Munroe Bergdorf i annerch cynhadledd Trawsrywedd Aberystwyth

Munroe Bergdorf, y model trawsryweddol cyntaf y DU i’w phenodi’n wyneb brand ffasiwn rhyngwlado, fydd yn traddodi’r araith gyweirnod yn Dyfodol Traws Ni.

Munroe Bergdorf, y model trawsryweddol cyntaf y DU i’w phenodi’n wyneb brand ffasiwn rhyngwlado, fydd yn traddodi’r araith gyweirnod yn Dyfodol Traws Ni.

16 Hydref 2018

Mi fydd model trawsryweddol cyntaf y DU a benodwyd i fod yn wyneb brand ffasiwn rhyngwladol, yn annerch cynhadledd i bobl drawsryweddol a’u cynghreiriaid ym Mhrifysgol Aberystwyth yr wythnos hon.

Munroe Bergdorf fydd prif siaradwr cynhadledd Dyfodol Traws Ni sydd yn cael ei chynnal yng nghanolfan gynadledda Medrus y Brifysgol ddydd Mercher 17 Hydref 2018.

Cynhaliwyd y gynhadledd am y tro cyntaf, a’r gyntaf o’i bath yng Nghymru, ym mis Tachwedd 2017, ac mae’n cynnwys areithiau a gweithdai gan academyddion ac ymgyrchwyr trawsrywedd.

Mi fydd cynhadledd 2018, sydd yn rhad ac am ddim i’w mynychu, yn canolbwyntio ar gefnogi pobl drawsryweddol ac anneuaidd ac yn archwilio sut y gall pobl cisryweddol fod yn gynghreiriaid da.

Mae’r siaradwyr yn cynnwys yr awdur, yr artist a’r digrifwr ‘stand-up’ Shon Faye o Stonewall, a Jack Jackson, Model Traws y Flwyddyn Stonewall 2018.

Ymhlith y cyfranwyr eraill bydd Carole Bell o Bwyllgor Gwasanaethau Arbenigol Cymru a fydd yn trafod y gwasanaethau hunaniaeth o ran rhywedd sydd ar gael yng Nghymru, a’r cwnselydd Susie Lane.

Bydd John Harrington o Wasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr Prifysgol Aberystwyth a Holden Holcombe, myfyriwr PhD o’r Ysgol Gelf, yn trafod beth all prifysgolion ei wneud dros fyfyrwyr traws, a bydd Megan Talbot, ymchwilydd PhD yn y Gyfraith a Throseddeg, yn trafod beth i’w wneud pan nad yw’r Gyfraith yn amddiffyn hawliau pobl drawsryweddol.

Noddwyd y gynhadledd gan y cwmniau o gyfreithwyr Bryan Cave Leighton Paisner LLP a Blake Morgan LLP, ac eisoes profodd yn hynod boblogaidd gyda bron i bob sesiwn yn llawn.

Trefnir y gynhadledd gan staff a myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth gyda chymorth Prism, rhwydwaith LGBT Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Ruth Fowler, Swyddog Cydraddoldeb Prifysgol Aberystwyth a chadeirydd pwyllgor trefnu’r gynhadledd: “Rwyf wrth fy modd bod y gynhadledd yn cael ei chynnal eto eleni yma ym Mhrifysgol Aberystwyth, a gyda siaradwyr sy’n ysbrydoli megis Munroe Bergdrof a Shon Faye. Diolch yn fawr i’r pwyllgor trefnu a’r noddwyr Bryan Cave Leighton Paisner LLP a Blake Morgan LLP sydd wedi gwneud hyn i gyd yn bosibl. Bydd un o’r noddwyr yn bresennol yn y gynhadledd i unigolion drafod gyrfaoedd posibl yn y gyfraith, felly mae hyn yn gyfle cyffrous i’n myfyrwyr presennol. Y gynhadledd hon yw’r gyntaf o’i bath yng Nghymru ac rwy’n hynod falch ein bod yn hyrwyddo cydraddoldeb traws yma yn Aber.”

Cafodd Dyfodol Traws Ni ei chynnwys ar restr fer Categori Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Gwobrau Adnoddau Dynol y Prifysgolion (UHR) yn gynharach eleni, ac mae wedi’i chynnwys ar restr fer categori Menter Cynhwysiant ac Amrywioldeb 2018 CIPD Cymru.

Mae mwy o fanylion ar gael ar y wefan Dyfodol Traws Ni.