Hacio Pwmpen

16 Hydref 2018

Adeilad yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth fydd yn darparu’r cefndir gothig ar gyfer achlysur Clwb Roboteg Aberystwyth, ‘Hacio Pwmpen’, ddydd Sadwrn 20 Hydref.

Gweithdy i’r teulu yw hwn, a gynhelir rhwng 12-4pm ac sy’n cael ei anelu at blant 6–12 oed a’u rhieni, ac a fydd yn cynnig cyfle i deuluoedd gyfuno dawn greadigol â dysgu rhaglennu cyfrifiadurol a chynllunio cylched.

“Yn ystod y pnawn, byddwn yn dylunio pen pwmpen a chyda cymorth ein myfyrwyr-lysgenhadon byddwn wedyn yn cerfio’r cynllun ar bwmpen go iawn,” esboniodd Dr Hannah Dee, uwch ddarlithydd Cyfrifiadureg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yn aelod o Glwb Roboteg Aberystwyth.

“Bydd teuluoedd yn dysgu am gylchedau a sodro wrth iddyn nhw wneud set o oleuadau i fynd y tu mewn i'r bwmpen, ac fe fyddan nhw’n dysgu am raglennu wrth fynd ati i wneud i’r goleuadau fflachio."

Mae'r gweithdy’n un rhad ac am ddim ond mae angen cofrestru gan fod nifer y llefydd yn gyfyngedig. Bydd pawb sy’n cymryd rhan yn gallu mynd a’u pwmpenni gartref gyda nhw (ond noder y bydd tâl £8 yn cael ei godi os am fynd a’r offer electronig hefyd).

I gael mwy o wybodaeth ac i archebu lle, ewch i wefan archebu Eventbrite:
http://pumpkin.aberrobotics.club.