Awdur ffeministaidd chwedlonol i draddodi Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

Adeilad Gwleidyddiaeth Ryngwladol, Prifysgol Aberystwyth

15 Tachwedd 2018

Yr Athro Cynthia Enloe, arloesydd ym meysydd rhyw a rhyfel, militariaeth, economeg wleidyddol a gwleidyddiaeth rhyngwladol, fydd yn cyflwyno Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz 2018.

Cynhelir y ddarlith, ‘Wounds: a Feminist Understanding of Intimacy and War’, nos Iau 15 Tachwedd 2018 ym Mhrif Neuadd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth am 6 yr hwyr.

Mae'r ddarlith yn rhan o Gyfres Canmlwyddiant yr Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol, sydd yn dathlu sefydlu Cadair Woodrow Wilson yn 1919.

Mae'r Athro Enloe (Prifysgol Clark, Massachusetts) yn awdur toreithiog. Mae ei llyfr mwyaf adnabyddus, Bananas, Beaches and Bases, yn esbonio na ellir deall pŵer mewn systemau diplomyddol, milwrol, economaidd ac eraill heb ofyn 'Ble mae'r menywod?'.

Mae llyfrau adnabyddus eraill ganddi yn cynnwys Gender is not Enough: The Need for Feminist Consciousness, a Nimo’s War, Emma’s War: Making Feminist Sense of the Iraq War. Ei gwaith diweddaraf yw The Big Push: Exposing and Challenging Persistence of Patriarchy - pwnc ag arwyddocâd cyfoes aruthrol.

Dywedodd yr Athro Ken Booth, Llywydd Sefydliad Coffa David Davies: “Rydym wir yn ffodus, mewn cyfnod eithriadol dymhestlog yng ngwleidyddiaeth y byd, o gael croesawu yr Athro Enloe i'n cynorthwyo i feddwl am gymhlethdodau pŵer, pwy sy'n cael eu cymryd o ddifrif, a pham bod materion rhyw yn bwysig. Mae'r Athro Enloe yn siaradwr cyhoeddus enwog a heriol.”

Sefydlwyd Darlith Flynyddol Kenneth N Waltz i ddathlu gwaith un o'r damcaniaethwyr mwyaf dylanwadol ym maes cysylltiadau rhyngwladol a ffrind da i Aberystwyth.

Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ac mae croeso i bawb.