Prifysgol Aberystwyth i gynnal trydedd ddarlith goffa David Trotter

Y diweddar Athro David Trotter

Y diweddar Athro David Trotter

19 Hydref 2018

Bydd Dr Laura Wright o Brifysgol Caergrawnt yn traddodi trydedd ddarlith goffa David Trotter ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Iau 25 Hydref 2018.

Teitl darlith Dr Wright, sy’n Ddarllenydd mewn Saesneg, fydd ‘A Christmas tradition that you will probably not wish to revive’.

Cynhelir y ddarlith gan yr Adran Ieithoedd Modern yn Ystafell Seddon yr Hen Goleg am 6yh, gyda derbyniad diodydd o 5.15yp ymlaen. Mae croeso cynnes i bawb.

Mae Dr Wright yn arbenigwr ar hanes tafodiaith Llundain, gan gynnwys testunau newid cod-iaith wedi’u hysgrifennu yn yr Eingl-Normaneg, Lladin Canoloesol a Saesneg Canol, yn ogystal â Saesneg Llundain yn y 17eg, 18fed a 19eg ganrif.

Dywedodd Dr Guy Baron, Pennaeth Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth: “Roedd yr Athro Trotter yn academydd arbennig ac mae ei ddylanwad yn parhau hyd heddiw ar ffurf Prosiect y Geiriadur Eingl-Normaneg sy’n dal i ddenu nawdd sylweddol gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau.

“Bu’n arwain yr Adran Ieithoedd Modern am flynyddoedd lawer ac yn ddi-flino ei ymdrech dros yr adran a’i staff. Roedd yn academydd doeth ac uchel ei barch oedd yn meddu ar synnwyr digrifwch na chafodd erioed ei golli o fewn y bywyd academaidd.”

Roedd yr Athro David Trotter yn awdurdod rhyngwladol blaenllaw ar iaith a geiriaduraeth Ffrangeg ac yn bennaeth Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth.

Roedd yn gyn-lywydd y Société de Linguistique Romane (2013-15) ac yn aelod gohebol o’r Académie des Inscriptions et Belles-Lettres ym Mharis. Roedd hefyd yn enillydd y Prix Honoré Chavée ac yn gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru.

Roedd yn raddedig o Goleg y Frenhines Rhydychen, a chafodd ei benodi i’r gadair Ffrangeg yn Aberystwyth yn 1993.