Arddangosfa o brintiau yn ymweld ag Oriel yr Ysgol Gelf

Llun: Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth

Llun: Amgueddfa ac Orielau Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth

21 Chwefror 2019

Yr wythnos hon, agorodd arddangosfa deithiol o brintiau yn Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

MaePrint REbels yn fyfyrdod ar Gymdeithas Frenhinol yr Arlunwyr-Gwneuthurwyr Printiau - ei haelodau blaenorol a phresennol, ei hanes a’i hetifeddiaeth.  

Cynhaliwyd yr arddangosfa gyntaf yn Oriel Bankside y Gymdeithas yn Llundain yn 2018, ac mae’n nodi 200 mlynedd ers geni sylfaenydd a Llywydd cyntaf y Gymdeithas, Syr Francis Seymour Haden. 

O ddydd Llun 18 Chwefror tan ddydd Gwener 3 Mai 2019, bydd yr arddangosfa deithiol yn ymweld ag Oriel Ysgol Gelf Prifysgol Aberystwyth.

Dywedodd Neil Holland, Uwch Guradur yn yr Ysgol Gelf: “MaePrint REbels yn dwyn ynghyd gasgliad o brintiau uchel eu bri gan Haden a'r artistiaid a fu'n ysbrydoliaeth iddo, megis Rembrandt a Dürer, a'i gyfoedion, gan gynnwys Samuel Palmer a James Abbott McNeill Whistler.  

"Crëwyd yr arddangosfa gan Edward Twohig ARE, gwneuthurwr printiau, casglwr, a Phennaeth Celf Coleg Marlborough. Deallai Twohig bod gwneuthurwyr printiau megis Haden, Whistler a Palmer yn gwrthryfela yn erbyn y farn gyffredinol yn y byd celf yng nghanol oes Fictoria ac mewn sefydliadau megis yr Academi Frenhinol, mai ffordd o atgynhyrchu peintiadau yn unig oedd printiau, yn hytrach na chyfrwng creadigol yn ei hawl ei hun. Fe wnaeth eu gwaith fraenaru’r tir ar gyfer yr Adfywiad Ysgythriadau a welwyd ym Mhrydain dros y 75 mlynedd nesaf. 

"Mae rhan o'r arddangosfa hon yn cynnwys corff o brintiau mwy cyfoes gan aelodau’r Gymdeithas, o gasgliad yr Ysgol Gelf. Mae'r arddangosfa hefyd yn cynnwys gweithiau gan aelodau a llywyddion cynharach y Gymdeithas sydd wedi bod yn rhan o gasgliadau Prifysgol Aberystwyth ers y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd."

Bydd Print REbels yn cael ei arddangos yn Oriel yr Ysgol Gelf, Buarth Mawr, Aberystwyth, rhwng 18 Chwefror - 3 Mai 2019. Mae'r Oriel ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 10yb-5yp, ac eithrio 19-23 Ebrill pan bydd yr Oriel ar gau dros y Pasg. Mae mynediad am ddim ac mae croeso i bawb.