Cerddoriaeth gerddorfaol yn fyw ar garreg y drws

Philomusica

Philomusica

20 Tachwedd 2018

Mae Philomusica wrthi’n paratoi i ddifyrru cynulleidfaoedd gyda pherfformiad godidog yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth ddydd Sadwrn 8 Rhagfyr.

Caiff y gerddorfa symffoni, sydd wedi ennill sawl gwobr, ac sy’n dod â chymuned Aberystwyth a’r Brifysgol at ei gilydd, ei harwain gan Gyfarwyddwr Cerdd y Brifysgol, Dr David Russell Hulme, sy’n gweithio’n rhyngwladol fel arweinydd.

Y gerddorfa hon, sy’n cynnwys wyth deg o fyfyrwyr ynghyd â cherddorion amatur a phroffesiynol, yw un o’r grwpiau mwyaf a mwyaf llwyddiannus o’i fath yng Nghymru ac mae iddi nifer sylweddol o ddilynwyr.

Yn ôl yr arfer, bydd rhaglen Philomusica’n cynnwys cyfuniad dychmygus o gerddoriaeth gerddorfaol, gan gyfuno ffefrynnau a darganfyddiadau newydd.

Dywed yr arweinydd David Russell Hulme: “Mae adeiladu rhaglen yn debyg y gynllunio bwydlen - cyfuno ffefrynnau ac arlwy anghyfarwydd i bobl allu ei brofi a’i fwynhau.”

“Un o’r agorawdau cyngerdd mwyaf poblogaidd, Carnifal bywiog Dvořák, fydd yn dechrau’r noson. Mae trefniant cerddorfaol rhagorol Ravel o waith Mussorgsky Darluniau mewn Arddangosfa yn glasur fydd yn dangos y gerddorfa ar ei gorau. Caiff canmlwyddiant marwolaeth annhymig yr athrylith drasig Morfydd Owen ei nodi â pherfformiad o’i darn hudolus Nocturne.

“Yn olaf ceir perfformiad o’r Concerto Ewffoniwm swynol a lliwgar gan y cyfansoddwr o Gymro Paul Mealor, a ddaeth yn adnabyddus gyda’r darn Ubi Caritas ym mhriodas Dug a Duges Caergrawnt. Bydd y perfformiad yn arddangos meistrolaeth ryfeddol a sain odidog yr unawdydd Philippe Schwartz, un o chwaraewyr ewffoniwm gorau’r byd.”

Mae cyngherddau Philomusica yn ddigwyddiadau cerddorol byw gwych, sy’n denu cynulleidfaoedd mawr. Dr Hulme sy’n egluro: “Daw cerddoriaeth â’r Brifysgol a’i chymuned at ei gilydd mewn modd unigryw. Gan gydweithio i greu rhywbeth arbennig iawn, rydym ni’n rhannu ein perfformiadau gyda chynulleidfaoedd yng Nghanolfan y Celfyddydau mewn cyngherddau sy’n cynnig cyfle gwych i arddangos y berthynas ryfeddol o fywiog hon.”

Cynhelir cyngerdd Philomusica am 8pm nos Sadwrn 8 Rhagfyr yn y Neuadd Fawr yng Nghanolfan Celfyddydau Aberystwyth.  Mae tocynnau ar gael o’r Swyddfa Docynnau, am £12 (£11 gostyngiadau) neu £3.50 yn unig i fyfyrwyr – 01970 623232 / www.aberystwythartscentre.co.uk.

Sgwrs cyn y cyngerdd

Bydd Dr Rhian Davies, cofiannydd Morfydd Owen ac arbenigwr blaenllaw, yn cyflwyno sgwrs cyn y cyngerdd yn Stiwdio Canolfan y Celfyddydau, fydd yn ystyried gwaddol y cyfansoddwr a fu farw yn Ystumllwynarth ar 7 Medi 1918.

Ganed Morfydd Owen yn Nhrefforest a graddiodd mewn cerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ym 1912.  Wedi hynny fe astudiodd gyfansoddi gyda Frederick Corder yn yr Academi Gerdd Frenhinol nes 1917.  Ei chyfeillgarwch â D.H. Lawrence ac Ezra Pound, ei phriodas hynod annisgwyl â’r seicdreiddiwr Freudaidd Ernest Jones a’i marwolaeth annisgwyl dair wythnos cyn ei phen-blwydd yn 27 mlwydd oed sydd oll yn cael y sylw mwyaf. 

Ond cydnabyddid hefyd mai Morfydd oedd cyfansoddwr mwyaf talentog ei chenhedlaeth, ac wrth i gyhoeddiadau a pherfformiadau gynyddu, felly hefyd y daeth hi unwaith eto i’r amlwg yn y rhan allweddol oedd ganddi ym maes cerddoriaeth Gymreig ar droad yr ugeinfed ganrif.

Bydd ‘A refined and beautiful talent’: thoughts on the centenary of the death of Morfydd Owen (1891–1918) yn dechrau am 6.30pm.  Mynediad am ddim trwy docyn: https://www.aberystwythartscentre.co.uk/cy/talks-spoken-word/morfydd-owen-talk-dr-rhian-davies