Cyflwyno ceisiadau cynllunio’r Hen Goleg

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio am ganiatad llawn i drawsnewid yr Hen Goleg, adeilad a agorodd ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1872 a chartref cyntaf Prifysgol Cymru. Llun: Keith Morris.

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno ceisiadau cynllunio am ganiatad llawn i drawsnewid yr Hen Goleg, adeilad a agorodd ei ddrysau am y tro cyntaf yn 1872 a chartref cyntaf Prifysgol Cymru. Llun: Keith Morris.

22 Mawrth 2019

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi cyflwyno ceisiadau i Gyngor Sir Ceredigion am ganiatâd cynllunio i drawsnewid yr Hen Goleg ar gyfer yr 21ain ganrif.

Byddai'r prosiect i roi bywyd newydd i'r Hen Goleg yn darparu cyfleusterau diwylliannol, dysgu a menter newydd i'r Brifysgol, y gymuned leol a'r rhanbarth yn ehangach.

Cafodd yr argymhellion manwl ar gyfer y prosiect gwerth miliynau o bunnoedd eu datgelu yn ystod lansiad ymgynghoriad cyhoeddus 28 diwrnod a gynhaliwyd yn yr Hen Goleg ym mis Rhagfyr 2018.

Gellir gweld y cais am ganiatad cynllunio llawn ar wefan Cyngor Sir Ceredigion.

Mae'r cynlluniau yn cynnwys creu mannau ar gyfer celf ac arddangosfeydd eraill, gweithgareddau gwyddoniaeth, cyfleusterau cynadledda a thrafod, ystafelloedd addysgu ar gyfer ieithoedd a dysgu gydol oes, a gofod astudio 24 awr i fyfyrwyr.

Byddai’r Hen Lyfrgell â’i phaneli pren godidog yn cael ei defnyddio ar gyfer digwyddiadau a gwyliau, gyda’r lloriau uchaf yn cynnig llety o safon uchel mewn 30 ystafell.

Mae elfennau eraill yr ailddatblygiad yn cynnwys 12 o unedau busnes newydd ar gyfer y sector technolegau creadigol, gyda chefnogaeth gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (WEFO).

Byddai’r ailddatblygiad arfaethedig yn sbarduno adfywiad economaidd, gan greu hyd at 40 o swyddi newydd a denu dros 200,000 o ymwelwyr bob blwyddyn.

Dywedodd Dr Rhodri Llwyd Morgan, Cyfarwyddwr y Gymraeg a Chysylltiadau Allanol Prifysgol Aberystwyth: “Mae'r Hen Goleg yn un o adeiladau mwyaf adnabyddus Cymru ac yn fan geni Prifysgol Cymru, ond mae angen inni ail-gyflunio ei bwrpas ar gyfer cenhedlaeth newydd a sicrhau bod yr adeilad hynod hwn yn rhan gadarn unwaith eto o brofiad myfyrwyr Aberystwyth. Trwy roi bywyd newydd i'r Hen Goleg, byddwn hefyd yn diogelu rhan greiddiol o'n treftadaeth ac yn sicrhau dyfodol mwy cynaliadwy i’r adeilad rhestredig Gradd I hwn. Rydym wedi ymgynghori’n eang ac yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu tuag at ddatblygiad y cynlluniau cyffrous yma.”

Mae’r cynigion manwl i ailddatblygu'r Hen Goleg wedi’u llunio gan dîm o benseiri ac ymgynghorwyr treftadaeth profiadol, ac amcangyfrifir y bydd y gost yn £26.2m.

Caiff y costau eu cyllido’n rhannol trwy raglen fuddsoddi cyfalaf y Brifysgol ond cyllid allanol fydd y brif ffynhonnell, gan gynnwys grantiau gan sefydliadau ac ymddiriedolaethau elusennol, yn ogystal ag apêl gyhoeddus sylweddol i godi arian.

Cafodd y prosiect Bywyd Newydd i’r Hen Goleg gyllid datblygu rownd un o £850,000 gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol ym mis Gorffennaf 2017, ac mae disgwyl penderfyniad terfynol ar y grant llawn o £10.5m cyn diwedd 2019.

Y bwriad yw ailagor yn y flwyddyn academaidd 2022-2023 pan fydd y Brifysgol yn dathlu ei 150 mlwyddiant.