Hanes llwyddiant y Kindertransport yn “rhy simplistig” yn ôl academydd o Brifysgol Aberystwyth

Dogfennau Kindertransport tri plentyn a deithiodd o Awstria i'r Deyrnas Unedig yn 1939. (Jewish Chronicle Archive/Heritage-Images)

Dogfennau Kindertransport tri plentyn a deithiodd o Awstria i'r Deyrnas Unedig yn 1939. (Jewish Chronicle Archive/Heritage-Images)

28 Tachwedd 2018

Wrth i 80 mlwyddiant y Kindertransport gael ei nodi, mae ymchwil gan academydd o Brifysgol Aberystwyth yn awgrymu y dylid edrych ar yr etifeddiaeth mewn modd mwy beirniadol.

Fe gyrhaeddodd trên cyntaf y Kindertransport  Deyrnas Unedig ar yr ail o Ragfyr 1938 gyda 200 o blant ar ei fwrdd a oedd yn ffoi rhag erledigaeth yn y Reich Almaeneg. Dyma oedd dechrau un o ymdrechion achub plant mwyaf arwyddocaol y DU.

Cyflwynwyd y cynllun oedd yn hepgor yr angen am fisâ yn dilyn pogrom Kristallnacht ym mis Tachwedd 1938, a’r pwysau a ddaeth yn ei sgil ar i lywodraeth y DU gynorthwyo dinasyddion Iddewig yn yr Almaen.

Erbyn i’r cynllun ddod i ben ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, roedd tua 10,000 o blant a phobl ifanc wedi teithio i’r DU.

Mae Dr Andrea Hammel, Darllenydd mewn Almaeneg yn Adran Ieithoedd Modern Prifysgol Aberystwyth, wedi cyfweld â nifer o’r rhai a deithiodd i’r DU wedi iddynt gael eu gwahanu o’u teuluoedd.

Mewn darlith yn dwyn y teitl ‘80 Years on: The Kindertransport 1938/39 and Refugees in the UK today: Can we learn from history?’, bydd Dr Hammel yn ystyried yr hyn sy’n debyg rhwng y Kindertransport a hynt ffoaduriaid o ryfel cartref Syria heddiw.

Dywedodd Dr Hammel: “Erbyn heddiw, mae etifeddiaeth y Kindertransport yn aml yn cael ei thrafod fel enghraifft bositif o agwedd ddyngarol y DU tuag at ffoaduriaid yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae ymchwil dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wedi dangos y dylid edrych ar etifeddiaeth Kindertransport 1938/39 mewn golau mwy beirniadol.  

“Mae’n wir dweud taw llywodraeth y DU gychwynodd y cynllun hepgor fisâu, ond elusennau a gwirfoddolwyr fu’n bennaf gyfrifol am ddarparu’r gefnogaeth ariannol a’r trefniadau ymarferol. Dim ond y rhai a oedd o dan 17 oed oedd yn gymwys i chwilio lloches yn y DU. Gosodwyd meini prawf llym iawn i oedolion a bu mwyafrif o’r ceisiadau hynny yn aflwyddiannus.

“Mae prinder y data ystadegol am y Kindertransport yn peri rhwystredigaeth; bellach amcangyfrifir mai dim ond tua hanner y 10,000 a welodd un neu ddau o’u rhieni eto.  Bu’n rhaid i eraill ddioddef y trawma o glywed bod eu rhieni wedi eu llofruddio yn yr Holocost. Ac i’r rhieni a’r plant adunwyd wedi 1945, nid diweddglo hapus a syml a gafwyd fel rheol. I’r mwyafrif, roedd nifer o flynyddoedd wedi mynd heibio â’r plant a’u rhieni wedi colli’r cysylltiad emosiynol a’r cefndir ieithyddol a diwylliannol yr oeddent yn arfer ei rannu.”

“Mae’n rhy syml i ddisgrifio Kindertransport fel llwyddiant yn unig. Achubwyd o ddeutu 10,000 o bobl, ond talwyd pris mawr gan lawer ac yn aml, nid oedd modd adfer hyd yn oed y teuluoedd a ddaeth yn ôl at ei gilydd.”

Ar 15 Tachwedd 2018, bu Dr Hammel yn rhan o wasanaeth yn Llundain i goffau’r Kindertransport. Trefnwyd y digwyddiad gan yr Arglwydd Alf Dubs, a deithiodd i’r DU ar y Kindertransport yn chwech oed, a’i sefydliad Safe Passage sy’n ymgyrchu dros ffoaduriaid heddiw.

Bydd Dr Hammel yn mynychu gwasanaeth coffa ym mhrifddinas Berlin ar 6 Rhagfyr 2018, sy’n cael ei gynnal gan Swyddfa Dramor yr Almaen a Llysgenhadaeth Prydain.

Cynhelir y ddarlith 80 Years on: The Kindertransport 1938/39 and Refugees in the UK today: Can we learn from history? nos Lun 3 Ragfyr 2018 am 6yh yn ystafell ddarlithio D54, adeilad Hugh Owen ar gampws Penglais. Croeso i bawb.  

Cyhoeddwyd erthygl gan Dr Hammel - The 1938 Kindertransport saved 10,000 children but it's hard to describe it as purely a success- ynThe Conversation ddydd Iau 22 Tachwedd 2018.