdeithasol fawr ar fusnesau fferm a'r gymuned wledig ehangach. Amcangyfrifir bod ymladd y clefyd yn costio tua £26m y flwyddyn yng Nghymru yn unig, trwy'r rhaglen rheoli TB a'r iawndal a delir i ffermwyr am ddifa eu gwartheg.

Mae Sêr Cymru II am gryfhau'n rhagoriaethau ymchwil a denu arbenigwyr ymchwil newydd i Gymru. Noddir y rhaglen gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, y Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru sy'n cymryd rhan a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop.