Achrediad Cyflog Byw Go Iawn i’r Brifysgol

05 Tachwedd 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi’i hachredu’n swyddogol fel cyflogwr Cyflog Byw Go Iawn.

Llwyfannu Cân i Gymru 2019 yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

02 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd mai Canolfan y Celfyddydau ar gampws Prifysgol Aberystwyth fydd y lleoliad ar gyfer Cân i Gymru 2019 pan fydd y gystadleuaeth yn dathlu ei hanner can mlwyddiant.

Ysgrifennu Hunaniaethau Cymreig

06 Tachwedd 2018

Llenyddiaeth gyfoes am fywyd Cymreig yng Nghymru fydd testun cynhadledd hanner diwrnod a gynhelir yn adeilad Hen Goleg ddydd Sadwrn 24 Tachwedd.

Nifer yr ymgeiswyr benywaidd yn etholiadau hanner tymor yr UD yn torri record

07 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Jenny Mathers o Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol y Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.

Dot a Billy: llythyrau caru yn datgelu profiadau bywyd y Rhyfel Byd Cyntaf

09 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Sian Nicholas o Adran Hanes a Hanes Cymru'r Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation.

Stoc tai gwael yn y DU yn achosi argyfwng iechyd yn y gaeaf

12 Tachwedd 2018

Yn ysgrifennu yn The Conversation, mae'r Dr Judith Thornton, Rheolwr Carbon Isel ym Mhrosiect BEACON Prifysgol Aberystwyth, yn trafod sut y gellid lleihau'r nifer o farwolaethau sy'n digwydd yn y gaeaf trwy wella'r stoc tai

Gwobr o £10,000 ar gael i fyfyrwyr mentrus

13 Tachwedd 2018

Mae rhifyn 2019 cystadleuaeth menter myfyrwyr Prifysgol Aberystwyth wedi’i lansio, gyda gwobr o £10,000 i’r ymgeisydd buddugol.

Yr Adran Gyfrifiadureg yn derbyn gwobr Athena SWAN

13 Tachwedd 2018

Yr Adran Gyfrifiadureg yw’r adran academaidd gyntaf ym Mhrifysgol Aberystwyth i dderbyn Gwobr Athena SWAN.

Sut gall hiwmor newid eich perthynas

14 Tachwedd 2018

Gan ysgrifennu yn The Conversation mae’r darlithydd Seicoleg, Dr Gil Greengross, yn trafod rôl hiwmor mewn perthynas.

Awdur ffeministaidd chwedlonol i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz

15 Tachwedd 2018

Yr Athro Cynthia Enloe, arloesydd ym meysydd rhyw a rhyfel, militariaeth, economeg wleidyddol a gwleidyddiaeth rhyngwladol, fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz 2018.

Dathlu cynnydd gwaith adeiladu gyda seremoni llofnodi’r dur

16 Tachwedd 2018

Mae’r cam diweddaraf yn y gwaith adeiladu ar Gampws Arloesi a Menter Aberystwyth wedi’i nodi mewn seremoni arbennig.

Lansio cyfres o straeon i blant

16 Tachwedd 2018

Mae tri awdur adnabyddus, sy’n raddedig o Brifysgol Aberystwyth, wedi cyfrannu at greu cyfres o straeon newydd i blant.

Tymheredd iâ yn gynhesach na’r disgwyl ar relwif ucha’r byd

19 Tachwedd 2018

Mae tymheredd yr iâ o fewn rewlif ucha’r byd ar lethrau Mynydd Everest yn gynhesach na'r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd gan rewlifegwyr o brifysgolion Aberystwyth, Kathmandu, Leeds a Sheffield.

Cyn-fyfyriwr PhD o Aber yn ennill Gwobr y Gymdeithas Eingl-Thai

19 Tachwedd 2018

Mae cyn-fyfyriwr PhD o’r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol wedi derbyn gwobr gan y Gymdeithas Eingl-Thai.

Dinasyddiaeth yng nghysgod Brexit

19 Tachwedd 2018

Wrth i'r dadlau gwleidyddol o amgylch ymadawiad y DU â’r Undeb Ewropeaidd barhau, mi fydd Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru (6.30yh, Dydd Gwener 23 Tachwedd) yn trafod dinasyddiaeth yng nghyfnod Brexit.

I fyny bo’r nod: personal, civic and spiritual ambition in late-Victorian Wales

20 Tachwedd 2018

Uchelgais, cysyniad a ddaeth yn “obsesiwn” gan y Cymry tua diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, fydd pwnc darlith gyhoeddus Cymdeithas Ddysgedig Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 20 Tachwedd 2018.

Cerddoriaeth gerddorfaol yn fyw ar garreg y drws

20 Tachwedd 2018

Mae Philomusica wrthi’n paratoi i ddifyrru cynulleidfaoedd gyda pherfformiad godidog yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr.

Cicio’r Bar i ddathlu llwyddiant eisteddfodol

21 Tachwedd 2018

Bydd cyfres newydd o nosweithiau barddoniaeth a cherddoriaeth yn cael ei lansio yn Stiwdio Berfformio Canolfan y Celfyddydau Prifysgol Aberystwyth nos Iau 22 Tachwedd 2018.

Ysgoloriaethau ‘GREAT’ i fyfyrwyr o Faleisia i astudio yn Aberystwyth

21 Tachwedd 2018

Mae Prifysgol Aberystwyth yn un o bum prifysgol yn y DU sy’n gweithio ar y cyd â’r Cyngor Prydeinig i gynnig ysgoloriaethau i fyfyrwyr o Faleisia.

Prifysgol Aberystwyth yn y Ffair Aeaf

22 Tachwedd 2018

Bydd gwyddonwyr o Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn Ffair Aeaf Frenhinol Cymru yr wythnos nesaf, sef dydd Llun 26 a dydd Mawrth 27 Tachwedd 2018.

Achubwyd 10,000 o blant yn Kindertransport 1938 ond mae'n anodd ei ddisgrifio fel llwyddiant

22 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Andrea Hammel o Adran Ieithoedd Modern y Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation. 

Arddangosfa: ‘This Is How It Feels’

22 Tachwedd 2018

Dynion trawsryweddol a’u teithiau trawsnewidiol fydd ffocws arddangosfa gelf newydd sy’n agor yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth ddydd Iau 22 Tachwedd 2018.

Gwella ansawdd bwyta a gwerth Cig Eidion Cymreig PGI

23 Tachwedd 2018

Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda phartneriaid academaidd a diwydiannol ar brosiect ymchwil newydd i helpu i gynhyrchu Cig Eidion Cymreig PGI sy’n uwch ei werth, a thrwy hynny hybu hyfywedd ariannol cynhyrchwyr Cig Eidion Cymreig PGI ar ôl Brecsit.

Cynhadledd undydd i ddathlu’r hengerdd

23 Tachwedd 2018

Bydd penblwydd cyhoeddi dwy gyfrol nodedig o lenyddiaeth Gymraeg yn cael ei ddathlu ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Sadwrn 24 Tachwedd 2018.

Theatr y Werin yn cael ei hailagor gan yr Arglwydd Elis-Thomas yn dilyn buddsoddiad sylweddol

26 Tachwedd 2018

Mae un o theatrau mwyaf blaenllaw Cymru, Theatr y Werin yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth, wedi’i hailagor yn swyddogol yn dilyn gwaith adnewyddu sylweddol.  

Datod gwlân o Brydain: sut mae'r lleol a'r byd-eang wedi'u cydblethu wrth greu cynnyrch bob dydd

26 Tachwedd 2018

Cyhoeddwyd yr erthygl hon gan Dr Jesse Heley a Dr Laura Jones o Adran Daearyddiaeth y Brifysgol, yn wreiddiol yn y Saesneg ar wefan The Conversation

Ymchwil newydd i hyrwyddo heddwch a chymodi yn Colombia

27 Tachwedd 2018

Mae academydd o Brifysgol Aberystwyth wedi derbyn arian ar gyfer prosiect ymchwil unigryw i feithrin heddwch a chymod yn dilyn gwrthdaro yn Colombia.

Cymrodoriaeth newydd Marie Sklodowska-Curie

27 Tachwedd 2018

Mae Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth yn croesawu Cymrodoriaeth Unigol Marie Sklodowska-Curie i astudio annibyniaeth a didueddrwydd cyrff anllywodraethol rhyngwladol mawr (INGOs) mewn perthynas â phleidiau’r wladwriaeth.

Hanes llwyddiant y Kindertransport yn “rhy simplistig” yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth

28 Tachwedd 2018

Wrth i 80 mlwyddiant y Kindertransport gael ei nodi, mae ymchwil gan academydd o Brifysgol Aberystwyth yn awgrymu y dylid edrych ar yr etifeddiaeth mewn modd mwy beirniadol.

Darlith gyhoeddus: ‘E H Carr: Nationalism and the Nation-State in an Age of Crisis’

29 Tachwedd 2018

Bydd arbenigwr blaenllaw ar bolisi tramor yr Unol Daleithiau ac awdur toreithiog ar y Rhyfel Oer yn siarad ym Mhrifysgol Aberystwyth ddydd Mawrth 4 Rhagfyr 2018.